Mae gofalu'n gallu rhoi boddhad, ond gall hefyd fod yn waith blinedig sy'n galw am lawer o egni corfforol ac emosiynol. Fel gofalwr mae gofyn i chi fod mor iach â phosib er mwyn sicrhau eich bod yn medru parhau i ofalu.

P'un a fuoch chi'n gofalu ers tipyn, neu ers ychydig bach yn unig, gallwch deimlo bod bywyd yn eithaf caled. Serch hynny, mae newyddion da, sef bod llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi. Ar y llaw arall, nid ydym yn gwybod yn aml am beth rydyn ni'n chwilio, neu nid yw'n hawdd iawn dod o hyd iddo. Cynlluniwyd y llyfryn hwn i'w ddarllen yn gyflym; bydd yn eich cyfeirio chi at y man cywir, ond gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol ar ei ben ei hun.

Dywedwch 'Dw i'n iawn'...a'i Olygu!

Pan aethom ati i ysgrifennu'r llyfryn hwn, roeddem yn awyddus iddo apelio at Ofalwyr ac at y rheini sydd heb gydnabod eto efallai mai 'Gofalwyr' ydyn nhw. Roeddem yn teimlo bod angen llyfryn byr, ymarferol sy'n canolbwyntio ar bwnc pwysig iechyd a lles. Gobeithiwn ei fod yn llenwi'r bwlch hwn ac y bydd yn rhoi cymorth a chryfder i chi, a chithau wedi'i gael bellach.

Er mwyn gofyn am gopi am ddim o'r llyfryn, cysylltwch â Thîm Cyswllt Ceredigion ar 01545 574000. Neu cysylltwch â Uned Gofalwyr Ceredigion ar 01970 633564.

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gadw golwg ar eich iechyd.

Cofrestrwch fel Gofalwr gyda'ch meddyg teulu

Buddsoddwyr mews GofalwyrCynllun yw Buddsoddwyr mewn Gofalwyr sydd wedi ei fwriadu i sicrhau i chi, y Gofalwr, y cymorth y mae arnoch ei angen gan Feddygfa eich Meddyg Teulu. Mae’n galluogi eich meddyg i ddeall yn well beth yw eich cyfrifoldebau gofalu.

Ydych chi’n edrych ar ôl rhywun sy’n sâl, yn llesg, yn anabl, yn dioddef o afiechyd meddwl neu’n camddefnyddio sylweddau?

Os felly, rydych chi’n Ofalwr ac efallai y gall meddygfa eich Meddyg Teulu roi cymorth i chi. Gallai’r cymorth hwn leihau straen eich gwaith gofalu a’ch galluogi chi i ddal i roi gofal o safon uchel. Efallai bod arnoch angen cymorth i chi eich hun hefyd – i ofalu am eich iechyd chi eich hun ac i sicrhau eich bod yn cael amser i chi eich hun.

Pam dylwn i ddweud wrth feddygfa fy Meddyg Teulu fy mod i’n Ofalwr?

Er mwyn i’r Meddyg Teulu, y nyrsys a’r staff eraill fedru rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth y bydd arnoch efallai ei angen, naill ai yn awr neu yn y dyfodol.

Sut bydd hyn yn effeithio ar y person yr wyf yn edrych ar ei ôl?

Mae ar eich Meddyg Teulu a’r feddygfa eisiau gwella ansawdd gofal cleifion drwy wrando a chyfathrebu gyda chleifion a’u Gofalwyr. Bydd hyn yn golygu cyd-weithio fel tîm rhwng y claf (y person yr ydych chi’n gofalu amdano), y Gofalwr ac aelod o Dîm Iechyd y feddygfa.

Pwy fydd yn gweld fy nghofnod meddygol?

Mae’r wybodaeth hon yn gyfrinachol ac i gael ei defnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eich meddygfa, ond efallai y caiff ei rhannu gyda staff ysbyty os cewch eich derbyn i mewn i’r ysbyty rywbryd yn y dyfodol.

Beth os yw’r person yr wyf yn gofalu amdano wedi ei gofrestru mewn meddygfa arall?

Mae’n dal yn werth llenwi’r ffurflen yn eich meddygfa chi, er mwyn i chi fedru cael help i chi eich hun gan eich Meddyg Teulu. Efallai hefyd y bydd modd ffurfio cyswllt rhwng y ddwy feddygfa.

Sut galla i sicrhau y bydd y Meddyg Teulu ac aelodau eraill o staff y feddygfa yn rhannu gwybodaeth gyda fi am y person yr ydw i’n gofalu amdano?

Bydd angen i’r person yr ydych chi’n gofalu amdano roi ei gydsyniad i’w fanylion gael eu rhannu gyda chi, lle bo hynny’n briodol. Yn aml, mae’r cydsyniad wedi ei awgrymu os byddwch yn mynd gyda’r person pan fydd yn mynd i weld ei feddyg.

Mae yna ffurflen gofrestru ar wahân, i’r person yr ydych chi’n gofalu amdano lofnodi i roi ei gydsyniad. Bydd y ffurflen hon yn eich meddygfa. Os bydd y person yr ydych chi’n gofalu amdano yn methu â llofnodi, siaradwch â’ch Meddyg Teulu.

Sut alla i gofrestru fy hun fel Gofalwr?

Does dim rhaid i chi ddisgwyl i weld eich meddyg. Mae ffurflen gofrestru yn yr adran lawrlwytho ar y dudalen hon i chi ei llenwi a'i rhoi yn ôl i’ch meddygfa (drwy'r post, e-bost neu’r tro nesaf y byddwch yn mynd at y meddygon). Neu gallwch ofyn i'ch meddygfa am ffurflen gofrestru i chi ei llenwi a'i rhoi yn ôl i'r dderbynfa.

Darllenwch y canllawiau ar y ffurflen cyn llenwi’r ffurflen.

NHS Carers Direct

Gall NHS Carers Direct gynnig gwybodaeth a chyngor i ofalwyr yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Galwch y Llinell Gymorth Uniongyrchol ar 0808 802 0202 neu e bostiwch: CarersDirect@nhschoices.nhs.uk

Ceir hefyd gwefan sy'n dal llu o wybodaeth i ofalwyr ar sut i ofalu amdanynt eu hunain wrth ofalu am rywun arall. Ar y wefan cewch gyngor ar ffitrwydd, bwyta'n iach, rheoli straen a sut i gael mynediad i ofal seibiant. Rhoddir gwybodaeth hefyd am y gwahanol fathau o ofal seibiant sydd ar gael, a chyngor cyfreithiol ar sut i gael mynediad i wasanaethau eiriolaeth.

Dilynwch y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan NHS Carers Direct:

www.nhs.uk

Carers UK

Mae gan Carers UK lu o wybodaeth ar eu gwefan sy'n rhoi cyngor i ofalwyr ar ofalu am eu hiechyd, cadw trefn ar foddion, cyngor ar gysgu'n dda, ymdopi â straen a gofalu am y cefn. Cliciwch y ddolen gyswllt isod i gael gwybod mwy:

www.carersuk.org