Mae nifer achosion y coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu a gofynnwn i'r holl drigolion ddilyn y canllawiau i leihau lledaeniad y feirws.

Bydd yr aberth a wnawn yn ystod yr wythnos i ddod yn helpu i leihau lledaeniad y feirws.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae'r Sir wedi gweld 107 o achosion newydd, gyda 57 o’r rheini yn ardal Aberteifi. Ond rydym hefyd yn gweld niferoedd sy’n cynyddu yn ardal Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r cynnydd sydyn hwn yn rhywbeth nad ydym yn gyfarwydd ag ef yng Ngheredigion ond nawr yw'r amser i weithio gyda'n gilydd i atal y lledaeniad ymhellach fyth.

Gofynnwn i chi gyfyngu ar y nifer o weithiau rydych yn gadael eich tŷ a'ch bod yn cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol – y lleiaf o bobl rydych chi'n cymysgu â nhw, y lleiaf tebygol y bydd y feirws yn lledaenu. Mae'n well gweld yr un un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl.  Yn y ddau achos, mae'n fwy diogel cwrdd â nhw yn yr awyr agored a sicrhau eich bod chi bob amser yn cadw pellter cymdeithasol 2 fetr.

Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Ond byddwch yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Ond archebwch brawf dim ond os oes gennych symptomau. Os nad oes gennych symptomau a'ch bod yn mynd am brawf ac yn cael canlyniad negatif, mae dim ond dweud wrthych nad oedd y feirws gennych dim ond ar y diwrnod hwnnw.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Os ydych wedi dod i gysylltiad ag achos positif neu os oes gennych chi neu aelod o'ch aelwyd symptomau, rhaid i chi i gyd hunan-ynysu ar unwaith. Mae hyn yn golygu na allwch adael y tŷ am ddim rheswm, heblaw mynd am brawf.

Os ydych chi'n cael prawf positif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eich symptomau, sy'n golygu y gallwch chi adael eich tŷ ar ddiwrnod 11. Os ydych chi'n gysylltiad achos positif, rhaid i chi hunan-ynysu am 14 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eu symptomau, sy'n golygu y gallwch chi adael y tŷ ar ddiwrnod 15. Mae'n hanfodol bod unrhyw un sydd angen hunan-ynysu yn cwblhau'r nifer llawn o ddiwrnodau.

Os yw’r Tîm Olrhain Cysylltiadau wedi cysylltu â chi ac os ydych wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu, efallai y bydd gennych hawl i Gymorth Ariannol o dan y Cynllun Taliad Cymorth Hunan-ynysu. Bydd taliad penodedig £500 ar gael i bobl sy'n gymwys ar sail incwm isel, yn methu â gweithio gartref ac, o ganlyniad, yn dioddef colled o ran incwm. I weld a ydych chi'n gymwys i gael y taliad hwn ac i wneud cais, ewch i Cynllun Cymorth hunan-ynysu.

Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau'n tynnu at ei gilydd i atal y feirws rhag lledaenu. Mae busnesau yn Aberteifi wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid tra bod eraill wedi cau o'u gwirfodd yn ystod y cyfnod hwn. Rydym hefyd wedi gweld ysbryd cymunedol gyda chefnogaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sy'n hunan-ynysu.

Cadwch yn wyliadwrus a chofiwch y negeseuon allweddol:

  • Cadwch bellter cymdeithasol 2 fetr oddi wrth eich gilydd pan fyddwch chi allan o gwmpas;
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd;
  • Cyfyngwch eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithiwch gartref lle bynnag y bo modd;
  • Gwisgwch fasg wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

30/11/2020