Mae Cyngor Sir Ceredigion am greu trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau yn hyderus, gan alluogi busnesau i ailagor a masnachu’n llwyddiannus tra hefyd yn cadw pobl yn ddiogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion am greu trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau yn hyderus, gan alluogi busnesau i ailagor a masnachu’n llwyddiannus tra hefyd yn cadw pobl yn ddiogel. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio’n araf yn y sir, a gan fod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig, mae angen addasu’r trefi oherwydd rhesymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Bydd parthau diogel yn cael eu creu drwy gau ffyrdd a chael gwared â pharcio ar y stryd ar strydoedd sy'n cynnwys adeiladau masnachol yn bennaf o 11am-6pm bob dydd o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Mae rhestr o strydoedd sy’n cau yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd i’w gweld ar ein hadran Parthau Diogel

I gefnogi busnesau o fewn y Parthau Diogel, rydym wedi gwneud addasiadau i’r cynlluniau yn dilyn pryderon a godwyd yn ymwneud yn benodol â derbyn nwyddau. Gellir derbyn nwyddau rhwng 11am a 6pm gan faniau swyddogol a lorïau bach yn unig. Bydd cyfyngiadau 5 milltir yr awr ar waith yn ogystal â’r gofyniad i gael goleuadau perygl arno ar bob adeg. Mae hyn yn debyg i’r hyn sy’n digwydd mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd y mesurau hyn yn galluogi masnachwyr i dderbyn nwyddau a chasglu eitemau mawr pan nad yw’n bosibl gwneud hyn cyn neu ar ôl cau’r heolydd. Gofynnir i fusnesau wneud trefniadau ar gyfer derbyn nwyddau y tu allan i'r oriau cau lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Ni fydd faniau masnachu a lorïau bach yn gallu parcio'n hirach na'r amser sydd ei angen i dderbyn neu gasglu nwyddau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o le i gerddwyr gylchredeg yn ddiogel.

Mae’r pwyntiau mynediad ar gyfer derbyn nwyddau, fel a ganlyn:

Aberystwyth
• Ar gyffordd Stryd Portland a Heol y Frenhines, gan adael ymlaen i Porth Bach, y Stryd Newydd tuag at Eglwys Sant Mihangel i Faes Lowri, yna i’r promenâd;
• Ar gyffordd Ffordd y Môr a Lôn Cambria i fyny at Y Ffynnon Haearn; bydd disgwyl i’r faniau droi’n ôl at Ffordd y Môr;
• Bydd cerbydau mwy (dros 7.5T) yn mynd drwy Stryd y Bont, i lawr y Stryd Fawr ac yn ymadael drwy Rhodfa’r Gogledd.

Gwnaed newidiadau hefyd i gyfyngiadau i ganiatáu mynediad gwell i Neuadd Farchnad Aberystwyth.

Aberteifi
• Ar waelod y Stryd Fawr, yn agos at fynedfa’r Castell. Mae'r man gadael ymhellach ar hyd y Stryd Fawr.

Ceinewydd (sy’n cynnwys mynediad i gychod ar drelar)
• Ar gyffordd y B4342 a Rhes Glanmor ac yna cymerwch y llwybr cylchol i adael.

Byddwn yn adolygu gweithrediad pob un o’r Parthau Diogel yn barhaus ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith.

Bydd eithriadau i'r gwaharddiad ar gerbydau modur yn y parthau hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau ond dim ond ar gyfer gwaith diogelwch/mewn argyfwng. Mae meysydd parcio ar gael o amgylch y trefi a fydd ar gael i’w defnyddio am ddim. Bydd darpariaeth parcio ychwanegol i'r anabl (bathodyn glas) yn cael ei nodi ar y cynlluniau.

Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor mewn ymateb i’r sylwadau, a hynny wrth i’r cynlluniau cael eu rhoi ar waith.

Arhoswch yn lleol a chefnogwch yn lleol er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r parthau diogel ar gael ar wefan y Cyngor.

11/07/2020