Ynglŷn â Thîm Cymunedol Ceredigion ar gyfer Anableddau Dysgu (CTLD): 

Mae Timau Cymunedol Ceredigion ar gyfer Anabledd Dysgu yn Dîm Arbenigol sy’n gweithio ar draws Ceredigion gydag Oedolion ag Anabledd dysgu neu/ac Awtistiaeth.

Mae’r tîm yn gyfuniad o weithwyr cymunedol a gweithwyr cymdeithasol ac rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n cyd-weithwyr iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dd ai ddarparu cefnogaeth, cyngor ac ymyrraeth therapi ar gyfer Oedolion sy’n byw yng Ngheredigion sydd ag anabledd dysgu.

Mae’r Tîm yn anelu at eich cefnogi chi a’r rhai sy’n perthyn i chi er mwyn gwneud y mwyaf o’ch annibyniaeth, diogelwch a lles yn eich cymuned, lle bynnag bo hynny’n bosibl.

 

Mae’r Tîm yn gweithio gyda phobol sydd âg anabledd dysgu ac Awtistiaeth a lle mae effaith eu hanabledd yn

  • Sylweddol
  • Hir dymor
  • Effeithio are u gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

 

Bydd aelod o’r tîm yn cynnal asesiad o’r anghenion, sy’n cynnwys y canlynol:

  • Edrych are ich amgylchiadau
  • Asesu’r amcanion personol yr ydych am eu gwireddu
  • Edrych ar yr hyn gall eich atal rhag gwireddu eich amcanion personol
  • Cydnabod y risgiau os na fyddwch yn llwyddo i wireddu eich amcanion personol
  • Cydnabod eich cryfderau a’ch galluedd

 

Sgwrs fydd yr asesiad rhyngoch chi a/neu eich teulu a’r swyddog gofal cymdeithasol er mwyn gweithio allan sut mae cyrraedd eich anghenion gofal a chefnogaeth. Mae’n rhaid i’r asesiad gydnabod datrysiadau a sut y byddant yn cael eu cwblhau. Mae’n rhaid i’r holl elfennau a nodir uchod gael eu hystyried yn yr asesiad, ac o hyn, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa anghenion sy’n gymwys i dderbyn gofal a chefnogaeth wrth y Gwasanaeth Anabledd.

 

Hefyd, efallai bod gennych ddiddordeb mewn Cymorth yn y Cartref.

Sut i gael mynediad at ein gwasanaeth:

Bydd angen i chi gysylltu â CLIC

Ffôn: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk