Deddfwriaeth sy'n effeithio arnoch chi fel Gofalwr

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Deddf newydd i wella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnyn nhw, yw’r ddeddf hon.

Am y tro cyntaf, bydd gan ofalwyr yr un hawliau â’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno diffiniad newydd ehangach o ofalwr. Mae hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnig asesiad o anghenion gofalwr i ofalwyr, a dyletswydd gyfreithiol i ddiwallu anghenion cymwys y gofalwyr ar ôl iddynt gael eu hasesu.

Mae’r Ddeddf yn diddymu’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth bresennol ym maes gofal cymunedol ac mae’n diddymu ac yn cydgrynhoi’r holl ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â gofalwyr:

  • Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995
  • Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000
  • Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004
  • Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010

yn ogystal â’r rhain:

  • Deddf Cymorth Gwladol 1948
  • Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968
  • Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970
  • Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983
  • Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychiolaeth) 1986
  • Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990
  • Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Taliadau Uniongyrchol)

Cewch hyd i daflen ffeithiau am yr Asesiad o Anghenion Gofalwr o dan y Ddeddf newydd trwy agor y Taflen Ffeithiau Asesiadau.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y Ddeddf ar ein tudalen Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.