Sut allwch chi helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin

Cartrefi i Wcráin: cofrestrwch eich diddordeb

Os ydych am gynnig cartref i bobl sy'n ffoi o Wcráin, gallwch ddod yn 'noddwr' fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich diddordeb mewn dod yn noddwr. Gallwch gofrestru fel unigolyn neu fel sefydliad ar tudalen Homes for Ukraine: register your interest y Llywodraeth (Saesneg yn unig).

Gwneud cais am fisa Cynllun Teulu Wcráin

Mae Cynllun Teulu Wcráin yn caniatáu i ymgeiswyr ymuno ag aelodau o'r teulu neu ymestyn eu harhosiad yn y DU. Dysgwch mwy ar tudalen Apply for a Ukraine Family Scheme visa y Llywodraeth (Saesneg yn unig).

Ffyrdd eraill o helpu:

Os ydych am helpu ond na allwch gynnig llety, gallwch gyfrannu at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (Saesneg yn unig). Mae'r grŵp hwn o elusennau yn gweithio ar lawr gwlad yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu hanfodion, gan gynnwys bwyd, dŵr, cysgod a chymorth meddygol.

Dylai pobl sy’n dymuno rhoi i helpu gydag apêl Wcráin wneud hynny drwy roi rhodd ariannol drwy’r sianeli priodol, megis y Pwyllgor Argyfyngau. Dyma’r opsiwn a ffefrir yn hytrach na rhoi nwyddau oherwydd y gall y rhain achosi problemau logistaidd.

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gael ar dudalen Wcráin a dudalen Llywodraeth Cymru Wcráin: cymorth i bobl yr effeithir arnynt.

Cyngor ar sut gall awdurdodau lleol gefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol

Llinell gymorth bwrpasol i bobl sy’n cyrraedd ac i noddwyr

Gall noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth ar 0808 175 1508 am gyngor.

Mae llinell gymorth bwrpasol ar gael i bobl sy'n cyrraedd Cymru o'r Wcráin ac ar gyfer noddwyr.

  • O fewn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508.
  • O’r tu allan i'r DU, y rhif ffôn yw: +44 20 4542 5671.

Newyddion a Gwybodaeth

28.03.2024

Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun Tocyn Croeso ym mis Mawrth 2022. Mae'r cynllun wedi darparu cludiant am ddim i bob ffoadur sy'n byw yng Nghymru.

Ni fydd y Tocyn Croeso ar gael dim mwy ar wasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru o 1 Ebrill 2024. O’r dyddiad hwn bydd angen i chi dalu am eich taith.

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer un o’r cynlluniau teithio am ddim neu am bris gostyngol hefyd os ydych yn:

  • 60 oed neu’n hŷn
  • Ymwelydd Anabl
  • plentyn neu berson ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a thocynnau teithio gostyngedig eraill, gweler www.traveline.cymru neu cysylltwch â’ch gweithredwr bysiau lleol.

08.06.2022
Diweddariad ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin: Yn dilyn ymateb hynod gadarnhaol pobl Cymru i gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gyflwyno mwy na 2000 o fisas hyd yma, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi saib gweithredol dros dro ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin.

07.06.2022

Ukraine Crisis: Help and Guidance (Tudalen Saesneg yn unig)

30.05.2022

Dod â'ch anifail anwes i Gymru o Wcráin: cwestiynau cyffredin

Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth i fyfyrwyr Addysg Uwch sy'n ceisio noddfa rhag y rhyfel yn Wcráin 

10.05.2022

Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern

Cyngor ar y modd y gall cyrff cyhoeddus helpu i ddiogelu pobl o Wcráin sy’n byw mewn cartrefi yng Nghymru.


Homes for Ukraine: A Reset service for community welcome (Gwefan Saesneg yn unig.)

09.05.2022

Cynlluniau newydd i helpu ffoaduriaid a phobl o Wcráin i integreiddio yng Nghymru:

Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobl o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a byddant hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.

03.05.2022

Noddfa: Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

14.04.2022

Cyngor i ddarparwyr gofal plant ar ofal plant i bobl o Wcráin

28.03.2022
Cofrestrwch fusnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru

25.03.2022
Noddfa: Helpu ffoaduriaid i ddeall eu hawliau

18.03.2022

Datganiad Ysgrifenedig: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i ffoaduriaid Wcráin

Mae pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin wedi dechrau cael eu paru â lloches ddiogel yng Nghymru a’r DU, o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.

16.03.2022
Cymru yn cynnig teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin

14.03.2022
Cymuned Cyn-filwyr Ceredigion a chefnogaeth i Wcráin