Mae digwyddiad chwaraeon moduro oedd â chyfleusterau gwersylla ar y safle ac a oedd i fod i gael ei gynnal yng Ngheredigion y penwythnos hwn bellach wedi cael cyfarwyddyd i beidio â mynd yn ei flaen.

Roedd digwyddiad yr Autumn Touge in The Valleys 2020 i fod i ddigwydd yng Nghanolfan Weithgareddau Canolbarth Cymru ym Mhontrhydfendigaid ar 26 a 27 Medi 2020.

Mae Tîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio gyda threfnydd y digwyddiad, perchennog y tir, Heddlu Dyfed-Powys a Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Cyfarwyddyd Digwyddiadau mewn ymateb i'r bygythiad difrifol sydd wrth law i iechyd y cyhoedd yn sgil yr achosion o goronafeirws a lledaeniad yr haint. Wrth i nifer yr achosion waethygu'n genedlaethol, mae’n bwysicach fyth fod y rheoliadau sy'n cyfyngu ar ddod â phobl ynghyd yn cael eu dilyn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

Roedd y digwyddiad arfaethedig i fod i ddenu mwy na 30 o bobl i ymgynnull yn yr awyr agored ac nid yw hynny'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Mae angen cyflwyno’r cyfarwyddyd er mwyn atal, diogelu, rheoli neu ymateb er budd iechyd y cyhoedd i achosion neu ledaeniad y Coronafeirws yn ardal awdurdod lleol Ceredigion.

Rhaid i drefnydd y digwyddiad gymryd camau yn awr i gydymffurfio â'r cyfarwyddyd, ac mae copi o'r Cyfarwyddyd Digwyddiad wedi'i ddarparu hefyd i Heddlu Dyfed-Powys, Gweinidogion Cymru a pherchennog y tir.

Caiff trefnwyr digwyddiadau sydd ddim yn siŵr o’u cyfrifoldebau eu hannog i wirio beth yw’r canllawiau presennol trwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Diogelu'r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Ceredigion: 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

25/09/2020