Mae Gwasanaeth Seibiannau Byr Tîm Plant Anabl Ceredigion yn trefnu seibiannau byr i blant anabl rhwng 1 a 18 oed sy’n byw yng Ngheredigion.
Nod y gwasanaeth yw darparu cymorth i deuluoedd a chaniatáu i’r plentyn gael profiadau newydd drwy gynnig seibiannau byr gyda theuluoedd lleol yn y gymuned.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig ‘gwasanaeth gwarchod’ neu ‘wasanaeth gofalwyr cyswllt teulu’.
Pwy Yw’r Gofalwyr?
Pobl yn y gymuned yw’r gofalwyr sy’n gwneud cais i ddod yn ofalwyr plant anabl. Mae’n bosibl na fyddant ond yn medru cynnig gofal am awr neu ddwy bob wythnos / mis neu ychydig yn fwy. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr yn eu hasesu, eu cefnogi a’u goruchwylio ac mae’n ofynnol i’r gofalwyr wynebu gwiriadau llym gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Swyddfa Cofnodion Troseddol a’r Gwasanaeth Iechyd.
Er bod gofalwyr yn cael eu hystyried yn wirfoddolwyr, maent yn derbyn taliadau oddi wrth Wasanaeth Seibiannau Byr y Tîm Plant Anabl am bob sesiwn o ofal y maent yn ei roi. Caiff lwfans milltiredd a threuliau hefyd eu talu.
Paratoir cytundeb ysgrifenedig rhwng pob ochr ac fel arfer gwneir trefniadau rhwng y Gofalwr a’r teulu. Ni chodir tâl ar deuluoedd plant anabl.
A fyddech chi’n dymuno cefnogi plentyn anabl a’i deulu?
A oes gennych chi brofiad o anableddau neu ddiddordeb yn y maes hwn?
A fyddech chi’n medru cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blentyn / person ifanc anabl a’i gefnogi?
Nid oes angen i chi o anghenraid feddu ar brofiad o weithio â phlant anabl i ddod yn Warchodwr neu Ofalwr Cyswllt Teulu.
Ni fyddwn yn gofyn i chi wneud dim na fyddwch yn gysurus ag ef a byddwch yn cael cymorth parhaus oddi wrth y Gweithwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Warchodwr neu’n Ofalwr Cyswllt Teulu, cysylltwch ag un o Weithiwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr y Tîm Plant Anabl:
Post:
Gwasanaeth Seibiannau Byr
Tîm Plant Anabl
Pantyfedwen
9 Stryd y Farchnad
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1DL
Ffôn:
01545 574000
Allwch chi ddarparu cartref i blentyn/person ifanc?
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn chwilio’n barhaus am fabwysiadwyr / gofalwyr maeth newydd all gynnig cartref (naill ai dros dro neu’n barhaol) neu Gwasanaeth Seibiant Byr i blant ac oedolion ifanc sydd methu byw gyda’u teuluoedd biolegol bellach neu sydd angen saib oddi wrth eu teuluoedd biolegol.
A oes gennych chi ddiddordeb?
Ffoniwch yr Tîm Plant Anabl ar 01545 574000.