Anogir myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i Geredigion dros yr ŵyl i archebu prawf coronafeirws os oes ganddynt symptomau ai peidio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i alluogi myfyrwyr a staff nad ydynt yn arddangos symptomau i gael prawf yn rhan o raglen brofi beilot. Gwneir y profion hyn gan ddefnyddio dyfais llif ochrol, sy’n wahanol i brofion a ddefnyddir ar gyfer pobl sydd â symptomau. Anogir myfyrwyr i wirio a yw eu prifysgolion yn cynnig profion o’r fath cyn teithio adref ar gyfer y Nadolig.

Cynghorir myfyrwyr sy’n dychwelyd i Geredigion i gael y prawf hwn cyn 9 Rhagfyr 2020. Os byddwch yn cael canlyniad positif, bydd hyn yn neilltuo digon o amser i chi gwblhau’r cyfnod hunanynysu yn eich prifysgol cyn dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.

Bydd canlyniad positif yn golygu y bydd yn rhaid i chi hunanynysu yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor am 10 diwrnod a dilyn y canllawiau ar gyfer hunanynysu yn llym. Bydd hefyd angen i chi gael prawf Covid-19 y GIG er mwyn cadarnhau’r canlyniad, a hynny trwy ymweld â’r wefan hon neu trwy ffonio 119.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y byddant yn cymryd rhan yn y cynllun i alluogi myfyrwyr gael prawf am y coronafeirws cyn gadael eu cyfeiriad prifysgol ar gyfer y Nadolig, gyda’r profion ar gael rhwng 30 Tachwedd 2020 a 7 Rhagfyr 2020. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifysgol Aberystwyth. Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sydd â champws yn Llanbedr Pont Steffan, hefyd wedi cyhoeddi fod profion ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau ar gael i fyfyrwyr rhwng 30 Tachwedd 2020 a 11 Rhagfyr 2020, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan

Anogir myfyrwyr hefyd i fod yn gyfrifol a chymryd gofal cyn dychwelyd ac unwaith y byddant adref, a hynny drwy gyfyngu ar eu cyswllt cymdeithasol cymaint â phosibl cyn teithio. Yng Ngheredigion, gofynnwn i bawb barchu’r rheolau hyn er mwyn diogelu’r ganran uchel o boblogaeth hŷn sy’n byw yn y sir, ynghyd â’n teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau.

Os bydd y cynllun i brofi pobl heb symptomau yn llwyddiant, gobeithir cynnal profion tebyg ym mis Ionawr wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i'r sir. Bydd hynny yn amddiffyn poblogaeth y myfyrwyr a’r boblogaeth ehangach yng Ngheredigion.

Mae’r canllawiau ar gyfer myfyrwyr ar gael i'w darllen yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae’r holl wybodaeth, y cyngor a’r cymorth diweddaraf mewn perthynas â’r coronafeirws yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

27/11/2020