Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) wedi gweithio mewn partneriaeth â ACLl eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu (MDD). Crëwyd y MDD fel model cynhwysfawr hawdd ei ddefnyddio y gellir ei ddefnyddio gan hyrwyddwyr safleoedd a phenderfynwyr at ddiben asesu dichonoldeb ariannol cynnig datblygu.

Offeryn arfarnu 'sy'n benodol i safle' yw'r MDD, sydd wedi'i gynhyrchu i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365, gan redeg ar Microsoft Windows. Ceir manylion pellach manylebau'r MDD yn y Canllaw i Ddefnyddwyr, y gellir ei lawrlwytho yma (y paragraff ail i'r olaf ar y dudalen we). Bydd pob copi o'r model a roddir gan y ACLl wedi'i 'gloi' i safle datblygu penodol. Gellir ailddefnyddio'r un copi o'r model fodd bynnag i asesu mwy nag un sefyllfa arfaethedig ar gyfer datblygiad y safle penodol.

Mae'r MDD yn cael ei ardystio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel offeryn priodol ar gyfer cyflwyno asesiadau hyfywedd gofynnol i gefnogi cyflwyniadau a Safleoedd Ymgeisiol y CDLl a cheisiadau cynllunio.

Gall y Awdurdod Cynllunio Lleol sicrhau bod y MDD ar gael i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safleoedd neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall at ddiben cynnal arfarniad dichonoldeb ariannol (ADA) o ddatblygiad arfaethedig. Caiff y model ei ryddhau ar sail safle penodol yn amodol ar y ACLl yn derbyn taliad ffi safonol.

 

Cheisiadau Cynllunio

Dyma'r rhestr ffïoedd safonol (mae'r holl daliadau'n destun TAW a gallant newid dros amser):

Her ddichonoldeb (Wrth benderfynu ar gais cynllunio)

  • 1 - 9 Anheddau £686.00
  • 10+ Anheddau (Trwy Gytundeb)

Addasiad Ddichonoldeb ôl-gais

  • Safleoedd 1 - 9 Uned (Isafswm ffi £, pris y safle) £1,095.00
  • Safleoedd o 10 - 25 Uned (Isafswm ffi £, pris y safle) £1,535.00
  • Safleoedd 25 - 50 o Unedau (Isafswm ffi £, pris y safle) £1,975.00
  • Safleoedd o 51 neu fwy o unedau (Trwy Gytundeb)

Lluniwyd Arweiniad Defnyddiwr manwl (neu lawlyfr cyfarwyddiadau) i ddisgrifio sut mae'r MDD yn gweithio; ac i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r defnyddiwr ei mewnbynnu yn y celloedd perthnasol. Ar gael drwy'r ddolen hon. Mae pob copi o'r MDD hefyd yn cynnwys "Arweiniad Cyflym" ar gyfer y rheini sy'n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl yn unig nad yw'n sylweddol fwy na 5 erw (2 hectar). Dywedir wrth ddefnyddwyr hefyd fod y model yn cynnwys nodiadau cymorth, sydd wedi'u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain, sy'n atgoffa'r defnyddiwr o'r hyn i'w wneud ar bob taflen.

Hefyd, darperir dolenni isod i rai fideos 'How to' ar sut i ddefnyddio'r model. Darperir y rhain fel ffordd arall o helpu'r defnyddiwr i ddeall sut mae'r MDD yn gweithio mewn arweiniad cam wrth gam.

I gael copi o'r model ar gyfer safle penodol a/neu i drafod materion sy'n ymwneud â'r MDD yn fwy eang, cysylltwch â'r ACLl ar planning@ceredigion.gov.uk

Gall y ACLl sicrhau bod y MDD ar gael i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safleoedd neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall at ddiben cynnal arfarniad dichonoldeb ariannol (ADA) o ddatblygiad arfaethedig. Caiff y model ei ryddhau ar sail safle penodol yn amodol ar y ACLl yn derbyn taliad ffi safonol.Safleoedd Ymgeisiol

Yn ôl Canllawiau Cenedlaethol, gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru, mae'n ofynnol i "berchenogion/datblygwyr tir gynnal asesiad cychwynnol o ddichonoldeb y safle a rhoi tystiolaeth i ddangos ymarferoldeb ariannol eu safleoedd" (PCC para. 4.2.19). 

Mae'r ffïoedd safonol a fydd yn berthnasol yn cynnwys amser gweinyddol y ACLl, amser sydd ei angen i bersonoli a chyflwyno'r model ar gyfer y safle penodol, yn ogystal ag amser swyddogion sy'n angenrheidiol i gynnal adolygiad hollbwysig o'r ADA a gyflwynwyd ar gyfer safle ymgeisiol. Mae strwythur ffïoedd haenog yn berthnasol, sy'n seiliedig ar faint a graddfa'r safle. Pennir y ffi gan y ACLl, a fydd yn ystyried yr hyn sydd yn eu tyb nhw yn nifer priodol o unedau preswyl y gellid eu cynnwys yn rhesymol ar y safle. Mae'r ymagwedd haenog at ffïoedd yn cydnabod y bydd maint a chwmpas y cynnig datblygu'n dylanwadu ar faint o amser swyddogion fydd ei angen i gynnal adolygiad hollbwysig o'r MDD gorffenedig a gyflwynwyd.

Dyma'r rhestr ffïoedd safonol (mae'r holl daliadau'n destun TAW a gallant newid dros amser):

  • Safleoedd ag 1 - 9 uned - £215
  • Safleoedd â 10 - 50 o unedau - £380
  • Safleoedd â 51 - 100 o unedau - £545
  • Safleoedd â mwy na 100 o unedau - cytunir ar y gost gyda'r ACLl gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig

Sylwer bod y ffïoedd uchod yn ymwneud â chyflwyniadau MDD sy'n cefnogi Safleoedd Ymgeisiol y CDLl. Gellir defnyddio'r MDD hefyd fel offeryn i roi tystiolaeth o ddichonoldeb ariannol cynnig datblygu ar y cam cais cynllunio.

Bydd yr adolygiad hollbwysig y bydd y ACLl yn ei gynnal o gyflwyniad MDD gorffenedig i gefnogi safle ymgeisiol yn gwirio priodoldeb yr wybodaeth a ddarparwyd gan hyrwyddwr y safle fel rhan o'r arfarniad. Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni'r MDD wedi'u cwblhau'n briodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw'r:

  1. dystiolaeth a ddarparwyd i ategu'r costau a'r gwerthoedd a ddefnyddiwyd yn y MDD a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesur;
  2. amserlen awgrymedig ar gyfer y datblygiad yn realistig; a
  3. a yw'r MDD yn cyd-fynd â gofynion polisi'r ACLl a chyda chanllawiau eraill a/neu ddatganiadau polisi sy'n berthnasol i'r asesiad o ddichonoldeb mewn cyd-destun cynllunio.

Ar ôl cwblhau'r arolwg hollbwysig, bydd y ACLl yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle a fydd yn dangos i ba raddau y mae'n ystyried bod y MDD yn bodloni'r profion a amlinellwyd uchod.Pwysleisir bod y rhestr ffïoedd safonol yn cynnwys rhyddhau'r model ac adolygiad lefel uchel ar y cam safle ymgeisiol ac nid yw'n caniatáu ar gyfer unrhyw amser y gall hyrwyddwr safle fod yn dymuno'i dreulio yn trafod canfyddiadau adolygiad hollbwysig cychwynnol y ACLl o MDD. Mae'n bosib y bydd ffïoedd ychwanegol yn berthnasol mewn achosion lle bydd angen rhagor o amser swyddog gan fod hyrwyddwr safle wedi trafod ymhellach â'r ACLl ynghylch yr arfarniad cychwynnol a gyflwynwyd, a/neu os yw'r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol a bydd angen ei hailgyflwyno.Efallai y bydd angen i'r ACLl alw ar ei Syrfewyr Prisiant Siartredig neu gael arbenigedd gan drydydd parti, er enghraifft lle mae angen cynnal asesiadau cynhwysfawr o'r costau anghyffredin a gyflwynir. Byddai angen i'r datblygwr/hyrwyddwr safle dalu'r costau sy'n gysylltiedig â hyn, a bydd y ACLl yn trafod costau o'r fath os bydd angen gwneud gwaith ychwanegol.

Mae'r ACLl yn cydnabod y gall peth o'r wybodaeth y mae ei hangen i ddangos dichonoldeb gael ei hystyried gan hyrwyddwr y safle'n wybodaeth fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodir yn Llawlyfr CDLl Llywodraeth Cymru, nid yw'r mater hwn o sensitifrwydd yn ddigon o reswm i osgoi darparu'r dystiolaeth briodol (Llawlyfr y CDLl, para. 5.96). Ni fydd pob MDD a gyflwynir ar gael yn gyhoeddus, a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y ACLl a'r person neu'r sefydliad sydd wedi'i gyflwyno. Prif ddiben y MDD yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu'r safle arfaethedig ar ei gyfer yn debygol o fod yn "ddichonadwy" neu beidio. Lle bydd yn angenrheidiol neu'n briodol i wybodaeth o MDD gael ei rhyddhau fel tystiolaeth, er enghraifft, i gefnogi dyrannu safle penodol yn CDLl y ACLl, bydd y ACLl yn trafod i ba raddau y gellir rhyddhau'r fath wybodaeth â hyrwyddwr y safle.