Mae gan Amgueddfa Ceredigion gasgliad eithriadol o gwiltiau sy’n llawn hanes cymdeithasol a straeon am y gorffennol a fydd yn cael eu harddangos unwaith y gellir croesawu ymwelwyr yn ôl i'r amgueddfa. Bydd dau gwilt newydd yn cael eu hychwanegu at y casgliad, un go iawn ac un digidol, i'n helpu i goffáu ein profiadau o’r pandemig COVID-19 ac i gofnodi profiadau ein cymuned yn ystod y cyfnod trawsnewidiol hwn.

Mae Amgueddfa Ceredigion yn gofyn i’r cyhoedd gymryd rhan yn y prosiect drwy anfon cyfraniadau i’w cynnwys yn y ddau gwilt.

Mae COVID-19 yn effeithio ar fywydau ar draws y byd mewn ffyrdd digynsail, gan achosi newid enfawr mewn bywydau cymdeithasol a gwaith. Nod y prosiect hwn yw archwilio’r gwerthoedd y gallai pobl fod eisiau eu gadael yn y gorffennol a’r rheini i’w cymryd i’r dyfodol.

Nid yw ynysu a chwarantin yn bethau dieithr i Geredigion, rydym wedi wynebu sawl epidemig, gan gynnwys y frech wen ym 1738 a 1819, colera ym 1840, pandemig ffliw 1918, a theiffoid ym 1946.

Pa ddarn fyddech chi'n ei roi ar y cwilt cwarantin? Gall pawb gymryd rhan drwy anfon lleisiau, fideos, lluniau a darnau sain at yr Amgueddfa er mwyn adlewyrchu’r profiadau amrywiol ledled Ceredigion. O’r rheini sy’n gweithio ar y rheng flaen, i’r rheini sy’n gweithio gartref, y rheini sy’n cofleidio sgiliau newydd, rhieni sydd bellach yn addysgu eu plant gartref, y genhedlaeth hŷn sy’n cyfarfod ar-lein a’r bobl ifanc sy’n cael partïon drwy gyfrwng technoleg.

Gall enghreifftiau gynnwys rhywbeth sy’n dangos sut mae mannau ffisegol wedi trawsnewid - y strydoedd tawelach, neu adfywiad natur; yr effaith ar weithwyr allweddol a phobl sy’n gweithio gartref, bywyd heb ysgol, gwaith cartref ar-lein; y pethau sydd wedi gwneud ichi chwerthin a chrio, eich hoff sesiwn ymarfer corff gyda Joe Wicks, clapio ar gyfer gofalwyr, cwrdd â pherthnasau a ffrindiau ar ‘Facetime’, gweithredoedd caredig neu'r negeseuon Aros Adref, Aros yn Ddiogel.

Gellir anfon cyfraniadau ar gyfer y cwilt drwy e-bost, gan ddefnyddio ap rhannu ffeiliau, at carrie.canham@ceredigion.gov.uk

Gall bobl gyfrannu at greu’r cwilt go iawn drwy anfon eu darnau creadigol. Gall y rhain fod yn farddoniaeth, lluniau, seinweddau, caneuon, neu hyd yn oed defnydd ac edau.

Er mwyn cyfrannu at y cwilt go iawn, anfonwch sgwariau 14cm x 14cm (gan gynnwys 1cm o sêm) at Amgueddfa Ceredigion, dan ofal Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Dylai cyfraniadau at y naill gwilt gynnwys eglurhad: pam rydych chi wedi ei ddewis, beth mae’n ei olygu i’r cyfrannwr, a’r stori y mae’n ei hadrodd. Gellir anfon cwestiynau ynglŷn â’r cwiltiau at carrie.canham@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633 088 a gadewch neges.

Bydd y Cwiltiau Cwarantin yn rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Ceredigion o’r enw ‘Cwiltiau: Edafedd Dynol’. Mae'r arddangosfa hon yn archwilio'r gwrthrychau hyn fel pyrth at straeon cyfareddol a hanesion cymdeithasol, ac yn ystyried pa mor rhyfeddol yw eu crefftwaith coeth a’r modd y maent yn taro tant yn emosiynol.

Unwaith y bydd y ddau gwilt wedi’u cwblhau, byddant i’w gweld ar www.ceredigionmuseum.wales/hafan/ ac yn yr amgueddfa yn ystod yr arddangosfa.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon cyfraniadau yw 30/09/20.

 

26/05/2020