Os ydych chi’n ofalwr, mae gennych hawl gyfreithiol i gael asesiad o anghenion gofalwr, ni waeth pa fath o ofal rydych chi’n ei ddarparu na pha mor aml rydych chi’n ei ddarparu.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o anghenion gofalwr, darllenwch ganllaw Carers UK ar gael asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016:

Asesiadau - Canllaw ar gael Asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016

Ble fydd yr asesiad yn cael ei gynnal?

Fel arfer, bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn eich cartref. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn anodd trafod rhai materion yn y cartref. Os ydych chi’n teimlo bod angen i chi drafod rhai materion ar wahân i’r sawl rydych chi’n gofalu amdano, gallwn drefnu i gynnal eich asesiad mewn man preifat cyfleus ar adeg gyfleus.

Pa mor hir fydd yr asesiad yn para a sut alla i baratoi ar ei gyfer?

Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion y gofalwr a bydd yn amrywio o sefyllfa i sefyllfa. Weithiau, gall gymryd ychydig o oriau.

Beth fydd yn digwydd yn yr asesiad?

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflawni’r asesiad o anghenion gofalwr gyda chi wyneb yn wyneb. Gall eich helpu i bennu meysydd lle mae angen cymorth arnoch chi a’ch helpu i ystyried y sefyllfa yn y tymor hir. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth, fel manylion grwpiau cymorth i ofalwyr a sut i gael cyngor am fudd-daliadau.

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad?

Os oes modd i chi gael cymorth mewn meysydd a nodwyd yn yr asesiad, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau eraill a byddant yn cysylltu â chi.

I ofyn am Asesiad o Anghenion Gofalwr, cysylltwch â Porth Gofal:

Ebost:

contactsocservs@ceredigion.gov.uk

Ffôn:

01545 574000

Post:

Porth Gofal
Llawr Cyntaf, Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

Oriau Agor:

  • Dydd Llun i ddydd Iau: 08.45 - 17.00
  • Dydd Gwener: 08.45 - 16.30

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y Porth Gofal yma: Porth Gofal