Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRhGC) yn dod â phartneriaid at ei gilydd o lywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector a'r sector annibynnol gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gyda'r nod o drawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru.                                                                                                                                                                                                                                                             

 

Mae rhanbarth BPRhGC yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae'r bwrdd a'i bartneriaid yn helpu i hyrwyddo datblygiad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol arloesol ac integredig, drwy hyrwyddo cydweithredu ac integreiddio ar lefel ranbarthol, gan sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cyd-ddylunio gyda'r bobl sy'n eu defnyddio a'u galluogi i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnynt.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i greu Cynllun Ardal bob 5 mlynedd, sy'n manylu ar sut mae partneriaid y BPRhGC yn bwriadu diwallu anghenion y boblogaeth.

 

Gallwch ddod o hyd i holl newyddion diweddaraf a dogfennau, gan gynnwys y cynllun ardal ar gyfer BPRhGC yma: West wales – West Wales Regional Partnership Board (wwrpb.org.uk)