COVID–19 Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Dros

Ar hyn o bryd, mae Canolfan Rheidol, Aberystwyth a Neuadd y Sir, Aberaeron ar gau i bawb heblaw staff hanfodol.

Mae yna bwynt cyswllt ar gyfer Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 572 484 neu buildingcontrol@ceredigion.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau Rheoliad Adeiladu yn electronig trwy'r cyfeiriad e-bost uchod, gyda ffurflen gais ar gael trwy ei lawrlwytho neu drwy gais e-bost.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein hefyd trwy www.planningportal.co.uk.

Ar hyn o bryd, o ystyried  achosion COVID-19, ni fydd cyflwyno ceisiadau nad ydynt yn electronig yn cael eu prosesu nes bod arfer gweithio arferol wedi ailddechrau.

Trefnwch dalu ceisiadau ar-lein trwy glicio ar y ddolen a dilyn y camau isod:

www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/taliad-ar-lein/

Dilynwch y camau hyn

  • Cam 1 Cliciwch Taliadau Ar-lein
  • Cam 2 Cliciwch Arall
  • Cam 3 Cliciwch Rheoli Adeiladu
  • Cam 4 Dewiswch pa un sy'n berthnasol i chi
  • Cam 5 Llenwch y manylion

Ni fydd cynlluniau llawn na chais hysbysiad adeiladu yn cael eu trin fel y'u cyflwynwyd na'u prosesu nes bod y tâl perthnasol wedi'i dalu.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i amddiffyn ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid o ddifri. Mae hyn yn golygu na chaniateir i aelodau'r tîm Rheoli Adeiladu fynd i safleoedd oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd angen archwiliadau critigol ac ar gyfer mynychu Strwythurau Peryglus. Ymdrinnir â'r rhain ynghyd â'n partneriaid yn y gwasanaethau brys a gyda mesurau sy'n cynnwys pellhau cymdeithasol.

Gellir cysylltu â swyddogion yn y modd arferol trwy e-bost neu ffonau symudol.

Roger Turner 07977 270 043 roger.turner@ceredigion.gov.uk
Huw Herberts 07977 270 044 huw.herberts@ceredigion.gov.uk
Richard Stevens 07977 270 045 richard.stevens@ceredigion.gov.uk
Geraint Williams 07977 270 048 geraint.williams@ceredigion.gov.uk
John Griffiths 07977 270 047 john.griffiths@ceredigion.gov.uk


Mae Rheoliadau Adeiladu yn ofynion cyfreithiol a bennir gan Senedd y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau safonau digonol ar gyfer gwaith adeiladu ar adeiladau domestig a masnachol.

Oes arnaf angen Rheoliadau Adeiladu?

Bydd gofyn i chi wneud cais am Reoliadau Adeiladu os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw rai o'r pethau canlynol:

  • Codi neu ymestyn adeilad.
  • Addasu adeilad yn sylweddol, er enghraifft, cyflawni addasiadau strwythurol.
  • Ymestyn neu addasu gwasanaeth rheoledig o fewn adeilad, er enghraifft, gosod tŷ bach.
  • Newid yn sylfaenol sut y defnyddir adeilad.
  • Gosod ffenestri newydd wrth ddefnyddio adeiladwr neu gwmni sydd heb gofrestru â FENSA.
  • Rhai mathau o waith trydanol domestig.
  • Newid statws ynni adeilad, er enghraifft, ail-rendro.

Efallai y bydd Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol i addasiadau neu adeiladau eraill hefyd. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu i holi a oes arnoch angen Rheoliadau Adeiladu.

 

Ceir sawl math o Adeiladau a Strwythurau sy'n eithriedig o Reoliadau Adeiladu. Os nad ydych chi'n sicr a yw eich prosiect yn eithriedig ai peidio, cysylltwch â ni. Hefyd, dylech fod yn ymwybodol, hyd yn oed os yw'ch prosiect yn eithriedig o ofynion y Rheoliadau Adeiladu, gallai fod gofyn cael Caniatâd Cynllunio. Byddai'n ddoeth anfon manylion ynghylch prosiectau arfaethedig i adeiniau Rheoli Adeiladu a Chynllunio Cyngor Sir Ceredigion i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Mae'r strwythurau isod yn eithriedig o'r Rheoliadau Adeiladu, cyn belled ag y bônt yn bodloni'r meini prawf a nodir:

Heulfannau

Diffinnir heulfan fel adeilad un llawr, llawr gwaelod sydd ynghlwm ag adeilad sydd eisoes yn bod. Mae'n rhaid i'r to a'r waliau fod wedi'u gwneud yn bennaf o ddefnydd tryloyw neu dryleu. Diben heulfannau yw tyfu planhigion, ond fe'u defnyddir yn aml fel ystafelloedd byw ychwanegol.

I fod yn eithriedig, bydd yn rhaid i'ch heulfan fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Lefel y llawr gwaelod yn unig
  • Ni chaiff arwynebedd y llawr y tu mewn fod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Mae'n rhaid i ddim llai na thri chwarter y to, a dim llai na hanner y waliau allanol, fod wedi'i wneud o ddefnydd tryloyw neu dryleu
  • Ni ddylid defnyddio'r heulfan at unrhyw ddiben arall megis ystafell wely neu gegin
  • Mae'n rhaid cadw'r drysau a/neu'r ffenestri sydd eisoes yn bod
  • Mae'n rhaid defnyddio gwydr diogelwch mewn llefydd allweddol
  • Os darperir system wresogi sefydlog, bydd yn rhaid iddi fod yn annibynnol o'r annedd

Portshys

Diffinnir portsh fel estyniad un llawr ar adeilad sydd eisoes yn bod, a roddir ar y llawr gwaelod uwchben drws mynedfa, a thueddir eu defnyddio ar gyfer cadw cotiau, esgidiau ac ati.

I fod yn eithriedig, bydd yn rhaid i'ch portsh fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Lefel y llawr gwaelod yn unig
  • Ni chaiff arwynebedd y llawr y tu mewn fod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Ni ddylid defnyddio'r portsh at unrhyw ddiben arall megis ystafell wely neu gegin
  • Mae'n rhaid cadw'r drysau a/neu'r ffenestri sydd eisoes yn bod
  • Mae'n rhaid defnyddio gwydr diogelwch mewn llefydd allweddol

Cysgodfa Ceir

I fod yn eithriedig bydd yn rhaid i'ch cysgodfa ceir fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Lefel y llawr gwaelod yn unig
  • Ni chaiff arwynebedd y llawr y tu mewn fod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Mae'n rhaid bod y gysgodfa ceir yn agored ar ddwy ochr o leiaf

Garej

I fod yn eithriedig bydd yn rhaid i'ch garej fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae'n rhaid iddi fod ar wahân i unrhyw strwythur arall 
  • Ni chaiff arwynebedd y llawr y tu mewn fod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Mwy nag 1 metr o ffin yr eiddo, neu wedi'i wneud o frics neu flociau

Sied 

I fod yn eithriedig bydd yn rhaid i'ch sied fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae'n rhaid iddi fod ar wahân i unrhyw strwythur arall 
  • Ni chaiff arwynebedd y llawr y tu mewn fod yn fwy na 30 metr sgwâr 
  • Mwy nag 1 metr o ffin yr eiddo, neu wedi'i wneud o frics neu flociau
  • Ni ddylid defnyddio'r sied at unrhyw ddiben arall megis ystafell wely neu gegin
  • Os yw'r sied wedi'i gwneud o bren ac yn sefyll dim mwy nag 1 metr o ffin yr eiddo, mae'n rhaid bod arwynebedd y llawr y tu mewn yn llai na 15 metr sgwâr.

Adeiladau amaethyddol a thai gwydr

Dylid defnyddio'r rhain yn bennaf ar gyfer cadw planhigion a/neu anifeiliaid, ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer manwerthu, pecynnu nac arddangos. Ni ddylid defnyddio'r adeiladau hyn fel anheddau. Mae'n rhaid i'r strwythur fod 1.5 gwaith uchder yr adeilad i ffwrdd o unrhyw annedd.

Adeiladau Ategol

Mae'r rhain yn cynnwys swyddfeydd ar safleoedd adeiladu, swyddfeydd gwerthiant ac ati. Ni ddylid ond eu defnyddio pan fo gwaith adeiladu'n mynd yn ei flaen, ac ni chânt ar unrhyw gyfrif gynnwys lle cysgu.

Mae dwy ffordd o wneud cais am Reoliadau Adeiladu:

Cynlluniau Llawn

  • Gyda Chynlluniau Llawn mae gofyn cyflwyno darluniau manwl i Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â ffi am y gwaith. Bydd y Cyngor yn gwirio'r cynlluniau hyn, ac fel rheol yn cyflwyno hysbysiad cymeradwyo cyn i'r gwaith ddechrau. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos, ond byddwn yn ceisio ymateb yn gynt na hynny.

Hysbysiad Adeiladu

  • Dyma ffordd symlach o wneud cais am Reoliadau Adeiladu, ond ni ellir ei defnyddio ar gyfer adeiladau masnachol. Dylid anfon manylion sylfaenol y prosiect a'r ffi berthnasol i Gyngor Sir Ceredigion. Ni fydd y Cyngor yn cyflwyno hysbysiad cymeradwyo, ond yn hytrach caiff y gwaith fynd yn ei flaen, ar yr amod y cytunir trefniadau ar gyfer archwilio'r safle yn rheolaidd wrth i'r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen.

Cyflwynodd y Llywodraeth Gynlluniau Unigolion Cymwys er mwyn galluogi pobl a sefydliadau i hunan-ardystio eu gwaith yn ôl ei gydymffurfiad â'r Rheoliadau Adeiladu, heb orfod cyflwyno Hysbysiad Adeiladu neu ddefnyddio arolygwr cymeradwy.

Diben y cynlluniau yw galluogi'r bobl hynny sy'n gymwys yn eu meysydd priodol i ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, heb orfod cyflwyno Hysbysiadau Adeiladu a mynd i gostau gyda hynny. Y nod yw cynyddu cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Adeiladu, lleihau costau i gwmnïau sy'n ymuno â'r cynlluniau, a hybu hyfforddiant a chymhwysedd yn y diwydiant adeiladu.

Ceir rhestr gynhwysfawr o'r Cynlluniau Unigolion Cymwys sy'n bodoli ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y Llywodraeth.