Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant.

I gymharu'r gwahanol ddewisiadau a darganfod a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant.

I gymharu gwahanol ddarparwyr a dod o hyd i Ofal Plant ewch i:

Gofal Plant yng Ngheredigion - Cyngor Sir Ceredigion neu Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru.

Ffôn: 01545 574200

E-bost: porthygymuned@ceredigion.gov.uk 

Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth:

Gallwch gael hyd at £2,000 y flwyddyn i bob plentyn er mwyn helpu gyda chostau gofal plant drwy Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os byddwch yn cael Gofal Plant Di-dreth, byddwch yn sefydlu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 a dalwch i'r cyfrif hwn, bydd y Llywodraeth yn talu £2 i dalu eich darparwr.

Credyd Cynhwysol ar gyfer Gofal Plant: Efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.

Ffôn: 0800 328 5644 (Rhadffôn).

Cynnig Gofal Plant i Gymru: Hyd at 20 awr o Ofal Plant a ariennir am 48 wythnos y flwyddyn, yn ogystal ag Addysg y Blynyddoedd Cynnar, am y tri thymor yn dilyn trydydd penblwydd y plentyn.  Rhaid i chi fod yn gweithio ac yn ennill yr hyn sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar isafswm cyflog/cyflog byw, ond heb fod yn fwy na £100,000 yr un, y flwyddyn.  Am fwy o wybodaeth ewch i Gynnig Gofal Plant Cymru.

Grant Gofal Plant: Gallwch dderbyn Grant Gofal Plant tuag at gost eich gofal plant os oes gennych blant mewn gofal plant cofrestredig a chymeradwy.

Lwfans Dysgu i Rieni: Mae Lwfans Dysgu Rhieni (PLA) yn gymorth ychwanegol a fwriedir i dalu am rai o'r costau ychwanegol a ysgwyddir gan fyfyrwyr sydd â phlant.

Am wybodaeth ewch i: Cyllid Myfyrwyr Cymru

Efallai y bydd gennych hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a/neu Gredyd Cynhwysol:

Canolfan Byd Gwaith

Aberystwyth: Ffordd Alexandra Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1LA

Aberteifi: Adeiladau'r Goron, Stryd Napier, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1EF

Am fwy o wybodaeth ewch i: Canolfan Byd Gwaith Ffôn: 0800 169 0190 (Rhadffôn).

ACAS: Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu.

Rydym yn gweithio gyda miliynau o gyflogwyr a gweithwyr bob blwyddyn i wella perthnasoedd yn y gweithle. Rydym yn gorff cyhoeddus annibynnol sy'n derbyn cyllid gan y llywodraeth. Ewch i: ACAS

Cyngor ar Bopeth:

Rhwydwaith o elusennau annibynnol sy'n cynnig cyngor di-duedd am ddim ar-lein, dros y ffôn neu'n bersonol i unrhyw un.  Yn gallu cynnig cyngor ar fudd-daliadau, gwaith, dyled ac arian, tai a llawer o feysydd eraill.

Ewch i: Cyngor ar Bopeth

Cangen Ceredigion - Stryd Napier, ABERTEIFI, Ceredigion, SA43 1ED
Ffôn: 01239 621974 Llun-Iau 9-3 E-bost: enquiries@cabceredigion.org 

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol:

Cyngor ariannol diduedd am ddim.
Ewch i: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Ffôn: 0800 138 7777 WhatsApp: 07701 342744

Dewis Cymru:
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio i ddod o hyd i ffynonellau lleol o gyngor ariannol.
Ewch i: Dewis Cymru

MoneySavingExpert.com:
Canllawiau, awgrymiadau, offer a thechnegau MoneySaving. Ewch i: MoneySavingExpert

Advice UK:
Advice UK

Gingerbread: Yr elusen sy'n cefnogi teuluoedd un rhiant i fyw bywydau diogel, hapus a chyflawn. Ewch i: Gingerbread

SNAP Cymru: Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau, neu a allai fod ag anableddau. Ewch i: SNAP Cymru