Tîm Dyletswydd Brys

Rydym yn gwybod nad yw’r holl broblemau mawr annisgwyl yn digwydd yn ystod oriau swyddfa arferol neu eu bod yn gallu aros tan y diwrnod gwaith nesaf. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn darparu Tîm Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa sydd yno i helpu gyda’r argyfyngau hyn.

I gysylltu â’r Tîm Dyletswydd Brys, ffoniwch:

0300 456 3554

Yn ystod yr Wythnos: 17.00 i 08.45
Ar Benwythnosau: Dydd Gwener 16.30 i ddydd Llun 08.45
Gwyliau Banc: 24 Awr

Atebir y galwadau gan rywun o Lles Delta yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn nodi manylion y broblem a’ch manylion cyswllt. Yna, byddant yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Gweithiwr Cymdeithasol ar ddyletswydd frys.

Pan fyddwch yn ein ffonio ni, mae’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth ag y bo modd am yr unigolyn sydd angen cymorth.

Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol ar ddyletswydd yn cysylltu â chi ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi dros y ffôn ynghylch sut i ddelio â’r broblem, neu byddant yn:

  • Argymell eich bod yn cysylltu ag asiantaeth arall sy’n fwy priodol. Byddant yn rhoi’r manylion cyswllt i chi
  • Cyfeirio’r mater at un o dimau eraill y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y diwrnod gwaith nesaf
  • Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddant yn ymweld â chi neu’r unigolyn sy’n dioddef y broblem

Ymdrinnir â holl gwynion yn unol â’r gweithdrefnau cwynion swyddogol. Cliciwch ar y botwm cyswllt isod am fwy o wybodaeth:

Cwynion

Mae Gen Ti Ddewis (You have a choice)

"Rwy'n teimlo tipyn mwy cartrefol yn trafod pethau yn Gymraeg". Mae hynny'n sylw sydd wedi cael ei ddweud dro ar ôl tro yng nghyswllt gofal cymdeithasol. Pan mae angen cymorth neu air o gyngor arnom ni mae medru gwneud hynny yn eich iaith eich hunan, iaith aelwyd a theulu, dipyn fwy cysurus a thipyn yn haws.

Mae ymchwil wedi dangos fod llawer o siaradwyr Cymraeg yn dal i feddwl bod yn rhaid siarad Saesneg wrth ddelio â chyrff swyddogol. Mae siarad Saesneg yn aml yn gallu rhoi rhywun dan anfantais, lle byddai siarad Cymraeg bob dydd Ceredigion dipyn yn haws i bawb.

Mae Porth Gofal yn cael ei staffio gan dîm dwyieithog penodol sydd ar alwad i roi help a chymorth yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Gallwch gysylltu â ni ar 01545 574000 – a hynny yn Gymraeg. Mae gen ti ddewis!

Porth Gofal

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer pobl Ceredigion, sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth mewn ffordd gyflym a hwylus am wasanethau'r Adran a'r ystod o adnoddau eraill sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

Gall unrhyw un sydd am gael gwybodaeth cyngor neu gymorth gan y Gwasanethau Cymdeithasol naill ai ar gyfer ddibenion eu hunain, neu ar ran rhywun arall, gysylltu gyda ni trwy:

Ebost

contactsocservs@ceredigion.gov.uk

Ffôn

01545 574000

Post

Porth Gofal
First Floor, Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

  • Dydd Llun - Iau: 08.45 - 17.00
  • Dydd Gwener: 08.45 - 16.30

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi'n ein ffonio ni

Byddwn yn gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun neu'r sawl rydych chi'n ffonio ar ei ran. Bydd Porth Gofal yn ateb eich cwestiwn a/neu lle bo angen yn cwblhau Ymholiad Cyswllt a fydd yn cael ei anfon i Dîm Gwaith Cymdeithasol. Os na fydd y gwasanaeth sydd ei angen arnoch yn cael ei ddarparu drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'n bosib y bydd Porth Gofal yn medru rhoi gwybodaeth i chi am sefydliadau eraill all eich helpu.

Mae’r wybodaeth y bydd angen i chi ddarparu pan fyddwch yn ffonio yn wybodaeth bersonol amdanoch chi neu’r sawl yr ydych yn ffonio ar ei ran. Er enghraifft enw, cyfeiriad a dyddiad geni. Os fydd angen Ymholiad Cyswllt bydd angen arnom fanylion am y trafferthion yr ydych chi, neu’r sawl rydych yn ffonio ar ei ran, yn profi a sut hoffech chi / nhw gael help i’w goresgyn.

Fodd bynnag, os nad oes gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, gallwch dal gysylltu gyda ni. Gallwn drefni gasglu’r wybodaeth yma yn hwyrach.

Nodyn gludiog
Nodyn gludiog