Atgoffir trigolion Ceredigion i fod yn wyliadwrus y Nadolig hwn er mwyn amddiffyn eu hanwyliaid a’r gymuned.

Mae cyfnod yr ŵyl yn gyfnod lle rydym ni i gyd yn dod at ein gilydd, yn treulio amser gyda’n teulu, ein ffrindiau, a’n cymdogion. Mae’n gyfle i ddathlu, edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu, a chroesawu’r flwyddyn newydd. Fodd bynnag, bydd y flwyddyn hon yn wahanol iawn i’r rhai yr ydym wedi’u dathlu yn y gorffennol.

Er mwyn diogelu eich anwyliaid, yn enwedig pobl hŷn neu bobl fregus yn eich swigen, dylech leihau cyswllt diangen gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw gymaint â phosibl yn y 10 diwrnod cyn i chi ffurfio eich swigen Nadolig. Meddyliwch ddwywaith am y cynlluniau rydych wedi’u gwneud ar gyfer cyfnod yr ŵyl.

Rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Ngheredigion ac yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r feirws yn lledaenu drwy gyswllt rhwng pobl. Er mwyn ei leihau, mae’n rhaid i ni i gyd leihau nifer y bobl yr ydym yn eu gweld ac yn cymysgu â nhw.

Mae’r pedair gweinyddiaeth wedi dod i gytundeb ar un set o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda’u hanwyliaid mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.

  • Bydd cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gweinyddiaeth a rhwng yr haenau yn cael eu codi i ddarparu ffenestr benodol i aelwydydd ddod at ei gilydd rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
  • Gall hyd at dair aelwyd ffurfio 'swigen Nadolig’ unigryw i gyfarfod gartref yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl ffurfio swigen, mae’n sefydlog, ac ni ddylid ei newid nac ychwanegu aelwyd arall ati ar unrhyw adeg.
  • Gall pob swigen Nadolig gyfarfod gartref, mewn man addoli neu mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored, ond bydd y rheolau mwy cyfyngol presennol ar gyfer lletygarwch a chyfarfod mewn lleoliadau eraill yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

Anogir trigolion i fod yn wyliadwrus am symptomau’r coronafeirws. Os ydych chi, neu aelod o’ch swigen Nadolig, yn profi’n bositif am y coronafeirws, neu’n datblygu symptomau’r coronafeirws, mae’n rhaid i bob aelod o’r swigen Nadolig hunanynysu am 10 diwrnod fel pe baent yn aelodau o’r un aelwyd. Dim ond er mwyn cael prawf y dylech adael eich cartref. Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Bydd eich gweithredoedd yn ystod mis Rhagfyr yn cael effaith. Os byddwn yn gwneud ein rhan nawr, gallwn helpu i wneud 2021 yn flwyddyn well i bawb.

Yr anrheg orau y gallwn ni ei rhoi i’n teuluoedd eleni yw Nadolig di-goronafeirws. Dathlwch yn ddiogel er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

14/12/2020