Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau newydd i leihau lledaeniad y Coronafeirws.

Er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach, cyhoeddodd y Prif Weinidog fesurau newydd a fydd yn dod i rym am 6pm ddydd Iau, Medi 24, 2020:

  • Bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau am 10pm a darparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig.
  • Bydd yn rhaid i bob siop ddiodydd drwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

Gofynnir i ni hefyd feddwl yn ofalus am y teithiau rydym ni’n eu gwneud, a dim ond teithio lle mae’n hanfodol gwneud hynny. Y lleiaf o bobl rydym yn cwrdd â nhw a’r lleiaf o deithiau rydym ni’n eu gwneud, y mwyaf diogel yr ydym ni i gyd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno’r mesurau canlynol:

  • Taliad newydd o £500 i helpu pobl ar incwm isel os gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd bod y coronafeirws arnynt;
  • Rheoliadau cryfach i sicrhau bod cyflogwyr yn cefnogi pobl sy’n gorfod hunanynysu.

Mae’r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cydgysylltiedig sy’n cael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y coronafeirws, ac mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

Bydd y mesurau newydd hyn yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â'r rhai sydd eisoes ar waith:

  • Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth eich gilydd wrth fynd ar hyd y lle.
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd.
  • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus caeedig, mewn siopau, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • O dan do, dim ond chwe o bobl y dylech gwrdd â nhw o’ch aelwyd estynedig (ac eithrio plant 11 oed ac iau).
  • Peidiwch â chwrdd â mwy na 30 o bobl y tu allan.
  • Gweithiwch gartref, lle bynnag y bo modd.
  • Meddyliwch yn ofalus am bob siwrne yr ydych yn ei wneud: dim ond teithio os oes angen gwneud. Y lleiaf o bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw a'r lleiaf o deithiau rydyn ni'n eu gwneud, y mwyaf diogel ydyn ni i gyd.

Mae angen i bawb ddilyn y rheolau a'r canllawiau a chymryd y camau i'w hamddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws i’w gweld yma. Rhif ffôn Canolfan Gyswllt Gorfforaethol y Cyngor yw 01545 570881.

24/09/2020