Ystafell Seremoni Ceredigion a leolir yn Swyddfa Gofrestru, Aberystwyth

 

Os ydych chi’n bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn Ystafell Seremoni Ceredigion, mae dau opsiwn rydyn ni’n cynnig i’ch galluogi chi i gael y math o seremoni o’ch dewis chi.

 

Seremoni gyda hyd at 4 o westeion

  • Argaeledd
    • Bore dydd Mawrth i ddydd Iau (yn unol ag argaeledd)
  • Capasiti
    • 4 gwestai yn unig (yn cynnwys 2 dyst sydd yn oedolion)
  • Ffi’r Seremoni
    • £46
  • Math o Seremoni
    • Seremoni seml ond ystyrlon na ellir ei newid gyda chynnwys ychwanegol megis darlleniadau na mynediad ffurfiol

 

Seremoni gyda hyd at 20 o westeion

  • Argaeledd
    • Dydd Mawrth i ddydd Gwener a bore dydd Sadwrn (yn unol ag argaeledd)
  • Capasiti
    • Hyd at gyfanswm o 20 o westeion (gan gynnwys plant)
  • Ffi’r Seremoni
    • £171
  • Math o Seremoni
    • Gellir personoli a newid y seremoni gyda chynnwys ychwanegol megis cerddoriaeth, darlleniadau, addunedau personol a mynediad ffurfiol

 

Ystafell Seremoni Ceredigion, Aberystwyth

Ystafell Seremoni Ceredigion, Aberystwyth

Ymholiadau

I wneud ymholiad ynglŷn ag Ystafell Seremoni Ceredigion, ffoniwch 01970 633580.

Bydd ffi archebu/ gweinyddiaeth o £30 yn daliadwy wrth drefnu. Bydd y ffi hon yn cael ei thynnu o’r cyfanswm terfynol, ac ni ellir ei had-dalu os fydd y seremoni yn cael ei chanslo.

Pan fyddwch yn rhoi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil yn eich swyddfa gofrestru leol, nodwch y lleoliad fel Ystafell Seremoni Ceredigion.


Seremonïau Statudol yn Swyddfa Gofrestru Ceredigion, Aberystwyth

Gellir cynnal seremonïau priodas statudol a phartneriaeth sifil yn yr ystafell drwyddedig a chyfeirir ati fel ‘Swyddfa Gofrestru Ceredigion’. Mae’r swyddfa weithiol hon yn cael ei defnyddio ar gyfer apwyntiadau genedigaeth, marwolaethau ac apwyntiadau eraill. Mae seremonïau yn y stafell hon wedi’u hamserlennu o amgylch apwyntiadau cofrestru ar fore dydd Mawrth yn unig ac yn unol ag argaeledd.

Mae’r mwyafrif o gyplau sydd â diddordeb mewn seremoni sylfaenol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithlon yn dewis cael seremoni seml o fewn Ystafell Seremoni Ceredigion (gweler uchod)

Cysylltwch â ni ar 01970 633580 am fwy o wybodaeth.