Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gymraeg, Aberystwyth hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Gofynnwyd i'r Grŵp Cyswllt hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu. Ond, fel mesur rhagofalus, gofynnir i Flynyddoedd 3 a 4 i aros adre yfory. Darperir dysgu o bell i Flynyddoedd 3 a 4 o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ac i weddill y disgyblion o ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
14/12/2020