Gofynnwyd i ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Gofynnwyd i'r Grŵp Blwyddyn i hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion hyn a rhai staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu dysgu o bell am y cyfnod yma.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni a chynghorir pob rhiant fod yn wyliadwrus ac i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Gallwch wneud cais am brawf arlein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
27/11/2020