Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd pob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru i wneud cais am daliad untro o £500.
Diben y taliad yw cydnabod y pwysau ariannol y mae llawer o ofalwyr di-dâl wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol y maen nhw wedi’u hwynebu. Mae’r taliad ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ar incwm isel.
Rydych yn gymwys i gael y taliad:
- os roeddech yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022
Nid ydych yn gymwys:
- os oes gennych hawl sylfaenol i gael Lwfans Gofalwr, ond nad ydych yn cael y taliad hwnnw oherwydd eich bod yn cael budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
- os ydych yn derbyn premiwm gofalwr o fewn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd.
Os credwch eich bod yn gymwys i gael y taliad cymorth hwn, gallwch wneud cais drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022.
Rhaid i bob cais ddod i law cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022.
Bydd taliadau ar gyfer hawliadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Mehefin hyd at ddiwedd mis Medi 2022.
Cofiwch, dylech gofrestru gyda’r Cyngor lle rydych chi’n byw, nid y Cyngor lle mae’r person rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol).