Mae gan bob ysgol uwchradd ac uned cyfeirio disgyblion gynnyrch mislif, ac mae cyflenwad hefyd ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a theuluoedd sy’n addysgu yn y cartref.

Gofynwch yn eich ysgol neu drwy gysylltu â urddasmislif@ceredigion.gov.uk.

Mae Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn meddwl ei fod yn bwysig bod pobl yn gallu gwneud dewisiadau deallus am yr hyn sydd fwyaf addas i'w cyrff o ran eu mislif. Mae gan bob Ysgol Uwchradd stondin cynnyrch mislif ‘bach o bopeth’ sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar amrywiaeth o gynhyrchion am ddim, gan ganiatáu iddynt ddewis y cynhyrchion sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae llawer o'r opsiynau yn eco-gyfeillgar, heb blastig neu'n ailddefnyddiadwy. Cymrwch fag a dewiswch eich cynhyrchion!