Sut dylid gofyn am asesiad

Ffoniwch Porth Gofal ar 01545 574000.

Ysgrifennwch at: Porth Gofal, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn Crescent, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE

E-bostiwch ni: contact-socservs@ceredigion.gov.uk

​Pan fyddwn yn derbyn cais am gefnogaeth neu wybodaeth fod plentyn angen cymorth bydd angen i ni wedyn gwblhau asesiad.

Oni bai eich bod dros 16 oed neu nad chi yw’r rhiant/gwarcheidwad sy’n cysylltu â ni am gymorth, bydd yn rhaid i ni dderbyn caniatâd bod y sawl dan sylw yn eich enwebu i siarad ar eu rhan (eirioli ar eu rhan) cyn eich bod yn ein ffonio oni bai fod pryderon sylweddol y gall y plentyn fod mewn risg neu eisoes wedi dioddef niwed sylweddol.

Bydd yr asesiad yn edrych ar amgylchiadau neu anghenion eich plentyn, gan hefyd edrych ar eich cryfderau fel teulu/rhiant (er enghraifft, beth sy’n gweithio’n dda), a pha gefnogaeth sydd eisoes ar gael i chi, pa ganlyniadau yr hoffech eu gweld a pha rwystrau a / neu bryderon sydd gennyf i gyflawni’r canlyniadau hynny yn ogystal â pha gymorth y credwch y byddai o fantais i chi. Fel arfer gwneir yr asesiad yn eich cartref a bydd yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol yn siarad â chi fel teulu a’ch plentyn ar ei ben ei hun.

Ein nod yw gweithio gyda chi er mwyn sicrhau ein bod yn medru cyflawni anghenion eich plentyn yn briodol. Weithiau y bydd hyn yn cynnwys eich cyfeirio at asiantaethau / sefydliadau eraill o fewn y gymuned fydd o bosib mewn gwell sefyllfa i gyflawni anghenion eich plentyn. Oni bai fod gan eich plentyn a’ch teulu lefel uchel o anghenion cefnogaeth bydd y cymorth a ddarperir i chi am gyfnod byr yn unig.

Mae hefyd ystod eang o sefydliadau statudol a gwirfoddol yng Ngheredigion sy’n darparu cefnogaeth i blant. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn darparu ystod eang o wybodaeth ar y gweithgareddau a’r adnoddau sydd ar gael i deuluoedd yn lleol ac yn genedlaethol.