Mae Enfys James yn Swyddog Olrhain Cysylltiadau. Mae’n rhan o dîm sy’n gweithio o fewn Tîm Diogelu Iechyd y Cyhoedd i Gyngor Sir Ceredigion. Yma, cewch gipolwg ar ddiwrnod Swyddog Olrhain Cysylltiadau.

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn i chi ddechrau eich gwaith fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau?

EnfysCefais fy ngeni a’m magu yn Neuaddlwyd ger Aberaeron, a mynychais yr ysgol leol yng Nghiliau Parc, Ciliau Aeron, Ysgol Uwchradd Aberaeron, cyn symud ymlaen i’r Coleg Addysg Bellaf yn Aberystwyth i ymgymryd â Chwrs Ysgrifenyddol/Llaw-fer Dwyieithog.

Rwyf wedi gweithio i’r Awdurdod Lleol ers i mi gael fy mhenodi’n Glerc/Teipydd yn Adran Iechyd y Cyhoedd a Thai Cyngor Dosbarth Ceredigion ym mis Medi 1985. Ar ôl cael fy ailbenodi i fod yn Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol ac yn Gynorthwyydd Personol i Bennaeth y Gwasanaethau Ffordd o Fyw, ym mis Mai 2018 fe'm penodwyd i swydd Cysylltydd Cymunedol Porth y Gymuned. Fy rôl fel Cysylltydd Cymunedol oedd gweithio ar sail 1:1 gydag unigolion am hyd at 6 wythnos i wella eu lles cymdeithasol ac emosiynol, hybu annibyniaeth, a lleihau allgáu cymdeithasol, ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

Sut ddaethoch chi’n Swyddog Olrhain Cysylltiadau?

Pan ddarllenais yr hysbyseb swydd a’r disgrifiad swydd ar gyfer y Swyddog Olrhain Cysylltiadau ar dudalen Swyddi Gwag Cyngor Sir Ceredigion, meddyliais ‘Rwyf eisiau gwneud y rôl hon!” Roedd y swydd wir yn apelio ataf, ac roeddwn yn sicr eisiau bod yn rhan o dîm COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion.

Rwyf wastad wedi ymwneud â chlefydau heintus. Pan ddechreuais yn fy rôl gyntaf fel Clerc/Teipydd, roedd yn rhaid i mi gofnodi manylion pob clefyd heintus yn y sir. Yn ystod fy rôl fel Cynorthwyydd Personol, roedd yn rhaid i mi fynd ar drywydd achosion o glefydau heintus a chysylltu ag aelodau o'r cyhoedd y nodwyd bod ganddynt glefydau megis Campylobacter, Cryptosporidiwm, a Salmonela. Roedd y sgyrsiau ffôn hyn yn sensitif eu natur, ac roedd yn rhaid i mi ofyn rhai cwestiynau personol a chwblhau holiadur manwl ar y Gronfa Ddata Clefydau Heintus. Ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, meddyliais y byddai rôl Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn rhywbeth tebyg iawn.

Roedd fy nghyfweliad ar gyfer swydd y Swyddog Olrhain Cysylltiadau drwy Zoom, ac roedd hwn yn brofiad hollol newydd. Mi wnes i wisgo’n smart fel petawn i’n mynd i gerdded i mewn i ystafell, er mai dim ond mater o eistedd wrth fwrdd y gegin gyda fy ngliniadur oedd hi! O leiaf nad oedd neb yn gallu gweld fy nghoesau’n crynu!

Ni fydd yr un ohonom yn anghofio pandemig y Coronafeirws yn 2020. Ar ôl cael fy mhenodi’n Swyddog Olrhain Cysylltiadau, rwyf wedi sylweddoli ei bod yn rôl hollbwysig. Mae’n rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwerthfawr a sicrhau iechyd a diogelwch trigolion Ceredigion.

Disgrifiwch ddiwrnod arferol fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau

Mae’r Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau yn gweithredu o 8am tan 8pm saith diwrnod yr wythnos, ac rwy’n gweithio ar sail sifft.

Rwy’n gweithio ar gronfa ddata Olrhain Cysylltiadau Cymru Gyfan y GIG. Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ei safle ei hun, a bydd y gronfa ddata yn tynnu sylw at achosion positif newydd yn y sir ar unwaith drwy gydol y diwrnod gwaith ac yn ystod y nos.

Fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau, bydd achos yn cael ei ddyrannu i mi a byddaf yn gweithio arno nes ei fod wedi’i gwblhau’n llawn. Byddaf yn ffonio’r achos positif ar unwaith gan obeithio cael ateb. Os nad oes ateb, a bod opsiwn i adael neges, byddaf yn gwneud hynny. Bydd neges destun hefyd yn cael ei hanfon i roi gwybod iddynt fod angen i Wasanaeth Tracio ac Olrhain Cyngor Sir Ceredigion siarad â nhw ar frys ac y byddant yn cysylltu â nhw eto’n fuan.

Yn y lle cyntaf pan fyddaf yn gwneud yr alwad ffôn gychwynnol, byddaf yn gofyn iddynt gadarnhau eu henw llawn, eu cyfeiriad, eu dyddiad geni, a dyddiad eu prawf i wirio fy mod yn siarad gyda’r person sydd wedi cael prawf. Erbyn i mi gysylltu â nhw, byddant fel arfer wedi derbyn eu canlyniad, ond weithiau fi yw’r person cyntaf i roi gwybod iddynt eu bod wedi profi’n bositif am COVID-19. Mae yna groeso i’r bobl ni’n cysylltu â nhw siarad y Gymraeg neu’r Saesneg – ta beth y maent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad.

Unwaith yr wyf wedi cadarnhau fy mod yn siarad gyda’r person cywir, byddaf yn gofyn iddynt gadarnhau pa symptomau y maent wedi eu datblygu e.e. peswch, tymheredd, methu ag arogli neu flasu, ac ar ba ddyddiad y dechreuodd eu symptomau. Mae rhai achosion positif wedi bod yn asymptomatig, felly dim ond dyddiad y prawf sydd gennym i ddibynnu arno.

Bydd angen i mi wedyn gadarnhau pa leoliadau y maent wedi ymweld â nhw a gyda phwy y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ystod y 48 awr cyn i’w symptomau ddechrau hyd at yr adeg y byddaf yn cysylltu â nhw dros y ffôn. Mae’n hanfodol fy mod yn casglu gwybodaeth fanwl ynghylch y cysylltiadau yn eu cartref, y cysylltiadau nad ydynt yn rhan o’u cartref, a ydynt wedi bod yn y gwaith, a ydynt wedi mynd i unrhyw siopau, tafarnau, caffis neu fwytai, a ydynt wedi bod i ffwrdd ar wyliau ac ati. Mae’n rhaid i mi gasglu enwau’r holl gysylltiadau yn ogystal â dyddiadau geni, cyfeiriadau a rhifau ffôn y bobl y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw. Mae rhai achosion wedi cael hyd at 40 o gysylltiadau unigol, sy’n golygu y bydd yn rhaid i mi uwchlwytho manylion 40 person gwahanol. Mae adroddiad manwl hefyd yn cael ei deipio a’i ychwanegu at y cofnodion, ac mae’n rhaid cadw’r holl gofnodion yn gwbl gyfrinachol yn unol â chanllawiau GDPR.

Byddaf yn cynnig cyngor iddynt ynglŷn â hunanynysu, sy’n golygu aros gartref a pheidio â mynd allan, ddim hyd yn oed i siopa. Cynghorir iddynt gyfyngu ar gyswllt gyda phobl eraill yn eu cartref a chadw o leiaf 2m o bellter ar bob adeg. Rwyf hefyd yn rhoi gwybod iddynt pa mor bwysig yw hylendid da, golchi eu dwylo'n aml, glanhau arwynebau y maent wedi cyffwrdd â nhw megis tegellau, tapiau, handlenni drysau ac ati. Byddaf bob amser yn gwirio ac yn gofyn iddynt sut maen nhw'n meddwl y byddan nhw'n rheoli ac yn ymdopi â thasgau o ddydd i ddydd.

Unwaith y bydd y rhestr o gysylltiadau a lleoliadau wedi’i chwblhau, bydd yn cael ei hanfon ymlaen yn awtomatig at y Cynghorwyr Olrhain Cysylltiadau a fydd yn gyfrifol am ffonio’r rheini sydd wedi dod i gysylltiad a chynnig cyngor iddynt ynglŷn â hunanynysu.

Mewn rhai achosion, mae’r Tîm Olrhain Cysylltiadau wedi nodi achosion positif sydd wedi ffurfio clwstwr. Er enghraifft, mae’r achosion yn gysylltiedig drwy gynulliadau cymdeithasol neu drwy weithle, ac yna mae angen i’r Swyddog Olrhain Cysylltiadau weithredu fel ditectif i ryw raddau. Os ydym wedi derbyn dwsin o achosion positif sydd wedi bod yn bresennol yn yr un cynulliad cymdeithasol, mae angen i ni ddod o hyd i’r wybodaeth gefndir gywir gan bob unigolyn, sy’n ddiddorol ond yn gallu bod yn heriol.

Sut ydych chi’n gweithio fel tîm?

Arweinir y Tîm Olrhain Cysylltiadau gan 3 Arweinydd Gweithredol yr wyf yn adrodd iddynt yn ddyddiol.

Mae'r gallu i weithio fel tîm yn hanfodol, mae'n bwysig cyfathrebu'n ddyddiol, rhannu'r llwyth gwaith, a rhannu unrhyw safbwyntiau a syniadau. Nid yw'r tîm cyfan erioed wedi cyfarfod yn bersonol, dim ond drwy gyfathrebu ar Microsoft Teams, drwy e-bost neu dros y ffôn. Drwy gydol fy ngyrfa nid wyf erioed wedi profi dim byd tebyg iddo!

Beth ydych chi’n ei fwynhau am y gwaith?

Ers y diwrnod y dechreuais yn fy rôl fel Clerc/Teipydd ym 1985 rwyf wastad wedi mwynhau fy ngwaith ac wedi cael cymaint o wahanol gyfleoedd o fewn y Cyngor Sir. Rwy'n mwynhau popeth sy'n ymwneud â rôl Swyddog Olrhain Cysylltiadau.

Yr agwedd orau yw bod pob achos yr ydych yn delio ag ef yn wahanol. Pan fyddaf yn gwneud fy ngalwad cychwynnol i achos positif, rwy’n credu ei bod yn bwysig gofyn iddynt sut y maent yn teimlo cyn gynted ag y byddaf wedi cadarnhau eu manylion personol. Mae rhai achosion positif wedi bod yn wael iawn tra bod eraill wedi cael symptomau ysgafnach. Byddwch yn siarad â pherson ifanc sydd newydd ddechrau yn y Brifysgol neu berson oedrannus sydd wedi ymddeol. Mae pob achos yn cynnwys amrywiaeth o faterion gwahanol, gan amrywio o achosion syml i achosion cymhleth iawn lle mae'n rhaid i mi eu huwchgyfeirio at fy Rheolwyr.

Mae'n wir dweud eich bod yn datblygu perthynas gyda’r achos positif yn ystod y cyfnod byr y byddwch yn siarad gyda nhw ar y ffôn. Mae'r rhan fwyaf o'r achosion yr wyf wedi ymdrin â nhw wedi cydweithredu ac wedi bod yn barod i roi disgrifiad manwl i mi o'u gweithgareddau dyddiol. Mae hyn yn cynnwys gyda phwy y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw, ac os nad ydynt wedi gallu rhoi'r manylion cywir i mi yn ystod yr alwad ffôn gychwynnol maent wedi bod yn fwy na bodlon i mi eu ffonio'n ôl i dderbyn y manylion hynny.

Beth yw'r agwedd fwyaf heriol ar y gwaith?

Yr agwedd fwyaf heriol ar y gwaith yw casglu gwybodaeth gywir gan bob achos positif, a chael pob achos positif i roi cyfrif gonest a dibynadwy o'u cysylltiadau a'u lleoliadau.

Rwy’n dibynnu’n llwyr ar y wybodaeth yr wyf yn ei derbyn gan yr achosion positif. Mae fel cwblhau jig-so – er mwyn cwblhau’r darlun, mae angen i chi roi pob darn yn ei le. Fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau, mae’n bwysig ein bod yn olrhain eu holl gysylltiadau cyn gynted â phosibl. Yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn isel yn y sir.

Rwyf wedi cael fy nghyhuddo o fod yn dwyllwr. Roedd hon yn alwad hir a heriol iawn ac roedd yn rhaid i mi ddefnyddio tact a diplomyddiaeth i’w sicrhau fy mod yn Swyddog Olrhain Cysylltiadau.

Gall delio gydag achosion positif nad ydynt yn gallu siarad llawer o Saesneg fod yn heriol. Mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn cael y wybodaeth gywir ganddynt a hefyd sicrhau eu bod yn deall y cyngor a'r wybodaeth a roddaf iddynt.

Ar adegau, rwyf wedi cael achosion nad ydynt wedi cael gwybod eu bod wedi profi'n bositif a fi yw'r person cyntaf i ddweud wrthynt. Mae rhai o'r achosion hyn wedi bod yn emosiynol dros y ffôn ac rwyf wedi gorfod eu cysuro, ac ar ôl fy ngalwad gychwynnol byddaf yn sicrhau fy mod yn eu ffonio eto ddiwrnod yn ddiweddarach i wirio eu lles.

Mae hyn yn amlygu pa mor heriol ydyw yn ogystal â pha mor bwysig yw cael yr achosion positif i roi’r wybodaeth gywir bob amser.

Sut mae pobl wedi ymateb? 

Mae pob achos yr wyf wedi cysylltu ag ef wedi bod o gymorth mawr ac wedi darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol.

Mae'r achosion positif gyda symptomau wedi derbyn bod yn rhaid iddynt hunanynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eu symptomau, a bod yn rhaid i unrhyw un yn yr aelwyd nad yw'n arddangos symptomau hunanynysu am 14 diwrnod o'r adeg y dechreuodd y person cyntaf yn yr aelwyd gael symptomau. Gall rhoi gwybod i rywun sydd â ffordd brysur o fyw nad ydynt yn cael gadael eu cartref am 10 diwrnod fod yn heriol, ond maent yn derbyn y canlyniad ac yn gwybod pa mor beryglus yw pandemig COVID-19.

Pam fod eich gwaith yn bwysig i’w Cyngor?

Mae fy rôl fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn hollbwysig er mwyn amddiffyn yr holl drigolion a'n cymuned yng Ngheredigion drwy helpu i atal y feirws rhag trosglwyddo yn y gymuned a thorri'r gadwyn drosglwyddo.

Rwy'n cymryd fy rôl fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau o ddifrif, ac rwy’n ymfalchïo mewn coladu a throsglwyddo'r wybodaeth gywir a dderbyniaf o'n hachosion yng Ngheredigion. Os teimlaf fod angen uwchgyfeirio mater brys, byddaf yn rhoi gwybod i’m Harweinwyr Gweithredol. Mae ein Harweinwyr Gweithredol yn adrodd i’r Grŵp Arweiniol bob dydd, ac os oes nifer o faterion sy’n gysylltiedig â throsglwyddo’r feirws y mae angen rhoi sylw brys iddynt o fewn y sir, ymdrinnir â nhw ar unwaith.

Beth yw eich prif neges i bobl Ceredigion?

Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd. Mae hon yn flwyddyn na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, a bydd pethau’n wahanol o hyn ymlaen. Fodd bynnag, rydym ni i gyd yn yr un cwch. Fy mhrif neges i bobl Ceredigion yw iddynt hunanynysu os oes ganddynt unrhyw o symptomau’r coronafeirws. Os oes ganddynt beswch newydd a pharhaus, dymhered uchel, neu os nad ydynt yn gallu arogli neu flasu, dylent aros gartref.

Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar dudalen gwe coronafeirws y Cyngor. Diolch i chi am gadw hyd braich i leddfu’r baich.

12/11/2020