Gofynnwyd i Grŵp Gyswllt o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achosion COVID-19 yn yr ysgol.
Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy'n teithio ar yr un bws â'r achos cadarnhaol a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod. Daw'r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Bro Teifi.
Oherwydd nifer o heriau staffio, gofynnwyd i Flynyddoedd 6 i 13 i aros adre am weddill yr wythnos pryd y bydd y sefyllfa yn cael ei hail-asesu. Bydd y disgyblion yma yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod yma.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob rhiant.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
09/12/2020