Gall Gwasanaeth Llesiant Gydol Oes Cyngor Sir Ceredigion gynnig cyngor, atgyfeiriadau ac asesiadau Gofal a Chymorth i bobl Awtistig, y rheini sy’n aros am ddiagnosis, a’u gofalwyr a’u teuluoedd sydd angen cymorth, yn seiliedig ar eu hanghenion.

I gysylltu, ffoniwch Gyngor Sir Ceredigion ar: 01545 570881 neu e-bostiwch:

clic@ceredigion.gov.uk

Bydd aelod o’r tîm yn eich cyfeirio at ein Gwasanaeth Brysbennu, Porth Gofal, a fydd yn cyfathrebu â chi drwy’r dull cyswllt sydd orau gennych i drafod sut y gallwn helpu.

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru yn wasanaeth diagnostig amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer oedolion yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Maent yn gweithio o fewn Argymhellion Cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth cyson ledled Cymru.

Cynhelir Asesiadau Diagnostig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru.

Mae’r broses yn dechrau yn dilyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol, neu hunan-atgyfeiriad.

Gorllewin Cymru - Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Autism Team

 

Y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol

Mae’r Tîm Niwroddatblygiadol wedi’i leoli yn Adeilad 1 Parc Dewi Sant Caerfyrddin SA31 3HB.

Rhif ffôn; 01267283077

Cyfeiriad e-bost;

childASD.Referrals@wales.nhs.uk

Mae’r gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn wasanaeth diagnostig amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, neu sydd wedi’u cofrestru â phractis meddyg teulu BIPHDd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, neu sir Benfro.

Maent yn gweithio o fewn Argymhellion Cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth cyson ledled Cymru.

Mae’r Tîm Niwroddatblygiadol yn derbyn atgyfeiriadau gan weithiwr iechyd proffesiynol sy’n hysbys i’r plentyn neu’r person ifanc, gyda chaniatâd rhiant neu ganiatâd y person ifanc, a thystiolaeth wedi’i dogfennu’n glir sy’n amlygu pryder sy’n gysylltiedig â chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol, ac ymddygiadau cyfyngedig neu ailadroddus.

Os oes angen cymorth cyn-diagnostig arnoch yn ogystal â chyngor neu strategaethau, dyma rai cysylltiadau defnyddiol yn eich ardal.