Dyma eich cyfle i helpu preswylwyr yng Ngheredigion gadw'n gynnes, yn ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn.

Logo Cymdogion CynnesMewn ymgais i sicrhau nad oes rhaid i drigolion yn ein cymunedau barhau i fyw mewn amodau oer, mae sefydliadau yng Ngheredigion wedi dod at ei gilydd i ddatblygu Cymdogion Cynnes. Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig yr ydym yn meddwl y dylech chi fod yn ymwybodol ohono ac o ganlyniad fod mewn sefyllfa gryfach i helpu rhywun y gaeaf hwn.

Os ydych yn gofalu a helpu'r gymuned fel rhan o'ch gwaith, os ydych yn wirfoddolwr, neu dim ond eisiau helpu eich cymydog, ffrind neu aelod o'r teulu, yna bydd y pecyn gwybodaeth Cymdogion Cynnes o werth i chi.

Mae'n hanfodol bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt ac rydym yn gofyn pe gallech helpu o leiaf dau berson neu ddau deulu yn eich cymuned yr ydych yn meddwl y bydd yn elwa o’r wybodaeth, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael a thorri'r cylch o orfod byw mewn cartref oer sydd mor aml yn cael effaith negyddol ar iechyd.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth berthnasol, megis cynlluniau cynhesrwydd y gaeaf i gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf mewn angen yn ogystal â chyfleoedd ariannu sydd ar gael i ddeiliaid tai - y ddau o safbwynt cenedlaethol a lleol i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fyw mewn amodau oer.

Os gwelwch yn dda, ewch i weld rhywun sydd mewn angen a sicrhau eu bod yn cael mynediad i'r rhwydweithiau cefnogi sydd ar gael iddynt. Mae'n werth cofio hefyd y gallai ymweliad olygu cymaint, yn enwedig i rywun sy'n teimlo'n unig y gaeaf hwn a ddim yn gwybod at bwy i droi. Mae Te Glengetti hyd yn oed wedi cefnogi'r cynllun, gan ddarparu bagiau te rhydd i ni i ddosbarthu gyda'r pecynnau, felly gwnewch baned a rhywfaint o amser ac mae gennych gyfle i wneud bywyd person ychydig yn gynhesach.

Mae ffigurau a ryddhawyd yn Tachwedd 2013 wedi dangos bod 31,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf y llynedd yng Nghymru a Lloegr, mae hynny'n 29 % yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Yng Ngheredigion, mae gennym un o'r cyfraddau marwolaethau gaeaf gormodol uchaf yng Nghymru ac mae llawer o'n aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'n amlwg bod angen i ni wneud rhywbeth - bydd Cymdogion Cynnes yn gynllun pwysig ar gyfer Ceredigion a gyda'ch cymorth chi, mae gan hyn y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Am fwy o wybodaeth neu ar gyfer cyflwyniad ar y cynllun yn eich grŵp cymunedol neu sefydliad, cysylltwch â Naomi McDonagh ar 01545 572105.

Lawrlwythwch gopi o'r pecyn:

Pecyn Cymdogion Cynnes

Ffurflen Werthuso Cymdogion Cynnes