Gall rhedeg eich Lleoliad Gofal Plant eich hun fod yn uchelgais oes, yn ddiddordeb newydd, neu'n gam nesaf yn eich gyrfa gofal plant.

Hyd yn oed os ydych wedi gweithio ym maes gofal plant o'r blaen gall fod yn broses frawychus a hir. Mae llawer o bethau i'w hystyried, felly mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer yr hyn y bydd yn ei olygu.

Beth mae sefydlu Lleoliad Gofal Plant Cofrestredig yn ei olygu?

  • Mae gofal plant a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sydd i'w cael ar ein tudalen Gofal Plant yng Ngheredigion
  • Bydd y lleoliad yn cael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Dolen i wefan allanol), ac yn cael ei reoleiddio a’i arolygu ganddi
  • Mae lleoliadau cofrestredig yn ddarostyngedig i set o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir (Dolen i wefan allanol) y bydd angen eu cyflawni neu ragori arnynt
  • Rhaid i strwythur fod yn ei le ar gyfer y math o ddarpariaeth i sicrhau cydymffurfedd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
  • Mae'n hanfodol cyflogi staff â chymwysterau priodol i sicrhau bod yr holl gymarebau a safonau'n cael eu bodloni. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y cedwir at gyfraith cyflogaeth ym mhob maes, gan gynnwys amodau gwaith, tâl a chyfraniadau
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn elwa ar ofal o ansawdd uchel sy’n eu helpu i ddatblygu’n gyfannol

Sut i gychwyn Lleoliad Gofal Plant cofrestredig

  • Ar gyfer cymorth a chyngor am ddim o’r cychwyn, cysylltwch â’r Uned Gofal Plant drwy ffonio Clic ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk. Ein rôl yw eich cefnogi, sybsideiddio costau hyfforddi a chynnig grantiau i ddarparwyr gofal plant cofrestredig
  • Ymchwil i'r Farchnad - Bydd angen i chi wneud ymchwil i’r farchnad i benderfynu a oes galw am y math o ddarpariaeth yr ydych yn bwriadu ei chynnig. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd lle mae'r cyflenwad a'r galw am ofal plant yn cael eu dadansoddi ac mae bylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu nodi. Gall yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant fod yn arf defnyddiol wrth ymchwilio i anghenion gofal plant o fewn maes penodol
    Ystyriwch:
    • Ardal
    • Oedran Plant
    • Oriau gweithredol
    • Iaith/ieithoedd y ddarpariaeth
    • Argaeledd, math, a chost y safle
    • Ffioedd i'w codi
    • Cystadleuaeth
  • Cyllid - Mae cynllunio busnes a chynllunio ariannol yn allweddol i sicrhau cynaliadwyedd unrhyw fusnes. Mae'n bwysig ystyried yr holl gostau sy'n mynd allan, megis rhent/morgais, cyflogau, yswiriant a chyfleustodau yn ogystal â chost offer
  • Cymorth Busnes - Mae gan Busnes Cymru dudalen we benodol ar gyfer darparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae (Dolen i wefan allanol) i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i sefydlu, datblygu a thyfu eu busnes yn gynaliadwy.
    Gall Busnes Cymru hefyd eich helpu gyda’r holl wybodaeth, cyngor, ac arweiniad sydd eu hangen arnoch os ydych yn ystyried dechrau busnes o’ch cartref (Dolen i wefan allanol) neu’n tyfu eich busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru (Dolen i wefan allanol) a chwiliwch am ‘Gofal plant’
  • Cofrestru - Mae gwybodaeth am sut i Gofrestru Lleoliad Gofal Plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gael ar tudalen Cofrestru Gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae nhw (Dolen i wefan allanol)
  • Staffio - Mae pethau i’w hystyried mewn perthynas â staffio lleoliad yn cynnwys:

Os credwch fod pob plentyn yn haeddu'r dechreuad gorau mewn bywyd, bod yn hyblyg, ac yr hoffech redeg eich busnes eich hun o'ch cartref eich hun, beth am ystyried Gwarchod Plant fel gyrfa?

Fel Gwarchodwr Plant Cofrestredig byddwch:

  • Yn weithiwr gofal plant proffesiynol hyfforddedig;
  • Yn cynnig amgylchedd ysgogol a hapus i'r plant rydych chi'n gofalu amdanynt;
  • Yn darparu cyfleoedd dysgu a gweld y plant yn datblygu;
  • Yn gweithio yn eich cartref, dewis yr oriau rydych chi'n gweithio a rhedeg busnes eich hun;
  • Yn gallu gofalu am blant eich hunain ochr yn ochr â phlant sy'n cael eu gwarchod (byddant yn cyfrif yn eich niferoedd);
  • Yn gallu cwrdd â Gwarchodwyr Plant eraill, yn lleol mewn rhwydweithiau, neu ar-lein;
  • Derbyn cylchlythyrau rheolaidd gan yr Uned Gofal Plant am gyfleoedd hyfforddi, grantiau ac unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth

Beth mae bod yn Warchodwr Plant Cofrestredig yn ei olygu?

  • Os ydych yn gofalu am un neu fwy o blant o dan 12 oed, am fwy na dwy awr y dydd, yn eich cartref eich hun, am daliad (naill ai mewn nwyddau neu arian) rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, gofrestru fel Gwarchodwr Plant;
  • Ymgyrch Gofalwn Cymru (Dolen i wefan allanol) gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn esbonio beth mae swydd yn y sector gofal yn ei olygu, gan gynnwys Gofal Plant yn y Cartref (Dolen i wefan allanol), a fideo Amanda (Dolen i wefan allanol) am fod yn Warchodwr Plant;
  • Bydd angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Dolen i wefan allanol), sy'n rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru;
  • I wneud hyn, bydd angen i chi fodloni neu ragori ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) (Dolen i wefan allanol);
  • Bydd angen i chi ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i ddiweddaru eich sgiliau a'ch gwybodaeth;
  • Fel person hunangyflogedig, bydd angen i chi redeg eich busnes mewn modd cyfreithiol a thalu treth ar eich incwm trwy gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig)

Sut i ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig yng Ngheredigion?

  • Cysylltwch â'r Uned Gofal Plant drwy ffonio Clic ar 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk;
  • Mynychu sesiwn friffio Gwarchodwr Plant ar-lein, lle bydd y Cydlynydd Gofal Plant a Hyfforddiant yn esbonio'r holl hyfforddiant angenrheidiol a'r broses o ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig;
  • Mynychu cwrs cyn cofrestru addas; bydd hyn yn cymryd rhwng 8-16 wythnos. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu eich polisiau a’ch gweithdrefnau eich hun i gydymffurfio â rheoliadau;
  • Ar ôl cwblhau'r cwrs cyn cofrestru byddwch yn cael eich mentora gan ein swyddog i sicrhau eich bod wedi cwblhau popeth angenrheidiol i gofrestru fel darparwr gofal plant gydag AGC;
  • Mynychu a chwblhau pob cwrs gorfodol gan gynnwys Cymorth Cyntaf Pediatreg, Diogelu ac Amddiffyn Plant, Diogelwch a Hylendid Bwyd, Alergedd ac Anoddefiad Bwyd a ‘PREVENT’ (Ymwybyddiaeth Radicaleiddio);
  • Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i chi'ch hun ac unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn eich cartref;
  • Cyflwynwch eich cais i AGC, a fydd yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad safle a chyfweliad;
  • Ar ôl cofrestru, byddwch yn parhau i gael cefnogaeth yr Uned Gofal Plant trwy gydol eich cofrestriad

Dolenni Perthnasol:

Sefydlodd Llywodraeth Cymru’r ‘Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref’, y cyfeirir ato weithiau fel y “Cynllun Nani” fel cynllun gwirfoddol, a weinyddir gan AGC. Ymhlith pethau eraill, mae cael eu cynnwys o fewn y cynllun yn galluogi rhieni sy’n defnyddio nani sydd wedi’i chymeradwyo, i gael cymorth ariannol trwy ystod o gonsesiynau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU megis Credydau Treth, Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth, lle maent yn gymwys.

Beth mae bod yn Nani neu rywun sydd wedi’i gofrestru ar y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yn ei olygu?

Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais am y cynllun fod dros 18 oed. Ni ddylech fod wedi’ch gwahardd na chael eich ystyried yn anaddas i weithio gyda phlant.

Sut i Gofrestru o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol

Fel darparwr Gofal Plant Cofrestredig eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cymwysterau'n gyfredol a'ch bod yn cynllunio'ch hyfforddiant ymlaen llaw. Argymhellir eich bod chi'n archebu'ch lle ar gyrsiau hyfforddi 6 mis cyn y dyddiad adnewyddu gan fod lleoedd yn gyfyngedig a gall cyrsiau lenwi'n gyflym.

Mae gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi (Gorfodol ac anorfodol) ar gyfer y gweithlu Gofal Plant yn cael eu hyrwyddo trwy e-bost i bob lleoliad cofrestredig ac anghofrestredig gan yr Uned Gofal Plant yn dymhorol. -

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyfforddiant, cysylltwch â'r Uned Gofal Plant:

Ffôn: 01545 570881
E-bost: gofalplant@ceredigion.gov.uk

Mae costau hyfforddiant yn cael cymhorthdal gan gyllid Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion, ond rhaid i'r darparwr gofal plant dalu rhywfaint tuag ato (mae'r costau'n dibynnu ar y cwrs).

Cefnogaeth Busnes

Mae gan Fusnes Cymru dudalen we bwrpasol i ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae (Dolen i wefan allanol) sydd yn darparu’r wybodaeth am y gefnogaeth sydd angen at sefydlu, datblygu a thyfu eu busnes yn gynaliadwy.

Gall Busnes Cymru hefyd eich helpu gyda'r holl wybodaeth, cyngor a chanllawiau sydd eu hangen arnoch os ydych chi'n ystyried dechrau busnes o'ch cartref (Ddolen i wefan allanol) neu am dyfu eich busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru (Dolen i wefan allanol) a chwiliwch 'Gofal Plant'.

Gwybodaeth Defnyddiol

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen i wefan allanol) yn cefnogi’r gweithlu a gwelliannau yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Medrwch gofrestru i gael e-fwletin misol drwy e-bostio newsletter@socialcare.wales.

Gofalwn

Mae Gofalwn (Dolen i wefan allanol) yn wefan sydd yn ceisio helpu i ddenu, recriwtio a chadw staff gofal yng Nghymru. Mae'r wefan yn cynnal rhestr gynyddol o gyflogwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, a gallwch ddod o hyd i nifer o gyfleoedd sydd ar gael i weithio gydag oedolion a phlant, a chlywed am brofiadau gweithio yn y maes gofal wrth y bobl sy’n gwneud y swydd yn barod.

Cymrwch gip ar eu cronfa ddata o ddarparwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar am gyfleoedd am swyddi.