Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n rheoleiddio’r gweithlu gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r sefydliad yn gyfrifol am arwain ar reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol a myfyriwr gwaith cymdeithasol, a’r rhanfwyaf o weithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod y person yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol a’i fod wedi cytuno i fodloni’r safonau ymddygiad a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.

Mae’r Côd Ymarfer yn sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ganddynt, a bod y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’i theuluoedd yn gwybod pa safonau y gallant eu disgwyl gan y bobl sy’n eu cefnogi.

Os honnir bod gweithiwr wedi disgyn islaw’r safonau a ddisgwylir gan y Côd, gall hyn arwain at ymchwiliad a chamau gweithredu gan eu cyflogwr, ac mewn rhai achosion, gan Ofal Cymdeithasol Cymru ei hun.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ofal Cymdeithasol Cymru ar ei gwefan.