Wrth i ni symud i Gyfnod Addasu Pandemig y Coronafeirws COVID-19, rydym yn adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn i reoli’r feirws yng Ngheredigion.

Rydym yn cydnabod bod ein lleoliad daearyddol a’n poblogaeth denau a gwasgaredig wedi rhoi manteision pendant i ni o ran rheoli’r feirws. Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi rhoi nifer o strategaethau ar waith gyda’r nod o atgyfnerthu ein manteision a cheisio atal y feirws mewn modd gweithredol yn hytrach na chyfyngu a rheoli ei ymlediad drwy’r sir yn unig.

Yn gyntaf, mae’n bwysig cydnabod y 72,000 o drigolion yng Ngheredigion sydd wedi glynu’n arwrol at yr heriau a osodwyd gan y cyfnod cloi. Diolchwn i drigolion y sir am ddilyn y canllawiau mewn modd mor gaeth a diwyd, gan sicrhau bod y nifer sydd wedi eu heintio gan y coronafeirws wedi ei gadw’n gymharol isel, gyda 54 o achosion ar hyn o bryd.

O’r cychwyn cyntaf, blaenoriaeth Cyngor Sir Ceredigion oedd diogelu ei boblogaeth a chadw’r nifer a fyddai’n dal y coronafeirws a nifer y marwolaethau ohono mor isel â phosib. Ar y dechrau, roedd amcanestyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran y sefyllfa waethaf bosib yn rhagweld y byddai 600 o farwolaethau yn y Sir, ac nid oedd hyn yn dderbyniol i ni.

Y camau cyntaf oedd cael Ceredigion i lawr i’w phoblogaeth graidd, a oedd yn golygu gweithio gyda’r sector twristiaeth a’r Prifysgolion i gau eu cyfleusterau mewn modd diogel ac wedi’i reoli. Rydym yn ddiolchgar i’r busnesau a’r parciau carafán a weithiodd gyda ni i gau dros dro. Roedd y camau hyn yn golygu y lleihawyd y boblogaeth gan 35,000, a rhoddodd hyn bob cyfle i’r GIG ymdopi.

Cyn y cyfnod cloi swyddogol, caewyd drysau ein cartrefi gofal. Buom yn gweithio’n agos gyda’r cartrefi gofal preifat er mwyn sicrhau diogelwch ein pobl mwyaf bregus. Sefydlodd ein Tîm TGCh gyfleusterau fideo-gynadledda yn y cartrefi er mwyn galluogi’r trigolion i siarad gyda’u hanwyliaid yn rheolaidd.

Sefydlwyd Hwb Offer Amddiffyn Personol (PPE) i gydlynu'r offer ar gyfer gwasanaethau yn y sir. Sicrhaodd hyn yr ymgymerwyd a'r elfen hanfodol hon o'r ymateb coronafirws i gadw gweithwyr rheng flaen a defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel. Mae staff yn yr Hwb wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i sicrhau diogelwch y gweithwyr yma.

Yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn, darparwyd grantiau i fusnesau gan Lywodraeth Cymru. Dyrannwyd £25.8 miliwn yn ystod cyfnod y coronafeirws i fusnesau yng Ngheredigion sy’n hanfodol i economi’r sir, ac rydym yn annog y rheini nad ydynt wedi gwneud cais hyd yma i wneud hynny cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2020.

Ers i nifer o’n busnesau gau dros dro, mae nifer wedi trawsnewid dros nos i ddarparu gwasanaethau cyflenwi sydd wedi bod yn amhrisiadwy o ran galluogi unigolion bregus i aros yn niogelwch eu cartrefi. Mae busnesau hefyd wedi derbyn cyngor a chymorth gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a’r rheoliadau newydd.

Cysylltwyd â’r rhai sy’n agored i niwed ar sail feddygol a’r rhai sy’n cysgodi yng Ngheredigion dros y ffôn er mwyn sicrhau bod bwyd a meddyginiaeth yn cael eu cyflenwi ac er mwyn sicrhau eu diogelwch. Mae’r Cyngor yn darparu bocsys bwyd wythnosol gyda chynnyrch lleol i dros 950 o’n trigolion mwyaf bregus, ac mae staff y Cyngor yn cysylltu â dros 2,500 o unigolion sy’n cysgodi yn rheolaidd. Darparwyd cymorth er mwyn cadw pobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac mewn llety dros dro.

Yn ogystal, bu unigolion a grwpiau yn gwirfoddoli ledled Ceredigion i gyflenwi bwyd a meddyginiaeth i’r rheini sy’n cysgodi a chynnig cymorth a gwên o bellter cymdeithasol. Mae’r gwaith anhygoel y maent wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud yn glod i bob un ohonynt.

Darparwyd gofal plant i blant gweithwyr gwasanaethau rheng flaen ar draws y sir wrth barhau i ddarparu adnoddau a chymorth i ddisgyblion sy’n dysgu o gartref. Yn ogystal â hyn, mae nifer o staff ar draws holl ysgolion uwchradd Ceredigion wedi bod yn brysur yn cynhyrchu feisorau i staff gwasanaethau brys a gofal.

Mae’r Cyngor wedi parhau i ddarparu nifer o’i wasanaethau rheng flaen, ac mae nifer ohonynt wedi cael eu cefnogi gan staff o wasanaethau eraill sydd wedi gwirfoddoli i gael eu hadleoli. Mae eu parodrwydd i helpu wedi bod yn hanfodol wrth gynnal y gwasanaethau hyn, gan gynnwys rheoli gwastraff, cefnogi ein cartrefi gofal preswyl a’r Canolfannau Gofal Plant.

Datblygwyd system olrhain cyswllt gan y Cyngor ddechrau mis Ebrill, gan ddwyn ynghyd tîm o staff â sgiliau ym maes olrhain iechyd yr amgylchedd, diogelu data, adnoddau dynol a systemau data TGCh. Yn seiliedig ar holiadur, cafodd y system rheoli data ei llywio gan ein Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd sydd â phrofiad o olrhain achosion megis legionella a gwenwyn bwyd, ynghyd ag ymchwil yn seiliedig ar yr hyn a oedd yn digwydd mewn mannau eraill yn rhyngwladol. Ar y pryd, roedd nifer yr achosion yn isel, ac o ganlyniad rydym wedi gallu mynd ar drywydd pob achos hysbys ers ei weithredu.

Rydym hefyd yn cydnabod ein gwasanaethau cymorth nad ydych chi’n clywed amdanynt yn aml. Mae’r rhain wedi sicrhau bod rhan helaeth o'n gweithwyr yn gallu gweithio yn ddiogel ac yn effeithiol o’u cartrefi. Bu llawer iawn o waith hefyd o ran sicrhau bod trigolion a busnesau yn derbyn negeseuon allweddol yn brydlon drwy wefan y Cyngor, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy weithio mewn partneriaeth â’r wasg leol.

O’r cychwyn cyntaf, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Prifysgol Aberystwyth, busnesau a nifer o grwpiau gwirfoddol ac elusennol er mwyn sicrhau cydweithio a chyfathrebu effeithiol cyn ac ar ôl y cyfnod cloi.

Estynnwn ein diolch unwaith eto i’r holl staff sydd wedi addasu i’r ffordd newydd o weithio ac sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi trigolion a chymunedau Ceredigion dros y 3 mis diwethaf.

Credwn fod y cyfuniad o’r holl ymyriadau hyn, ynghyd â nifer o ffactorau eraill, wedi chwarae rhan wrth gefnogi ein trigolion yng Ngheredigion ac efallai eu bod wedi cyfrannu at y nifer isel o achosion sydd yn y sir ar hyn o bryd.

Rydym wedi gweithio fel tîm ac rydym yn parhau i wneud hynny, ac mae’r Coronafeirws wedi profi bod gennym dîm aruthrol yng Ngheredigion.

Rydym bellach yn canolbwyntio ar reoli’r cyfnod addasu a chydnerthedd hirdymor Ceredigion ar y cyd â’n holl bartneriaid, gan barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn cyfyngu ar unrhyw achosion yn y dyfodol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf, gydag economi’r sir yn flaenoriaeth. Rydym yn gweithio tuag at adeg pan allwn ailgychwyn gwasanaethau ac agor busnesau, ond dim ond pan fydd hi’n bosib i ni wneud hynny mewn modd sy’n ddiogel i drigolion Ceredigion.

Mae gwybodaeth bellach ynghylch Cyfnod Addasu’r Cyngor ar gael yma.

Ffigyrau yn gywir 25 Mehefin 2020

22/06/2020