Gall fod yn werth chweil gofalu am berthynas neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, ond gall hefyd fod yn brofiad anodd iawn. Os ydych yn gofalu am rywun, yng Ngheredigion gallwch gael mynediad at amrediad o gymorth. Mae Gofalwyr Ceredigion yn darparu peth o’r gefnogaeth hon. Mae’n cynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth emosiynol i unigolion
  • Gweithgareddau grŵp, megis hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol
  • Helpu cael mynediad at gymorth i gael seibiant o’r rôl gofal, gan gynnwys gofal seibiant

Hwyrach bod llawer o Ofalwyr di-dâl eisoes yn derbyn Cymorth i Ofalwyr, yn mynychu grŵp Gofalwyr, neu’n derbyn rhywfaint o ofal seibiant; fodd bynnag, mae llawer yn bwrw ymlaen wrth eu hunain a heb unrhyw gymorth. Os hoffech chi neu os byddai unrhyw un rydych yn ei adnabod yn hoffi ychydig o gymorth, boed yn gyfle i daflu cylchau, cael cyngor neu seibiant tymor byr, croeso ichi gysylltu â ni drwy 03330 143377.

www.gofalwyrceredigioncarers.cymru