Atgyweiriadau Cartref

Os oes angen cymorth ariannol arnoch i gwblhau atgyweiriadau i'ch cartref, mae Cyngor Sir Ceredigion yn trefnu amrywiaeth o grantiau i gynorthwyo perchnogion tai'r sir. Mae rhagor o wybodaeth am y grantiau penodol sydd ar gael a'r meini prawf o ran cymhwyso iddynt ar gael yma:

Atgyweiriadau a Benthyciadau - Cyngor Sir Ceredigion

 

Addasiadau i'r Anabl

Mae grantiau amrywiol ar gael i gefnogi trigolion Ceredigion i gynnal annibyniaeth o fewn eu cartrefi eu hunain.

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael i addasu eiddo i fod yn addas ar gyfer anghenion penodol person anabl sy'n byw yn yr eiddo hwnnw. Rhoddir cymorth ar gyfer:

  • Hwyluso mynediad.
  • Darparu cyfleusterau addas.
  • Gwneud adeilad yn ddiogel i'w ddefnyddio.
  • Gwneud gwelliannau amgylcheddol i alluogi'r person anabl i fyw yn ddiogel yn ei gartref.

 

Mae grantiau Diogel, Cynnes a Sicr ar gael ar gyfer addasiadau llai ac offer sydd eu hangen i alluogi person i fyw yn annibynnol yn ei gartref ei hun. Mae'r gwaith cymwys yn cynnwys:

  • Grisiau, rampiau bach
  • Rheiliau neu rheiliau llaw
  • Lifft yn y bath
  • Tapiau lefel

Enghreifftiau yn unig yw’r uchod o’r hyn y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.

Gall unrhyw un y mae Therapydd Galwedigaethol yn ystyried bod angen gwaith wedi’i wneud yn ei gartref sy’n gymwys am grant, wneud cais am un o’r grantiau uchod. 

 

Ceir rhagor o wybodaeth a’r meini prawf ar gyfer cymhwyso am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a grantiau Diogel, Cynnes a Sicr yma: 

Grant Cyfleusterau i'r Anabl - Cyngor Sir Ceredigion

 

Fel arall, mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur o wasanaethau y gall pobl ei ddefnyddio i gael gwybod am wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am Dewis Cymru ar gael yma:

Dewis Cymru - Cyngor Sir Ceredigion

 

Atgyweirio ac Addasu Cartrefi

Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â Dewis ar gael yma.