Beth yw TEC?

Galluogi Gofal drwy dechnoleg yw’r defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal i bobl yn eu cartrefi eu hun, gan gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel.  Enghraifft o hyn yw cael ‘lifeline’ sef botwm y gellir ei wasgu i alw am gymorth caiff ei wisgo fel pendant.

Dyma rai o fanteision Galluogi Gofal drwy dechnoleg:

  • Cynyddu annibyniaeth a hyder
  • Rheoli / lleihau risg
  • Tawelu meddwl aelodau’r teulu sy’n ofalwyr
  • Lleihau’r angen am becyn gofal
  • Arbed mynediad i’r ysbyty
  • Cefnogi’r gallu i gleifion gael eu rhyddhau o’r ysbyty’n gynnar
  • Oedi neu atal yr angen am ofal preswyl

Mae ein dull o sicrhau cefnogaeth i’r person yn y canol yn ymwneud â gweithio gyda phawb mewn cylch o gefnogaeth – teulu a ffrindiau, gweithwyr cefnogi, cyd-weithwyr Gofal Integredig Cymunedol a Swyddogion Iechyd Proffesiynol – er mwyn sicrhau y gweithredir y camau gorau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Bydd Telegofal yn eich cysylltu â chanolfan fonitro os bydd unrhyw beth yn mynd o chwith.  Yn syml iawn bydd gwasgu’r botwm ar eich pendant neu’r uned ymateb yn eich cysylltu yn uniongyrchol â’n tîm cyfeillgar.  Byddant yn medru siarad â chi drwy’r uchelseinydd ar yr uned.  Mae’n bosib i chi hefyd gael cyfarpar sy’n gweithredu’r larwm yn awtomatig os nad yw’n bosib i chi wneud hynny eich hun. Bydd y tîm yn gweithredu ar unwaith i’ch cynorthwyo, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  Gall hyn gynnwys cysylltu ag aelod o’r teulu, gofalwr neu’r gwasanaethau brys.  Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid ar draws Ceredigion deimlo’n hyderus, yn ddiogel ac yn hapus yn eu cartrefi.

Gall Telegofal yng Ngheredigion fod yn fwy na gwasgu larwm.  Mae’n bosib y bydd gan rai bobl anghenion penodol iawn lle y gall offer arall sy’n gweithio ar y cyd â’r uned larwm fedru bod yn ddefnyddiol iawn.

Bydd yr Hwb Clyfar yn cysylltu ag ystod eang o synwyryddion o amgylch y cartref gan gysylltu’n uniongyrchol â’r ganolfan fonitro. Enghreifftiau o hyn bydd gwres, carbon monocsid, datgelu cwymp, drws a thân a mwg.

TELEGOFAL SYFLAENOL

£47.50 – UN TALIAD AR GYFER GOSOD Y CYFARPAR

YNA

£3.90 YR WYTHNOS

Bydd y Cynllun yma’n cynnwys:

·       Llinell bywyd / Lifeline

·       Pendant (ag ystod safonol o oddeutu 50m)

·       Strapen ar y garddwrn neu pendant o amgylch y gwddf

·       Monitro 24/7

·       Gwirio’r System yn flynyddol

·       Gallwch gynnwys pendant ychwanegol i’r cynllun hwn sy’n golygu y gall dau unigolyn elwa o’r pecyn yma.

·       Dim contract penodol

·       Dim ffioedd cyfarpar

PECYN TECHNOLEG CYNORTHWYOL

£47.50 UN TALIAD AR GYFER GOSOD Y CYFARPAR

Yna

£7.20 YR WYTHOS

Bydd y cynllun yma’n cynnwys:

Popeth sy’n gynwysedig yn y Pecyn Gofal Sylfaenol

A

Synwyryddion a synwyryddion cyffwrdd â botwm fydd yn eich cefnogi yn eich cartref.