Cynllun Cyfamod Cymunedol

Lansiwyd y Cynllun Cyfamod Cenedlaethol gan y Llywodraeth yn 2011, a chytunwyd y byddai egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael eu cynnwys yn y gyfraith.

Mae'r egwyddorion yn cynnwys:

  • cydnabod natur unigryw y gwasanaeth
  • sicrhau nad oes unrhyw anfantais, e.e.  heb fod yn gallu manteisio ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i Wasanaeth yn y Lluoedd Arfog, ac
  • mae modd cyfiawnhau triniaeth arbennig, e.e. yn achos personél a anafwyd.

Mae Cyfamodau Cymunedol yn ddatganiadau gwirfoddol o gymorth ar y cyd rhwng cymunedau sifil a'u cymuned Lluoedd Arfog leol.
Nod Cyfamodau Cymunedol yw:

  • annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd;
  • meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion y maent yn effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog;
  • cydnabod a chofio'r aberthau a wnaethpwyd gan gymuned y Lluoedd Arfog;
  • annog gweithgareddau sy'n helpu i integreiddio'r Lluoedd Arfog ym mywyd lleol;  ac
  • annog cymuned y Lluoedd Arfog i helpu i gynorthwyo'r gymuned ehangach trwy gyfranogi mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu fathau eraill o ymgysylltu.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i'r Cynllun Cyfamod Cymunedol.

Mae'r elusennau y maent yn gweithio gyda'r Lluoedd Arfog, eu Teuluoedd, Milwyr wrth Gefn a Chyn-filwyr yn cynnwys: