Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth

Mae ymchwil yn dangos bod rhyw 600 o bobl yn rhoi’r gorau i’w swyddi bob dydd yn y DU er mwyn gofalu am rywun agos iddyn nhw sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gallai effaith trosiant staff, absenoldeb a straen o ganlyniad i jyglo gwaith a gofalu fod yn costio dros £3.5 biliwn i fusnesau’r DU bob blwyddyn, felly mae modd gwneud arbedion mawr drwy roi gwell cefnogaeth i ofalwyr wrth reoli gwaith ochr yn ochr â gofalu.

I gael gwybod mwy am sut y gall eich busnes gefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth ar gyfer mentrau bach a chanolig*.

*Sefydliadau â llai na 250 o weithwyr

Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am:

  • fanteision cefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth
  • hawliau gofalwyr
  • sut y gall sefydliadau helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl yn y gymuned gan gynnwys gwybodaeth am fentrau lleol.
  • sut i gael mynediad am ddim i aelodau i wefan Hwb Digidol Cyflogwyr i Ofalwyr, Gofalwyr Cymru

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth digidol.

pecyn digidol

Pecyn gwybodaeth digidol

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r:

Tîm Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol

Tîm Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

01545 574200
cysylltu@ceredigion.gov.uk

Os ydych chi’n ofalwr sy’n chwilio am wybodaeth am eich hawliau fel gofalwr di-dâl mewn cyflogaeth, cewch ragor o wybodaeth yma: Hawliau gofalwyr yn y gwaith