Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn anelu at hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif drwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.
Nod y cynllun yw sicrhau bod gan bawb fynediad at gynhyrchion mislif, yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel ac yn urddasol. Mae Cynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau nad yw ffactorau caledi yn effeithio ar allu rhywun i gael mynediad at gynhyrchion mislif o ansawdd da yn ein hysgolion a’n cymunedau.
Am fwy o wybodaeth am y mislif, cynnyrch mislif a’r cymorth sydd ar gael, ewch i wefan Mislif Fi (Dolen i wefan allanol).
I ddarllen mwy am Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, ewch i tudalen Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif (Dolen i wefan allanol) nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am Urddas Mislif yng Ngheredigion, cysylltwch â urddasmislif@ceredigion.gov.uk.
Dewiswch un o'r tabiau canlynol i ddarganfod mwy.