Mae rhieni a gofalwyr ledled Ceredigion yn cael eu hatgoffa i ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol wrth gasglu eu plant o ysgolion y sir.
Daw hyn yn dilyn pryderon bod pobl yn ymgynnull y tu allan i gatiau’r ysgolion wrth ollwng a chodi eu plant ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
Rydym yn deall efallai nad yw pobl wedi gweld ei gilydd ers tro, ond gofynnwn iddynt ystyried eu cyfrifoldeb i gadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws.
Mae ysgolion yng Ngheredigion wedi gweithio'n galed i roi mesurau ar waith i sicrhau bod yr holl ddisgyblion a staff yn ddiogel. Mae'r rhain yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb ar gludiant ysgol a sicrhau arferion hylendid da, sgrinio tymheredd, systemau unffordd a darpariaethau glanhau trylwyr mewn ysgolion. Yn ogystal â hyn, bydd y system Olrhain Cysylltiadau yn cael ei defnyddio os bydd unrhyw achos o’r coronafeirws, ac mae gan bob ysgol ystafell ynysu bwrpasol os yw disgybl neu aelod o staff yn teimlo'n sâl yn ystod y dydd. Felly, gofynnwn i bob rhiant a gofalwr gefnogi'r ymdrechion hyn i leihau unrhyw risg o ledaenu'r coronafeirws.
Mae rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am ddarpariaethau diogelwch ysgolion ar gael ar ein gwefan.
I weld yr holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynghylch y coronafeirws, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion.
Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
10/09/2020