Gofynnir i bobl yn ardal leol Aberteifi i gymryd camau rhagofalus ychwanegol wrth i dystiolaeth ddod i'r fei fod y coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned.

Mae’r trosglwyddiad cymunedol hwn yn deillio o glwstwr o achosion yn dilyn digwyddiadau cymdeithasol mewn tafarnau yn y dref, gyda’r potensial o effeithio ar gannoedd o gysylltiadau.

Os oeddech yn gwsmer a aeth i The Bell neu Red Lion Aberteifi ar 9 Tachwedd 2020, neu wedi hynny, gofynnir i chi hunanynysu am 14 diwrnod o’r dyddiad y bu i chi ymweld ag unrhyw un o’r tafarnau hyn ddiwethaf. Os ydych yn gyswllt agos i rywun a ymwelodd â’r lleoliadau ar ôl 9 Tachwedd 2020, rhaid i chi fod yn hynod o wyliadwrus a chyfeirio eich hun am brawf os ydych yn teimlo’n sâl. Bydd hyn yn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Mae’r ddwy dafarn bellach wedi cau o’u gwirfodd.

Symptomau a sut i archebu prawf

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael cartref yn unig i gael prawf. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddynt unrhyw symptomau. Gallwch wneud cais am brawf yma neu drwy ffonio 119.

Peidiwch ag oedi cyn archebu prawf os oes gennych unrhyw symptomau – nid oes angen teimlo cywilydd ynglŷn â'r angen i gael prawf. Ond dim ond os oes gennych unrhyw symptomau y dylech gael prawf. Nid yw prawf negyddol un diwrnod yn golygu na fyddwch yn bositif ar ddiwrnod arall. Dyna pam mae'r 14 diwrnod nesaf yn hanfodol i atal lledaeniad y feirws. Os ydych wedi cael eich adnabod fel cyswllt, rhaid i chi ddal i hunanynysu am y 14 diwrnod llawn, ni waeth beth fo canlyniad prawf negyddol.

Mae symptomau COVID-19 arferol yn cynnwys tymheredd uchel; peswch newydd a pharhaus; methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas. Os ydych wedi bod yn un o’r sefydliadau uchod, byddwch yn wyliadwrus o unrhyw newidiadau eraill yn eich iechyd a sicrhewch eich bod yn trefnu prawf os oes angen.

Canllawiau

Rydym yn gofyn i drigolion Aberteifi a'r cyffiniau ddilyn y canllawiau'n llym fel y gallwn gadw ein gilydd yn ddiogel:
• Cadw pellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
• Golchi eich dwylo'n rheolaidd;
• Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
• Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl;
• Gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws yng Ngheredigion ar gael yma

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

23/11/2020