Bu'n ofynnol i ddau dafarn gwledig yng Ngheredigion wella'r mesurau a gymerant i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn eu hadeiladau.

Mae Tafarn Ffostrasol Arms yn Ffostrasol, Llandysul a Thafarn Vale of Aeron yn Felinfach wedi cael hysbysiad gwella ar ôl ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.

Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gwella Safle, a gyflwynir o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, yn y ddau dafarn ar ddydd Mercher 14 Hydref, 2020.

Yn ystod eu hymweliad a Thafarn Vale of Aeron yn Felinfach, gwelodd y swyddogion nad oedd digon o fesurau ar waith i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid, a bod alcohol yn cael ei weini wrth y bar, yn hytrach na thrwy'r gwasanaeth gorfodol ar gyfer safleoedd trwyddedig. Mae’r hysbysiad gwella yn gofyn am gamau i sicrhau bod seddau'n cael eu symud a'u bod yn cael eu rheoli i sicrhau bod cwsmeriaid ar wahanol aelwydydd estynedig yn eistedd o leiaf ddau fetr oddi wrth ei gilydd, ac mai dim ond wrth fwrdd y cwsmeriaid y maent yn gweini alcohol, yn hytrach nag wrth y bar. 

Yn ystod eu hymweliad â’r tafarn Ffostrasol Arms, gwelodd y swyddogion nad oedd digon o fesurau ar waith i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid a staff, lle gwelwyd cwsmeriaid yn eistedd wrth y bar, gyda staff y tu ôl i'r bar ddim yn gwisgo masg. Mae’r hysbysiad gwella yn gofyn am gamau i sicrhau bod stôl wrth y bar yn cael eu symud fel na all cwsmeriaid eistedd wrth y bar, ac y dylai staff wisgo masg. 

Mae'n ofynnol i'r ddau dafarn roi'r mesurau ar waith erbyn dydd Gwener 16 Hydref 2020. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gyflwyno Hysbysiad Cau Safle, erlyniad, neu'r ddau.

15/10/2020