Yma yng Ngwasanaeth Rheoli Adeiladu Ceredigion, mae ein bwriad yn syml:

Sicrhau fod trigolion Ceredigion yn cael adeiladau sy'n ddiogel ac yn iach i fyw ynddynt, sydd yn effeithlon ag ynni, sydd yn bodloni anghenion mynediad pobl anabl, ac sydd drwy hynny yn hyrwyddo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Cyngor o ran datblygu cynaliadwy.

Yma yng Ngwasanaeth Rheoli Adeiladu Ceredigion, mae ein bwriad yn syml:

Sicrhau fod trigolion Ceredigion yn cael adeiladau sy'n ddiogel ac yn iach i fyw ynddynt, sydd yn effeithlon ag ynni, sydd yn bodloni anghenion mynediad pobl anabl, ac sydd drwy hynny yn hyrwyddo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Cyngor o ran datblygu cynaliadwy.

Mae ein gwasanaeth yn un blaengar, sydd yn cynorthwyo ein cleientiaid wrth iddynt fynd i'r afael â rheoliadau adeiladu sydd fwyfwy cymhleth, gan sicrhau bod eu prosiectau'n gynaliadwy ac o'r radd flaenaf.

Ni yw prif ddarparwyr gwasanaethau rheoli adeiladu yng Ngheredigion, ac rydym yn cynnig gwasanaeth diduedd sy'n atebol i'r cyhoedd, gan ymroi i ddarparu cymorth cost effeithiol o'r radd flaenaf wedi'i deilwra yn ôl anghenion ein cleientiaid, boed hynny ar gyfer gwaith adeiladu gwerth miliynau o bunnau, neu brosiect adnewyddu tŷ.

Er mwyn sicrhau bod trigolion y Sir yn cael gwasanaeth heb ei ail, mae'r adain yn meddu ar / yn darparu'r isod:

  • Achredu Ansawdd ISO 9001
  • Gwybodaeth helaeth am ddaearyddiaeth a daeareg leol, ynghyd â llu o gofnodion hanesyddol
  • Tîm sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Cyswllt uniongyrchol â phob Swyddog
  • Cyflwyno tystysgrifau Cwblhau sy'n cadarnhau bod archwiliadau wedi' gwneud, ac felly bod cydymffurfiaeth â'r gofynion perthnasol dan y Rheoliadau
  • Gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ddatblygiadau mawr.
  • Tîm o Swyddogion cymwys gyda phrofiad ymhob math o waith adeiladu
  • Swyddogion wedi cofrestru â'r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS)
  • Dull proffesiynol, effeithlon ac effeithiol o roi cyngor, gwirio cynlluniau a phenderfynu
  • Gwasanaeth archwilio ar yr un diwrnod, i beidio ag achosi oedi ar safleoedd adeiladu
  • Partneriaethau cryf â gweithwyr proffesiynol eraill yn y Sir
  • Rhoi asesiad technegol llawn o gynlluniau ymhen 15 diwrnod gwaith ar ôl ei gwirio
  • Darparu cyngor, arweiniad ac asesiadau yn unol â'r Cod Cartrefi Cynaliadwy (sy'n orfodol ers 01/09/2010)
  • Gwasanaeth Cyfrifo'r Weithdrefn Asesu Safonol (SAP)
  • Cymryd rhan yng Ngwobrau "Rhagoriaeth Adeiladu", sy'n rhoi cydnabyddiaeth i adeiladwyr sydd yn gwneud gwaith adeiladu da yn gyson
  • Darparu gwybodaeth allweddol am eiddo i werthwyr neu asiantau
  • Ymateb i ymholiadau a darparu copïau o hysbysiadau penderfynu a thystysgrifau i gyfreithwyr
  • Gweithio â darparwyr gwarantau wrth sicrhau y cyflwynir Tystysgrifau Cwblhau yn unol â chanllawiau'r Cyngor Benthycwyr Morgeisi.