Mae mwy o Brydeinwyr nag erioed o'r blaen yn "troi at y botel" er mwyn lleihau straen. Mewn arolwg diweddar, dywedodd un o bob tri eu bod yn cael diod er mwyn ymlacio fwy.
Troi At Ddiod
- Mae un o bob tair menyw yn troi at ddiod er mwyn ymdopi â straen – ac mae'n dweud ar ein hiechyd
- Mae 5 miliwn o bobl yn dweud eu bod dan "straen aruthrol" yn y gwaith
- Mae mwy o Brydeinwyr nag erioed o'r blaen yn "troi at y botel" er mwyn lleihau straen. Mewn arolwg diweddar, dywedodd un o bob tri eu bod yn cael diod er mwyn ymlacio fwy
- Mae 'na ffyrdd haws – a rhatach – o ddelio â straen
Rhywbeth i Leihau Straen? Nac Ydyw
- Mae'n gwneud i chi deimlo'n isel
- Nid yw'r teimlad cychwynnol o orfoledd a rhyddhad y byddwch yn ei deimlo ar ôl diod neu ddau'n para
- Yn wir, gall diod eich atal rhag wynebu eich problemau
- Dywedwch na wrth ddiod cyn noswylio – neu byddwch yn deffro'n amlach
Chwe Arwydd Eich Bod Yn Yfed Gormod...
- Rydych yn meddwl am yr adeg y cewch eich diod nesaf
- Rydych yn cael mwy na'r pen mawr achlysurol
- Rydych yn cael diod cyn i chi allu wynebu rhai sefyllfaoedd
- Rydych yn aml yn teimlo eich bod am gael diod
- Rydych yn ffraeo gyda'ch partner yn amlach
- Rydych yn gwylltio pan fydd rhywun yn eich cwestiynu am eich arferion yfed