Cyngor Gofal Cymru yw'r corff sy'n rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae'n gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau safonau uchel i'r holl weithwyr gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Eu nod yw sicrhau fod y gweithlu yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau priodol ar gyfer gweithio i safon broffesiynol uchel, ac sy'n gallu cyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel y mae'r cyhoedd (gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaethau a'u gofalwyr) yn gallu ymddiried ynddynt.

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol gofrestru â'r Cyngor Gofal. Mae hynny'n sicrhau fod pob unigolyn yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol, a'u bod wedi cytuno i gadw at God Ymarfer y Cyngor Gofal.

Mae'r Cod Ymarfer yn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ganddynt, a bod y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn gwybod pa safonau y gallant ddisgwyl gan y bobl sy'n gweithio â hwy. Petai gweithiwr yn torri'r cod, gallai hynny arwain at ymchwiliad a chamau gweithredu gan ei gyflogwr/chyflogwr, ac mewn rhai achosion gall y Cyngor Gofal ei hun gymryd camau gweithredu.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor Gofal yn cynnal ymgyrch 'Hyder mewn Gofal', gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch safonau ymarfer a'r Codau Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor: www.ccwales.org.uk