Yn dilyn cyfarfod pedair Gwlad y Deyrnas Unedig yn gynt heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cyfyngiadau lefel uwch, sef lefel rhybudd 4 yn dod i rym o ganol nos heno sef ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr 2020 ar gyfer Cymru gyfan.

Yn wreiddiol, fe nodwyd y byddai cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ar ôl cyfnod llacio o bump diwrnod dros y Nadolig, ond oherwydd fod nifer yr achosion yn cynyddu’n gyflym iawn ar hyn o bryd, a phryder bod amrywiolyn llawer mwy heintus o’r feirws yn lledaenu'n gyflymach penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno’r cyfyngiadau ar unwaith.

O ganol nos heno fe fydd newidiadau yn cael eu cyflwyno a fydd yn effeithio busnesau a thrigolion Ceredigion fel a ganlyn:

  • Bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, pob canolfan hamdden a ffitrwydd a phob safle lletygarwch yn cau ddiwedd y dydd.
  • Bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd yn newid o heno.  Dim ond ar ddiwrnod Nadolig y gall dau deulu greu swigen. Ni fydd modd gwneud hyn dros y 5 diwrnod fel y nodwyd yn wreiddiol.  Fodd bynnag fe fydd person o aelod sengl yn medru ymuno ac un aelwyd arall trwy gydol cyfnod lefel 4.

Dywedodd Mark Drakeford, fod heddiw yn un o’r diwrnodau lle roedd angen ymateb i wybodaeth newydd yn syth.

Mae lefelau achosion yng Ngheredigion gyda’r uchaf ers dechrau'r pandemig, ac ar waethaf ymdrechion preswylwyr, busnesau, grwpiau gwirfoddol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion ac eraill i geisio rheoli’r achosion, mae lefel yr achosion yn parhau i fod yn 207.7 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Mae newid ein cynlluniau ar fyr rybudd yn mynd i fod yn annodd iawn i ni gyd, ond dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni oresgyn hyn.  Mae’n hanfodol ein bod yn ymateb ar unwaith i’r perygl hyn.

I chwarae ein rhan ac i gadw'n gilydd yn ddiogel, mae’n bwysig ein bod ni’n cadw at y rheolau ac yn cofio gwneud y canlynol:

  • Cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda ni neu sydd ddim yn ein swigen gefnogaeth
  • Gwisgo gorchudd wyneb (os ydym yn gallu) ym mhob lle cyhoeddus dan do
  • Aros gartre
  • Peidio â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth)
  • Peidio â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydym ni’n byw gyda nhw neu sy yn ein swigen gefnogaeth
  • Peidio â chwrdd â neb ond ein aelwyd neu ein swigen gefnogaeth mewn gardd breifat
  • Peidio â chwrdd â neb ond ein aelwyd neu ein swigen gefnogaeth yn yr awyr agored
  • Gweithio gartre os medrwn
  • Peidio â theithio heb esgus resymol
  • Peidio â theithio dramor heb esgus resymol.

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Byddwch yn ymwybodol o symptomau COVID-19. Mae symptomau COVID-19 yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Ond hefyd, mae’r symptomau cynnar yn gallu cynnwys pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

19/12/2020