Dolenni Defnyddiol

Logo Veteran's Gateway

Porth y Cyn-filwyr/ Veteran’s Gateway

Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyn-filwyr sy’n chwilio am gymorth.

Mae dros 2,500 o elusennau milwrol yn bodoli.

Lansiwyd y gwasanaeth mewn ymateb i adolygiad yr Arglwydd Ashcroft yn 2014, Veterans’ Transition Review, a alwodd am symleiddio’r system gefnogaeth i gyn-filwyr i greu:

  • Un ganolfan gyswllt 24/7
  • Un rhif ffôn am ddim
  • Cyfeiriad gwefan
  • Atgyfeirio cleientiaid ar unwaith i’r person priodol
  • Hawdd i gael cymorth yn fyd-eang

Porth y Cyn-filwyr

Grantiau Ar Gael

Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

Sefydliad y Cyn-filwyr

Newyddion

Cyngor Sir Ceredigion yn ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 22 Medi, cyflwynwyd Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) i Gyngor Sir Ceredigion am eu hymdrechion i sicrhau bod cymuned Lluoedd Arfog Ceredigion yn cael ei chefnogi.

Grwp o dynion yn derbyn tystysgrif

Roedd Cyngor Sir Ceredigion ymhlith 20 o enillwyr eraill gafodd wobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru. Yn bresennol, roedd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Brian Davies, y Cynghorydd Paul Hinge, yr aelod eiriolwr dros Luoedd Arfog a Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfniadaeth.

Mae Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn wobr uchel ei bri sy’n cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle. Rhaid i sefydliadau fynd ati i ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Hefyd, rhaid iddynt sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o'u polisïau cadarnhaol tuag at faterion sy’n effeithio ar bersonél Amddiffyn yn cynnwys Lluoedd Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddiolch i bawb am ei ymroddiad parhaus a'i waith caled yn CCLlA Ceredigion i sicrhau bod trigolion cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi'n llawn yng Ngheredigion.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog, “Rwy’n falch bod y gwaith ni’n gwneud yng Ngheredigion wedi cael ei gydnabod ar draws Cymru. Mae gennym Fforwm CCLIA rhagweithiol iawn sy'n ein helpu i gyflawni ein haddewidion cyfamod ac rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau unigol a chyfunol wrth ein helpu i gyflawni'r wobr hon.”

Am fwy o wybodaeth am Wobrau ERS yng Nghymru ewch i tudalen Defence Employer Recognition Scheme y Llywodraeth (Saesneg yn unig).