Bydd cyfnod atal byr am bythefnos yn dod i rym yng Nghymru, er mwyn lleihau lledaeniad y coronafirws.

Yn dilyn cyngor gwyddonol, bydd set o fesurau a chamau gweithredu yn cael eu cyflwyno i ymateb i'r firws wrth iddo barhau i ledaenu ledled Cymru. Mae'r cyfnod atal byr a llym yn becyn o fesurau i dorri cadwyn yr haint yn ein cymunedau. Bydd y cyfyngiadau ar waith rhwng 6pm 23 Hydref 2020 a hanner nos 08 Tachwedd i mewn i 09 Tachwedd.

Bydd lleihau cymysgu cymdeithasol yn lleihau lledaeniad y firws ac yn ei dro niferoedd positif o’r coronafeirws. Dyma ein cyfle i ddod â niferoedd y coronafirws i lawr yn ein sir a’r wlad. Ar yr amod ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan, dyma'r egwyl sydd ei hangen i'n cael ni trwy'r gaeaf hwn a'r coronafirws.

Bydd gofyn i bawb yng Nghymru aros gartref. Mae mesurau a chamau gweithredu eraill sy’n dod i rym am 6yh ar 23 Hydref yn cynnwys:

  • Rhaid i bawb aros adref, oni bai am ddibenion cyfyngedig iawn, megis ar gyfer ymarfer corff yn yr awyr agored.
  • Rhaid i bobl weithio o adref lle bynnag y bo modd.
  • Rhaid i bobl beidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydyn nhw’n byw gyda nhw y tu mewn a’r tu allan.
  • Gall oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain a rhieni sengl fod mewn aelwyd gydag un tŷ arall i gael cefnogaeth.
  • Rhaid i bob busnes manwerthu heblaw bwyd, lletygarwch, gan gynnwys caffis a thafarndai gau (oni bai eu bod yn darparu gwasanaeth cludfwyd neu ddosbarthu).
  • Rhaid i’r holl wasanaethau cyswllt agos, fel trinwyr gwallt a harddwch gau.
  • Rhaid i bob busnes digwyddiadau a thwristiaeth, fel gwestai gau.
    Bydd ysgolion cynradd yn agor ar ôl yr hanner tymor, ddydd Mawrth 03 Tachwedd. Bydd Ysgolion Uwchradd hefyd yn ailagor ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 yn unig. Darperir dysgu ar-lein i flynyddoedd 9 i 13. Bydd disgyblion yn gallu dod i mewn i ysgolion i sefyll arholiadau.
  • Bydd Addysg Uwch yn parhau gyda chyfuniad o ddysgu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Gofynnir i fyfyrwyr aros lle maen nhw a pheidio â dychwelyd adref.
  • Darperir Addysg Bellach ar-lein, gan gynnwys Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT).
  • Bydd Canolfannau Cymunedol, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff yn cau.
  • Caniateir i chi adael eich cartref ar gyfer ymarfer corff.

Fel sydd eisoes yn ei le yng Ngheredigion, mae Cartrefi Gofal Preswyl ar gau i ymwelwyr ac ymweliadau nad ydynt yn. Mae’r Canolfannau Hamdden a Pyllau Nofio hefyd ar gau. Bydd Gwasanaeth Cofrestru’r Cyngor yn parhau i fod ar gael yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth, trwy apwyntiad yn unig.

Gellir gweld y gefnogaeth sydd ar gael ac atebion i gwestiynau cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru, gov.wales.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Trwy wneud hyn, byddwn yn amddiffyn iechyd a lles ein rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys gwasanaethau gofal i'r henoed a'r rhai y mae eu cyflyrau meddygol yn eu gwneud mewn perygl arbennig o COVID-19. Byddwn yn amddiffyn y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn cefnogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

20/10/2020