Mae nifer yr achosion COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus.
Rydym bellach wedi cyrraedd y lefel uchaf o achosion ers dechrau'r pandemig, sef 225.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth (ar 20 Rhagfyr 2020).
Dyma pa mor dyngedfennol y mae'r sefyllfa wedi dod yng Ngheredigion ac felly rydym yn gofyn ichi feddwl o ddifrif am eich cynlluniau ar gyfer y Nadolig.
Mae'r amrywiad newydd o COVID-19 ym mhob rhan o Gymru. Mae'n lledaenu'n gyflymach ac mae angen i ni i gyd fod yn fwy gwyliadwrus a dilyn y canllawiau.
Mae Cymru wedi dechrau Rhybudd Lefel 4 sy'n golygu y medrwn fynd allan am fwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith yn unig, os na allwn weithio gartref. Medrir teithio dim ond pan yw’n hanfodol. Rhaid i ni beidio â chwrdd â phobl nad ydym yn byw gyda nhw, y tu mewn neu'r tu allan. Gall unigolyn sy'n byw ar eu pen ei hun neu riant sengl ffurfio swigen gefnogol gydag un cartref arall.
Bydd y rheolau hyn yn cael eu llacio ar gyfer diwrnod Nadolig gyda dwy aelwyd yn cael dod ynghyd i greu ‘swigen Nadolig’ yng Nghymru. Gall trydydd cartref ymuno â'r swigen Nadolig os:
- mae'n aelwyd lle mae un oedolyn yn byw ar ei ben ei hun;
- lle mae un oedolyn yn byw gyda phlant o dan 18 oed; neu
- lle mae mwy nag un oedolyn yn byw gyda’i gilydd, ond mae gan un oedolyn gyfrifoldebau gofalu am bob un o'r oedolion eraill yn y cartref.
Ond mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel. Os penderfynwch gwrdd ar Ddydd Nadolig, gwnewch hi'n fach ac yn lleol.
Rydym yn gofyn i chi feddwl a ddylech fod yn dod ynghyd gyda'ch teuluoedd eleni. Byddem i gyd yn hoffi treulio amser gyda'n teuluoedd mewn blwyddyn sydd wedi bod yn anodd, ond meddyliwch am y niwed y gallai hyn ei achosi.
Y lleiaf o bobl rydyn ni'n cymysgu â nhw yn ein cartrefi, y lleiaf o siawns sydd gennym ni o ddal neu ledaenu'r firws.
Trwy ddod at eich gilydd y tu mewn, mae'r risg o ledaenu'r firws yn cynyddu. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael y firws, a fydd yn arwain at nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn cynyddu. Yn anffodus, bydd hyn yn golygu mwy o farwolaethau o COVID-19. Ond, gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.
Peidiwch â rhoi aelodau hŷn eich teulu mewn perygl. Meddyliwch ai dyma'r peth iawn i ddod at ei gilydd y Nadolig hwn. Meddyliwch am ohirio tan y gwanwyn pan fydd llawer o’r bobl fwyaf agored i niwed wedi derbyn y brechlyn, bydd y tywydd yn well a gallwch fwynhau cwmni eich gilydd heb boeni lledaenu’r firws.
Er mwyn lleihau risg o drosglwyddo COVID-19, dilynwch yr ymddygiadau hyn:
- Gallwch ffurfio ‘swigen Nadolig’ unigryw sy’n cynnwys dim mwy na dwy aelwyd
- Dim ond mewn un swigen Nadolig y gallwch chi fod
- Ni allwch newid eich swigen Nadolig
- Cadwch eich Nadolig yn lleol
- Cadwch eich ymweliad yn fyr
- Cyfyngwch eich cyswllt cymdeithasol yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn enwedig am o leiaf pum niwrnod cyn i chi gwrdd ag aelwydydd eraill yn eich swigen, a thrwy weithio gartref os gallwch chi
- Gwnewch le rhwng aelodau o wahanol aelwydydd lle bynnag y gallwch, hyd yn oed yn eich swigen Nadolig, y tu mewn a'r tu allan
- Gadewch awyr iach ddod mewn i’r tŷ - ceisiwch gadw'ch ffenestri neu'ch drysau ar agor
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd
- Os ydych chi'n teimlo'n sâl neu os oes gennych symptomau COVID-19, peidiwch â ffurfio'r swigen Nadolig a rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith, gan adael cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein neu trwy ffonio 119
- Os oes rhaid i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwisgwch fwgwd wyneb bob amser a sicrhau eich bod yn ymarfer hylendid dwylo da - defnyddiwch lanweithydd dwylo yn rheolaidd.
Byddwch yn ymwybodol o symptomau COVID-19. Maent yn cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i arogl neu flas. Ond mae yna symptomau cynnar eraill hefyd, fel cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn wyliadwrus, yn enwedig i ymarfer hylendid dwylo a phellter cymdeithasol, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.
Yr anrheg orau y Nadolig hwn yw Nadolig heb COVID-19. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni hyn.
Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
21/12/2020