Gwybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws (COVID-19)
13/04/2022
29/03/2022
Lefel rhybudd 0: canllawiau i'r cyhoedd
Cyngor iechyd y cyhoedd ar gyfer byw gyda coronafeirws.
13:04
17/03/2022
Cymru’n dechrau rhoi brechiadau atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn o'r wythnos hon
Yn y cyfnod diweddaraf hwn o’r rhaglen frechu bydd pobl dros 75 oed, pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn cael gwahoddiad i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.
10:17
04/03/2022
COVID-19: cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig
Mae Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – Cynllun Pontio hirdymor Cymru o Bandemig i Endemig yn nodi dull pontio graddol oddi wrth fesurau argyfwng.
12:45
22/02/2022
Datganiad Ysgrifenedig: Brechu rhag COVID-19 – Cynnig ail frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed
Fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i'n hunigolion mwyaf agored i niwed.
08:17
18/02/2022
Ni fydd y Pás COVID domestig yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau mwyach.
O 18 Chwefror ymlaen, ni fydd y Pás COVID domestig yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau mwyach.
08:58
16/02/2022
Datganiad Ysgrifenedig: Brechlynnau Covid-19 i blant pump i 11 oed
Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Byddwn yn annog pob teulu sydd â phlant rhwng pump ac 11 oed, nad ydynt mewn unrhyw grwpiau risg glinigol, i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth am frechu ac i ddechrau sgwrs ynghylch a ydynt eisiau manteisio ar y cynnig hwn."
08:39
28/01/2022
Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero
Bydd rhai camau diogelu pwysig yn aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.
10:23
26/01/2022
Lleihau’r cyfnod hunanynysu
Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif. Dyna yw’r cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw.
08:32
20/01/2022
Cymorth ariannol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau’r coronafeirws
Mae cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden, twristiaeth, gweithwyr llawrydd yn y sector greadigol a’r gadwyn gyflenwi yng Ngheredigion yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf.
11:25
14/01/2022
Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero.
16:13
13/01/2022
Rhoi gwybod am ganlyniad eich prawf llif unffordd
Gwybodaeth am sut i roi gwybod i’r GIG am ganlyniad positif neu negatif eich prawf llif unffordd.
12:57
10/01/2022
Ardaloedd chwarae meddal i blant ac ardaloedd chwarae dan do: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Canllawiau Llywodraeth Cymru i helpu darparwyr gofal plant i ddiogelu plant, staff ac ymwelwyr yn lefel rhybudd 2.
08:25
Campfeydd, canolfannau hamdden, clybiau chwaraeon, stiwdios dawns a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn campfeydd, canolfannau hamdden, clybiau chwaraeon, stiwdios dawns a chyfleusterau chwaraeon dan do erail yn lefel rhybudd 2.
08:21
07/01/2022
Olrhain cysylltiadau: os cewch eich enwi fel cyswllt agos
Esbonio sut mae’r system olrhain cysylltiadau’n gweithio os ydych wedi eich cadarnhau fel cyswllt person sydd wedi cael prawf positif am y coronofeirws.
11:25
Olrhain cysylltiadau: os ydych chi wedi cael prawf positif
Esbonio sut mae’r system olrhain cysylltiadau’n gweithio os ydych wedi cael prawf positif am y coronofeirws.
11:24
Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau
Dylech gymryd prawf llif unffordd os nad oes symptomau gyda chi a'ch bod dros 11 oed.
11:23
05/01/2022
Datganiad Ysgrifenedig: Blaenoriaethu Profion PCR
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Bydd y newid cyntaf yn golygu y dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi’u nodi fel cyswllt i achosion positif ac sy’n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth yn hytrach na phrawf PCR. Bydd hyn yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR. Daw’r newid hwn i rym ar unwaith.
Yn ail, ynghyd â gwledydd eraill y DU, rydym wedi cytuno os bydd person sydd yn dangos dim symptomau yn cael prawf llif unffordd positif, ni fyddant bellach yn cael cyngor i gael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau’r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol, a allai fod angen mynediad cynnar at driniaeth, neu wedi cael cyngor i gael prawf PCR fel rhan o raglen ymchwil a monitro."
15:34
04/01/2022
Drafnidiaeth gyhoeddus: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lefel rhybudd 2.
10:17
Gwiriwr cymhwysedd ar gyfer pecyn cefnogi busnesau Omicron gwerth £120m yn mynd yn fyw
Gall busnesau yng Nghymru sy’n cael eu heffeitho gan ymlediad cyflym y feirws Omicron gael gwybod faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn mewn cymorth ariannol brys gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn. Bydd y broses gofrestru ar gyfer grantiau cysylltiedig yr NDR a'r broses ymgeisio ar gyfer y gronfa ddewisol yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ionawr 2022. Mae gwiriwr cymhwysedd yr ERF ar gael yma: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/
10:11
31/12/2021
Newidiadau i hunanynysu
Ar 31 Rhagfyr 2021, fe fydd yn ofynnol i bersonau sy’n cael canlyiad positif am y coronafeirws hunanynysu am gyfnod o 7 niwrnod (yn hytrach na chyfnod o 10 niwrnod, yn amodol ar gynnal profion llif ochrol (LFT) negyddol ar ddiwrnodau 6 a 7.
09:12
29/12/2021
Mae’r achosion yn lledaenu ledled y sir – helpwch i roi stop ar hynny
Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus ac rydym wedi gweld y raddfa uchaf yn y sir ers dechrau’r pandemig.
09:08
24/12/2021
Lefel rhybudd 2: cwestiynau cyffredin
Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 2.
10:38
Lefel Rhybudd 2: Mannau addoli ac angladdau: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn mannau addoli ac angladdau yn lefel rhybudd 2.
10:35
Lefel Rhybudd 2: Digwyddiadau: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn digwyddiadau yn lefel rhybudd 2.
10:34
Lefel Rhybudd 2: Lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis yn lefel rhybudd 2.
10:33
Lefel rhybudd 2: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau
Beth sydd angen i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau a threfnwyr gweithgareddau a digwyddiadau wneud yng Nghymru ar lefel rhybudd 2.
10:31
Lefel Rhybudd 2: Busnesau twristiaeth, megis llety ac atyniadau i ymwelwyr: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn busnesau twristiaeth, megis llety ac atyniadau i ymwelwyr yn rhybudd lefel 2.
10:29
Lefel Rhybudd2: Theatrau, neuaddau cyngerdd a sinemâu: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn theatrau, neuaddau cyngerdd a sinemâu yn lefel rhybudd 2.
10:28
23/12/2021
Lefel rhybudd 2: cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau
Cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yn lefel rhybudd 2.
14:54
Gwasanaethau cyswllt agos: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn eiddo gwasanaethau cyswllt agos yn lefel rhybudd 2.
14:51
Eiddo manwerthu: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn eiddo manwerthu yn lefel rhybudd 2.
14:50
Cymorth newydd i fusnesau yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau COVID-19 ar gael yn 2022
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19.
14:47
Rheolau newydd Cymru o 26 Rhagfyr 2021: coronafeirws (hawdd ei ddeall)
Fersiwn hawdd ei darllen yw hon o reolau Rhybudd Lefel 2 Llywodraeth Cymru.
08:41
22/12/2021
Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.
14:31
20/12/2021
Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19 ddydd Llun 20 Rhagfyr 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr yn gwahodd unrhyw un dros 35 oed, ynghyd â'r rhai mewn grŵp blaenoriaeth uwch, i alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol i gael eu brechu.
14:38
Cymorth ariannol i unigolion: canllaw byr
Dyma ganllaw byr i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i’ch helpu.
11:18
17/12/2021
Cyflwyno camau gofalus wrth ailagor ysgolion
Yn sgil pryderon am gyfradd heintio’r coronafeirws, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd pob ysgol yn cael dau ddiwrnod ar gychwyn y tymor newydd ar gyfer cynllunio. Mae hyn yn golygu y bydd y tymor ysgol newydd i blant yng Ngheredigion yn dechrau ddydd Gwener, 07 Ionawr 2022.
11:34
Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.
10:52
15/12/2021
Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn diweddaru preswylwyr ynghylch sut y byddwn yn cwrdd â'r nod uchelgeisiol o gynnig apwyntiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Rhagfyr 2021, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog.
13:09
14/12/2021
Ysgolion Ceredigion i ddysgu o bell o ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021
Gwnaed y penderfyniad hwn i ddiogelu ein plant, ein staff, ein teuluoedd a’n cymunedau trwy leihau cyswllt i atal lledaeniad y feirws.
11:28
Helpwch ni i ddiogelu’r holl wasanaethau cyhoeddus rheng flaen
Mae'r amrywiolyn Omicron newydd yn lledaenu'n gyflymach na phob amrywiolyn arall o COVID-19. Er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, mae angen i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb a gwneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel.
11:05
13/12/2021
£1 filiwn i gefnogi 500 o bobl ddi-waith i ddechrau busnes
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi hyd at 500 o bobl ddi-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.
10:18
10/12/2021
Manteisiwch ar y pigiad atgyfnerthu i’ch diogelu rhag yr amrywiolyn newydd
Dylai pawb fanteisio ar eu pigiad atgyfnerthu COVID-19, dyna neges y Prif Weinidog wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.
12:12
09/12/2021
Coronafeirws: taflen wybodaeth mewn ieithoedd eraill
Diogelu Cymru y gaeaf hwn – taflen wybodaeth
14:38
07/12/2021
Ysgol Dyffryn Cledlyn i gau dros dro yn dilyn cadarnhau achosion o COVID-19
Bydd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn cau dros dro o 07 Rhagfyr ymlaen yn dilyn cadarnhau nifer o achosion o COVID-19 ymhlith disgyblion a staff.
16:48
03/12/2021
Yr achos cyntaf o Omicron wedi’i gadarnhau yng Nghymru
Mae achos o Omicron, yr amrywiolyn sy'n peri pryder, wedi'i gadarnhau yng Nghymru.
15:48
01/12/2021
Diweddariad Pigiadau Atgyfnerthu
11:45
Sut y bydd pobl 18 oed a throsodd yn cael cynnig dos atgyfnerthu COVID-19
Dylid cynnig dôs atgyfnerthu o leiaf dri mis ar ôl cwblhau'r cwrs sylfaenol. Mae hyn wedi newid o’r cyngor blaenorol, sef chwe mis.
00:00
30/11/2021
Codi ymwybyddiaeth am dwyll Pàs Covid
Mae troseddwyr yn defnyddio Pàs Covid y GIG fel ffordd o dargedu'r cyhoedd drwy eu hargyhoeddi i drosglwyddo arian, manylion ariannol a gwybodaeth bersonol.
Mae Pàs Covid y GIG ar gael am ddim. Ni fydd y GIG byth yn gofyn am daliad nac unrhyw fanylion ariannol. Ni fydd y GIG byth yn rhoi dirwyon na chosbau sy'n ymwneud â'ch Pàs Covid y GIG.
15:54
Datganiad Ysgrifenedig: Amrywiolyn Omicron – gweithrediadau ysgolion
Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol. Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hwn, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr drefniant cenedlaethol. Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o’r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosibl.
11:39
25/11/2021
Aros yn ddiogel wrth ddathlu’r Nadolig eleni
Wrth i gyfnod yr ŵyl nesáu, mae’r Cyngor yn gofyn i drigolion fod yn ystyriol wrth ddathlu’r Nadolig eleni.
11:16
24/11/2021
Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau
Llywodraeth Cymru: Sut i gael profion llif unffordd COVID-19 er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu.
12:51
18/11/2021
Dim newidiadau i’r rheolau COVID wrth i'r Prif Weinidog ddiolch i bobl Cymru am eu help i dorri cyfraddau achosion
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.
12:44
15/11/2021
Theatrau, neuaddau cyngerdd a sinemâu: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn theatrau, neuaddau cyngerdd a sinemâu.
15:04
Siopa’n sâff, siopa’n garedig: mae cyfrifoldeb ar bawb i atal Covid rhag lledaenu ac i gadw’n siopau ar agor – Gweinidog yr Economi
Gyda lefelau’r Coronafeirws yn dal yn uchel yng Nghymru, mae Vaughan Gething yn erfyn ar siopwyr a manwerthwyr i wneud eu rhan a chadw pobl yn saff trwy wisgo gorchudd wyneb wrth siopa dan do.
15:00
11/11/2021
Pas COVID y GIG: sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr
O ddydd Llun (15 Tachwedd), rhaid cael Pas COVID i fynd i'r sinema, theatr, clwb nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.
11:18
01/11/2021
Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Gallwch arddangos a rhannu'r posteri hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.
08:53
29/10/2021
Mesurau cryfach i ostwng cyfraddau uchel o’r coronafeirws yng Nghymru
Heddiw [dydd Gwener] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.
09:13
22/10/2021
21/10/2021
Clinigau galw heibio ar gael i bobl sy'n gymwys am bigiadau atgyfnerthu rhag COVID-19
Rydych chi'n gymwys i gael dôs os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
• Rydych chi'n 50 oed neu'n hŷn; neu yn 16 oed neu'n hŷn ac yn gweithio mewn cartref gofal, iechyd neu ofal cymdeithasol; neu yn 16 oed neu'n hŷn ac yn agored i niwed yn glinigol
• Cawsoch eich ail frechlyn dros 24 wythnos neu fwy yn ôl
15:40
14/10/2021
Cadw Covid dan reolaeth yn ystod yr hydref/gaeaf
Mae’r pandemig yma o hyd, ac rydym yn nesáu at yr hyn yr ydym yn credu fydd brig y don delta yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gadw ein hunain yn ddiogel ac yn iach a chefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal.
10:06
11/10/2021
Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau
Sut dylai busnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid.
07:33
08/10/2021
Lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis.
16:03
Digwyddiadau: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn digwyddiadau.
16:01
Clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth a lleoliadau adloniant i oedolion: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth a lleoliadau adloniant i oedolion.
16:00
Crynodeb o’r newidiadau yn ymwneud â Covid, y Pàs Covid, a neges atgoffa nad yw'n rhy hwyr i gael eich brechu
Mae rhai newidiadau pwysig o'n blaenau o ran mesurau Covid-19 a gwybodaeth am y rhaglen frechu.
15:56
Profion LFD ar gyfer disgyblion oed uwchradd
O ddydd Llun ymlaen (11 Hydref), bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym o ran profion ar gyfer disgyblion oed uwchradd.
Os bydd aelod o gartref disgybl oed uwchradd yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19, bydd angen i'r disgybl gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 ac 8. Gellir gwneud hynny yma https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu trwy ffonio 119.
Yn ychwanegol at hyn, bydd angen iddo hefyd gymryd prawf LFD (dyfais unffordd/lateral flow) bob bore am 7 diwrnod ar ôl i aelod o’r cartref brofi’n bositif. Gallwch gael profion LFD trwy eich ysgol.
12:40
Cynllun newydd i gadw Cymru 'ar agor ac yn ddiogel' – Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws.
09:05
06/10/2021
Defnyddio Pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos
O 11 Hydref, rhaid ichi ddefnyddio Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif i fynd i ddigwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg.
10:20
Trefniadau i ddod ar gyfer Profion COVID-19 i blant a phobl ifanc a staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig
Bydd y newidiadau’n dod i rym yn ffurfiol o ddydd Llun 11 Hydref ymlaen.
10:13
23/09/2021
Croesawu myfyrwyr yn ôl yn ddiogel i Geredigion
Er mwyn cynnal diogelwch pawb, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd â champws yn Llanbedr Pont Steffan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill i sicrhau bod mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
15:40
21/09/2021
Pàs COVID y GIG: dangoswch eich statws brechu
O ddydd Llun 11 Hydref: Bydd yn ofynnol i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i brofi eu bod naill ai wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael Prawf Llif Unffordd negatif yn ddiweddar, er mwyn mynd i mewn i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol:
- clybiau nos
- digwyddiadau dan do heb seddi sy’n cynnwys mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir
- digwyddiadau awyr agored heb seddi sy’n cynnwys dros 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir
- unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol
Cael y Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod wedi cael eich brechu rhag COVID-19.
10:17
17/09/2021
Profi, olrhain, diogelu: crynodeb o'r broses
Beth sydd angen i chi wneud i helpu olrhain cysylltiadau i reoli lledaenu'r coronafeirws.
09:00
16/09/2021
Brechlyn COVID-19 brechu pobl ifanc 12 i 15 oed
Bydd GIG Cymru yn dechrau cynnig brechlyn COVID-19 i bob person ifanc rhwng 12 a 15 oed.
09:00
15/09/2021
Annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth i achosion COVID-19 barhau i gynyddu yng Ngheredigion
Rhwng 3 a 9 Medi 2021, gwelodd Ceredigion y trydydd cynnydd mwyaf o blith yr holl Awdurdodau yng Nghymru, lle cynyddodd nifer yr achosion i 132.1 achos fesul pob 100,000 o gymharu â’r saith diwrnod blaenorol.
16:10
02/09/2021
Pryder wrth i achosion Coronafeirws gynyddu yn y Sir
Mae lefelau Coronafeirws yn cynyddu yn sylweddol ar draws y sir.
11:42
01/09/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Rhifyn 34
Cofiwch fanteisio ar eich cynnig i gael y brechlyn er mwyn rhoi'r amddiffyniad gorau posibl i chi a'ch teulu.
Yng Ngheredigion, mae 73.1% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 68.2% wedi'u brechu'n llawn.
16:26
27/08/2021
Cau ffyrdd yn ddyddiol yn dod i ben ym Mharthau Diogel Ceredigion
Bydd y ffyrdd trwy drefi Ceredigion yn ailagor yr wythnos nesaf cyn dechrau’r tymor ysgol newydd.
09:00
26/08/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Rhifyn 33
Yng Ngheredigion, mae 72.5% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 67.7% wedi cael eu brechu'n llawn.
11:26
25/08/2021
Ailymunwch â’ch ffrindiau, ailymunwch â’r heulwen. Peidiwch â gadael i covid ailymuno â chi.
Mae'r lefelau ar hyn o bryd yn dangos nifer yr achosion ar 255.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gydag Aberteifi ar 304.1 fesul 100,000; Ceinewydd a Penbryn ar 395.6 a De Aberystwyth ar 313.8. Mae pob ardal o Geredigion yn uwch na 200 fesul 100,000 o'r boblogaeth sy'n bryder ac mae'n dangos bod y feirws yn lledaenu'n gyflym yn y gymuned, yn enwedig ymhlith y rhai rhwng 10 a 29 oed.
16:04
Cymerwch y camau sydd eu hangen i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu
Gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ailagor yn dilyn gwyliau'r haf, gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr yng Nghymru gymryd rhai camau i helpu i gadw risg COVID-19 i lawr a dysgwyr yn dysgu.
15:08
18/08/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Rhifyn 32
Mae Hywel Dda yn annog pobl a gafodd eu dôs cyntaf o Moderna chwe wythnos yn ôl neu fwy, i ddod ymlaen i dderbyn eu hail ddôs.
Mwy o wybodaeth yma, ynghyd â ffigurau Ceredigion, sef bod 72.3% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 66.7% wedi'u brechu'n llawn.
16:27
Angen i fusnesau barhau i gymryd camau diogelu ar Lefel Rhybudd 0
Mae llawer o reolau COVID-19 Cymru bellach wedi llacio. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar waith o hyd ar Lefel Rhybudd 0.
16:25
13/08/2021
Gwasanaethau cyswllt agos: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn eiddo gwasanaethau cyswllt agos.
16:38
Digwyddiadau: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn digwyddiadau.
16:33
Busnesau twristiaeth, megis llety ac atyniadau i ymwelwyr: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn busnesau twristiaeth, megis llety ac atyniadau i ymwelwyr.
13:13
Clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth a lleoliadau adloniant i oedolion: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth a lleoliadau adloniant i oedolion.
13:09
Lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (coronafeirws)
Cyngor ar fesurau sy’n debygol o fod yn rhesymol eu cymryd i leihau risg y coronafeirws mewn lleoliadau lletygarwch megis tafarndai, bwytai a chaffis.
12:54
12/08/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda – Rhifyn 31
Mae'r holl fanylion diweddaraf am sut i gael y brechlyn ar gael yn y rhifyn hwn.
Hyd yma, mae 72% o drigolion Ceredigion wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 65.5% wedi'u brechu'n llawn.
10:16
10/08/2021
Lefel Rhybudd 0 – Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr Ceredigion
Wrth i’r rhan fwyaf o’r cyfyngiadau cyfreithiol gael eu llacio, mae’n rhaid i bob un ohonom barhau i wneud ein rhan i atal y feirws rhag lledaenu. Mae’r perygl o drosglwyddo’r feirws yn parhau; nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd y mesurau.
10:10
09/08/2021
06/08/2021
Canolfan Frechu Torfol De Ceredigion yn symud i Ysgol Trewen
Mae'r Ganolfan Frechu Torfol yn symud o Aberteifi i Ysgol Trewen, Cwm Cou, SA38 9PE. Gallwch gael apwyntiad neu gerdded i mewn i gael eich dôs cyntaf neu'r ail o'r brechlyn.
11:13
05/08/2021
Cymru’n symud i lefel rhybudd sero
Ar lefel rhybudd sero, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes agor. Er hynny, bydd rhai mesurau diogelwch pwysig yn parhau i fod ar waith i roi’r hyder i bawb fwynhau’r haf eleni.
11:17
Newidiadau o ran teithio rhyngwladol o 8 Awst 2021
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un newidiadau â’r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU.
11:11
Cefnogaeth i hunanynysu
Cynllun Diogelu er mwyn cefnogi pobl yn ariannol ac â chymorth ymarferol i aros gartref.
10:29
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda - Rhifyn 30
Cofiwch y gallwch fynd i sesiynau cerdded i mewn yn y canolfannau brechu torfol.
Yng Ngheredigion, mae 71.6% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 64% wedi'u brechu'n llawn.
09:07
04/08/2021
Cyhoeddiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu am frechu plant a phobl ifanc
Cyngor y Cyd-bwyllgor yw cynnig dos cychwynnol o frechlyn Pfizer i bob person ifanc 16 ac 17 oed nad ydynt wedi cael eu brechu.
10:22
02/08/2021
Gwahodd pobl ifanc dan 18 oed i gael eu brechiad COVID-19 cyntaf
Mae pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin troi’n 18 oed yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad COVID-19 cyntaf.
11:00
30/07/2021
Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn
Ni fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.
08:32
28/07/2021
Bwletin y Brechlyn - rhifyn 29
Y diweddaraf am Rhaglen Brechyn Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gan Hywel Dda.
16:59
Cyngor i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol
Cyngor ynghylch brechu a'r camau y gall rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol barhau i'w cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel.
11:19
Rhaglen frechu COVID-19
Yr holl wybodaeth am y Rhaglen Frechu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
11:13
26/07/2021
Canllawiau i gyflogwyr ar sut i gefnogi staff i gael brechiadau
Gwybodaeth i gyflogwyr gan Llywodraeth Cymru
11:50
Brechlyn COVID-19 nawr ar gael i bobl ifanc sy'n troi'n 18 cyn 31 Hydref 2021
Mae modd cael y brechlyn mewn clinig galw heibio yn y canolfannau brechu
00:00
23/07/2021
Atgoffa busnesau o reoliadau hunan-ynysu
Atgoffir busnesau o'u dyletswydd i ganiatáu i weithiwr hunan-ynysu yn unol â rheoliadau.
15:29
Annog cymunedau Ceredigion i barhau i ddilyn y canllawiau
Mae nifer yr achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu ledled y Sir ac rydym yn gweld trosglwyddiad cymunedol eang.
13:00
21/07/2021
Bwletin y Brechlyn - Rhifyn 28
Y diweddaraf ynghylch cynnydd Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
17:00
19/07/2021
Cyfyngiadau o 17 Gorffennaf: crynodeb
Crynodeb o beth sy'n rhaid i chi wneud a beth sydd ar agor o 17 Gorffennaf.
08:47
15/07/2021
Canolfan brechu torfol Aberteifi i symud i gyn-ysgol yng Nghwm Cou
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd canolfan brechu torfol Aberteif yn symud i leoliad newydd ddydd Llun 26 o Orffennaf.
15:02
14/07/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda - Rhifyn 27
17:11
“Y camau nesaf tuag at lai o reolau COVID” – Prif Weinidog Cymru
Mae Cymru am gymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol sydd â llai o gyfyngiadau COVID cyfreithiol, a heddiw mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi amlinellu cynllun tymor hirach ar gyfer yr haf.
17:00
12/07/2021
Gorchuddion wyneb i barhau i helpu i ddiogelu Cymru
Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws yng Nghymru.
10:40
07/07/2021
Bwletin y Brechlyn - Rhifyn 26
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd Rhaglen Brechlyn Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
16:30
30/06/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Rhifyn 25
Yng Ngheredigion, mae 70.2% wedi cael eu dôs cyntaf a 50% wedi cael eu brechu'n llawn.
16:45
25/06/2021
Pàs COVID y GIG
O 25 Mehefin ymlaen, bydd pobl yng Nghymru yn gallu dangos eu statws brechu ar y rhyngrwyd drwy Bàs COVID digidol y GIG os oes gwir angen iddynt deithio ac os ydynt yn bodloni’r gofynion brechu ar gyfer y wlad y maent yn teithio iddi. Mae Pàs COVID y GIG ar gael yma: www.llyw.cymru/manteisiwch-ar-bas-covid-y-gig-i-ddangos-eich-statws-brechu-er-mwyn-teithio.
17:00
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Rhifyn 24
Mae nifer o apwyntiadau galw heibio ar gael ledled y sir ar gyfer y dôs cyntaf a'r ail ddôs.
Yng Ngheredigion, mae 69.5% wedi cael eu dôs cyntaf a 47.4% wedi cael eu brechu'n llawn.
08:57
22/06/2021
Grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penglais i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Mae’r nifer o achosion COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol dros y diwrnodau diwethaf ac rydym yn annog pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol 2 fetr, gwisgo masg pan rydych dan do, golchi eich dwylo'n rheolaidd am 20 eiliad a sicrhau bod digon o awyr iach pan rydych o dan do. Bydd dilyn y rheolau hyn yn atal lledaeniad COVID-19 yng Ngheredigion.
15:42
18/06/2021
Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu
Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd.
11:42
17/06/2021
16/06/2021
Annog pobl â symptomau ehangach i archebu prawf COVID-19
Cliciwch yma i ddarllen datganiad i'r wasg Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
17:00
Bwletin y Brechlyn, Hywel Dda, Rhifyn 23
Mae 44.3% o boblogaeth Ceredigion wedi cael eu brechu'n llawn.
16:25
09/06/2021
Bwletin y Brechlyn, Hywel Dda, Rhifyn 22
Mae 40.4% o boblogaeth Ceredigion wedi cael eu brechu'n llawn.
16:50
02/06/2021
Bwletin y Brechlyn, Hywel Dda Rhifyn 21
Yn sgil ymdrechion ar y cyd canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol, cyflwynodd y bwrdd iechyd y 400,000fed brechlyn yr wythnos hon. Mae hyn yn golygu bod 260,447 o'n poblogaeth gymwys bellach wedi derbyn brechlyn cyntaf ac mae 147,439 bellach wedi derbyn cwrs llawn.
15:49
27/05/2021
Bwletin y Brechlyn, Hywel Dda Rhifyn 20
Yr wythnos hon, rhoddwyd 21,293 o frechlynnau ar draws canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol.
17:00
24/05/2021
Tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol
Mae system dros dro ar waith a fydd yn galluogi i bobl yng Nghymru, sydd angen teithio i wlad sy’n gofyn am dystiolaeth o’r brechlyn COVID, i gael tystysgrif brechu COVID-19 yn arddangos eu cofnod brechu.
10:17
21/05/2021
Lefel rhybudd 2: cwestiynau cyffredin
Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 2.
10:22
17/05/2021
Mae mynediad at becynnau hunan-brawf COVID cyflym - profion llif unffordd - bellach ar gael i ofalwyr di-dâl neu drigolion sydd yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn y gymuned
Gall gofalwyr di-dâl (neu drigolion sydd yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn y gymuned) gael mynediad at becynnau profi yn y cartref naill ai drwy eu harchebu ar-lein neu eu casglu o leoliad cyfleus. Bydd hyn yn helpu i'w diogelu nhw a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt
17:09
Cymru yn symud i lefel rhybudd 2
O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored.
12:54
14/05/2021
Llacio cyfyngiadau ymhellach yn ofalus
Gyda chyfyngiadau yn llacio ymhellach, atgoffir preswylwyr ac ymwelwyr i fwynhau Ceredigion yn ddiogel ac yn gyfrifol.
15:00
13/05/2021
Bwletin y Brechlyn, Rhifyn 18
Mae 58.7% o boblogaeth Ceredigion bellach wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 26.1% wedi cael eu brechu'n llawn.
08:45
05/05/2021
Bwletin y Brechlyn - Rhifyn 17
Yng Ngheredigion, mae 59.3% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 24.6% wedi cael eu brechu'n llawn.
14:51
04/05/2021
Hywel Dda yn cynnig brechlynnau i bobl rhwng 30 a 49 oed
Gall pobl dros 30 oed nawr gysylltu â'r Bwrdd Iechyd i drefnu apwyntiad i gael eu brechlyn
16:27
28/04/2021
Bwletin y Brechlyn - Rhifyn 16
Yng Ngheredigion, mae 55.3% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 20.4% wedi cael eu brechu'n llawn.
16:50
27/04/2021
Cyngor i fusnesau sy'n ailagor lleoliadau lletygarwch awyr agored
Anogir busnesau yng Ngheredigion i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf
11:46
23/04/2021
Mwynhewch Geredigion mewn ffordd ddiogel a chyfrifol wrth i’r cyfyngiadau lacio
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod angen inni gofio’r pwyntiau pwysig er mwyn cadw’r sir ar agor a’r cyfraddau Covid yn isel.
16:25
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o newidiadau i’r cyfyngiadau coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhagor o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio, gan gynnwys ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant a gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion.
12:57
Darparu cymorth i ddarparwyr gofal Ceredigion yn ystod y pandemig
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cryn dipyn o gydweithio wedi digwydd rhwng darparwyr gofal Ceredigion a sefydliadau'r sector cyhoeddus.
12:10
21/04/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda – Rhifyn 15
Yng Ngheredigion, mae 52.3% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 16.2% wedi cael eu brechu'n llawn.
16:23
Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru
Heddiw, wrth i’r achosion o heintiadau COVID-19 newydd barhau i ostwng, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill.
11:04
14/04/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda - Rhifyn 14
Yng Ngheredigion, mae 51.2% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn ac 14.1% wedi cael eu brechu'n llawn.
00:00
12/04/2021
Siopa’n lleol ac yn ddiogel yn ein trefi
Wrth i holl wasanaethau manwerthu nad yw'n hanfodol ailagor o ddydd Llun 12 Ebrill, cofiwch siopa'n lleol a siopa'n ddiogel.
00:00
07/04/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda – Rhifyn 13
Yng Ngheredigion, mae 47.8% o'r boblogaeth wedi cael dôs cyntaf y brechlyn ac 13% wedi cael eu brechu'n llawn.
Ac mae trydydd brechlyn wedi cael ei gyflwyno, sef y brechlyn Moderna.
16:21
01/04/2021
Symud Cymru i Lefel Rhybudd 3: Y Prif Weinidog yn nodi’r cynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau COVID ymhellach
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn nodi cyfres o fesurau a fydd yn symud Cymru i Lefel Rhybudd 3 yn llawn erbyn 17 Mai, os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol.
14:00
31/03/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Rhifyn 12
Diweddariad ar sefyllfa'r brechlyn yng Ngheredigion.
15:40
26/03/2021
Sector twristiaeth Cymru yn dechrau ailagor wrth i gyfyngiadau gael eu llacio
Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog.
10:35
24/03/2021
Hywel Dda yn dadgomisiynu Ysbyty Enfys Plascug yn Aberystwyth
Gall y bwrdd iechyd gadarnhau bod Ysbyty Enfys Scarlets, a leolir ym Mharc Y Scarlets, Llanelli; Ysbyty Enfys Carreg Las, a leolir yn Arberth, Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Plascrug, Aberystwyth, i gyd yn cael eu dychwelyd i'w hen ddefnydd o 31 Mawrth 2021.
15:05
17/03/2021
Lefel rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl.
16:00
15/03/2021
12/03/2021
Camau gofalus cyntaf allan o’r cyfnod clo
Dyma sut mae Llywodraeth Cymru’n llacio rhai cyfyngiadau’n ofalus ac yn raddol er mwyn dechrau dod â Chymru allan o’r cyfnod clo.
16:10
Aros yn Lleol – Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau symud
Bydd rheol interim i Aros yn Lleol yn cael ei chyflwyno o ddydd Sadwrn 13 Mawrth 2021 ymlaen yn lle’r cyfyngiadau Aros Adref. Bydd y rheol hon yn rhan o becyn o fesurau i ddechrau ar broses raddol a phwyllog o lacio’r rheoliadau llym a gyhoeddir gan Llywodraeth Cymru.
12:59
10/03/2021
Bwletin y Brechlyn Hywel Dda – Rhifyn 9
Hyd yma (10 Mawrth 2021) mae 33.1% o bobl Ceredigion wedi cael dôs cyntaf y brechlyn a 3.5% wedi cael eu brechu'n llawn.
15:53
Cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i fusnesau yng Ngheredigion
Mae dau fusnes yng Ngheredigion wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 am fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
15:51
Gofalwyr Ceredigion yn cael ‘seibiant mewn bocs’ yn ystod COVID-19
Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac mae wedi bod yn arbennig o anodd i Ofalwyr Di-dâl sy'n darparu gofal i aelodau o'r teulu a ffrindiau ledled Ceredigion.
15:50
04/03/2021
03/03/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Rhifyn 8
Yr wythnos hon mae 8,834 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae 2,750 o ail ddosau wedi'u cwblhau.
16:10
25/02/2021
Annog pobl i gael prawf COVID-19 ar gyfer symptomau ehangach
Gallai'r rhain gynnwys symptomau tebyg i'r ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau neu); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi'i rwystro; tisian yn barhaus; dolur gwddf a / neu grygni, prinder anadl neu wichian; teimlo'n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19; unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol.
14:37
24/02/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Rhifyn 7
Yr wythnos hon mae 8,834 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae 2,750 o ail ddosau wedi'u cwblhau (24.02.2021)
17:00
17/02/2021
Bwletin y Brechlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Rhifyn 6
Bellach, mae 18,701 (25.7%) o drigolion Ceredigion wedi cael dôs cyntaf y brechlyn (17.02.2021)
17:04
15/02/2021
10/02/2021
08/02/2021
Cais am daliad hunan-ynysu o £500 yn gymwys i ddefnyddwyr Ap COVID-19 y GIG
Medrwch wneud cais am daliad hunan-ynysu os cysylltwyd â chi gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru.
14:52
05/02/2021
Grant Cyfalaf Busnesau Bach
Mae'r grant Cyfalaf Busnesau Bach, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi'i lansio i gefnogi busnesau sydd newydd eu ffurfio a busnesau bach sy'n bodoli gyda'u cynlluniau twf a / neu adferiad yn ystod pandemig Covid-19 trwy ddarparu cyfraniadau ariannol tuag at gwariant gyfalaf.
17:00
Pobl sy'n cysgodi i dderbyn brechlyn mewn canolfan frechu dorfol
Mewn ymateb i gyflenwadau brechlyn COVID-19 a gadarnhawyd ar gyfer yr wythnos i ddod, bydd pobl sy'n cysgodi ac nad ydynt eisoes wedi cael cynnig apwyntiad gan eu meddygon teulu yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechiad mewn canolfan frechu dorfol, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau.
16:36
04/02/2021
Bwletin y Brechlyn - Rhifyn 4
Croeso i’r pedwerydd rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
10:56
02/02/2021
Gwefan Gymraeg newydd wedi ei lansio i gadw i siarad
Gwefan newydd i gefnogi ac annog plant i gadw i siarad yr iaith tra'n dysgu o adref.
11:20
Rhaid dal ati i ddiogelu ein gilydd
Wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws ddisgyn yng Ngheredigion, atgoffir pobl ei bod dal yn hollbwysig archebu prawf COVID-19 os oes ganddynt unrhyw symptomau.
09:53
Defnyddwyr Ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am daliad hunanynysu o £500
Bydd ceisiadau a chanllawiau pellach ar gael ar ôl 10yb ddydd Gwener, 05 Chwefror.
09:25
29/01/2021
Bwletin Brechu Hywel Dda
Ar 28 Ionawr 2021, roedd 7,459 o bobl yng Ngheredigion wedi cael dôs cyntaf eu brechlyn COVID-19.
11:32
Llywodraeth Cymru yn paratoi i ailagor ysgolion yn raddol
“Paratoi i ailagor ysgolion yn raddol ac yn hyblyg os bydd achosion y coronafeirws yn parhau i ostwng” - Prif Weinidog Cymru
10:04
28/01/2021
Cau busnes cludfwyd yn Aberaeron am anwybyddu cyfyngiadau’r coronafeirws
Mae Hysbysiad Cau Mangre wedi cael ei roi i Paradise Pizza, Regent Street, Aberaeron oherwydd diffyg cydymffurfiaeth, dro ar ôl tro, â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
14:27
Rhybuddio trigolion am sgamwyr dros frechlyn Covid-19
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dod yn ymwybodol bod troseddwyr wedi bod yn anfon negeseuon testun ac e-byst yn ceisio denu pobl i wneud cais am frechlyn Covid-19.
14:25
26/01/2021
Camau ychwanegol bellach yn ofyniad cyfreithiol i fangreoedd manwerthu
Mae gofynion newydd bellach wedi dod i rym sy'n ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd manwerthu gymryd camau ychwanegol i amddiffyn gweithwyr a chwsmeriaid rhag y coronafeirws.
11:19
22/01/2021
Gwahodd pobl rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechiad COVID
Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y bydd llythyrau yn cyrraedd yn y dyddiau nesaf yn gwahodd trigolion Ceredigion rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechlyn COVID cyntaf mewn canolfan frechu dorfol.
16:18
Ap i helpu i gefnogi pobl sydd â symptomau COVID hir
Mae ap i helpu pobl i adfer eu hiechyd yn dilyn COVID wedi ei lansio fel rhan o gymorth ehangach a gynigir i unigolion sy’n byw gydag effeithiau hirdymor wedi iddynt gael y coronafeirws.
16:12
18/01/2021
Cryfhau’r ddeddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau’n fwy diogel
Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
12:18
Bwletin brechlyn wythnosol - rhifyn dau
Croeso i ail rifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
12:00
15/01/2021
Pob cartref i gael gwybodaeth am y brechlyn
Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu rhag COVID-19.
Lawrlwythwch gopi o'r llythyr (pdf).
09:00
13/01/2021
Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud
Mae pecyn cymorth busnes ariannol Llywodraeth Cymru o Grantiau Busnes dan Gyfyngiadau Symud sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau cloi presennol ar agor ar gyfer ceisiadau newydd.
09:17
11/01/2021
Bwletin Brechlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Diweddariad wythnosol am gynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
15:01
04/01/2021
Mae Cymru gyfan ar Lefel Rhybudd 4
Crynodeb o beth sy'n rhaid i chi ei wneud a beth sydd ar agor ar lefel rhybudd uchel iawn lefel 4.
12:11
30/12/2020
Annog trigolion Ceredigion i aros gartref
Mae trigolion Ceredigion yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid i bobl aros gartref yn ystod cyfnod clo lefel rhybudd 4 ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn.
10:55
23/12/2020
Grantiau Busnes Cyfyngiadau’r Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth busnes yn gysylltiedig â chyfyngiadau cyfnod y Nadolig.
16:09
Meddyliwch yn ofalus am yr hyn y ‘dylech’ ei wneud, yn hytrach na’r hyn y ‘cewch’ ei wneud.
Mae’r coronaferiws yn carlamu trwy Gymru yn gyflymach nac ar unrhyw adeg arall yn y pandemig.
11:01
22/12/2020
Rhybudd i bobl ardal Aberystwyth wrth i nifer yr achosion gynyddu
Rydym yn gynyddol bryderus ynglŷn â’r cynnydd hwn yn yr achosion yn ardal Aberystwyth. Roedd bron i ddwy ran o dair o'r holl achosion a nodwyd ddydd Sul, 20 Rhagfyr a hanner yr achosion a nodwyd ddydd Llun, 21 Rhagfyr gan ein Tîm Olrhain Cysylltiadau yn digwydd bod yn ardal Aberystwyth. Dyma 38 o achosion ychwanegol mewn deuddydd a gwelwn fod y nifer yn cynyddu'n ddyddiol yn yr ardal.
12:09
Trefniadau Ceredigion ar gyfer Lefel Rhybudd 4
Mae trefniadau wedi'u rhoi ar waith ar gyfer Ceredigion yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Lefel Rhybudd 4 wedi dod i rym yng Nghymru.
11:43
Achosion pellach o COVID-19 positif mewn Cartref Gofal y Cyngor
Cadarnhawyd achosion positif pellach o COVID-19 yng Nghartref Gofal Preswyl Min y Mor, Aberaeron. Mae sawl aelod o staff a phob preswylydd eisoes wedi profi'n bositif. Mae'r holl breswylwyr yn parhau i gael eu monitro'n ofalus.
11:41
21/12/2020
Addasiadau i’r Parthau Diogel ar gyfer y Flwyddyn Newydd
Mae addasiadau ar gyfer Parthau Diogel Ceredigion ar y gweill ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
15:10
Ein cyfrifoldeb ni i gadw’r teulu’n ddiogel rhag COVID-19 y Nadolig hwn
Mae'n sefyllfa dyngedfennol yng Ngheredigion ac felly rydym yn gofyn ichi feddwl o ddifrif am eich cynlluniau ar gyfer y Nadolig.
11:19
20/12/2020
Cyfyngiadau lefel uwch i reoli’r coronafeirws yn dod i rym
Yn dilyn cyfarfod pedair Gwlad y Deyrnas Unedig yn gynt heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cyfyngiadau rhybudd 4 yn dod i rym o ganol nos ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr 2020 ar gyfer Cymru gyfan.
21:37
18/12/2020
Trefniadau ysgolion Ceredigion i ail-gydio yn y dysgu ym mis Ionawr
Dyma'r trefniadau ar gyfer dychwelyd i ysgolion Ceredigion ar gyfer mis Ionawr 2021.
14:47
14/12/2020
Dathlu’n ddiogel y Nadolig hwn
Atgoffir trigolion Ceredigion i fod yn wyliadwrus y Nadolig hwn er mwyn amddiffyn eu hanwyliaid a’r gymuned.
13:58
Taliad Cymorth Hunan-ynysu os yw plentyn yn Hunan-ynysu
Mae cymhwysedd bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr, felly os byddwch yn bodloni’r HOLL feini prawf cymhwysedd, mae gennych hawl i Daliad Hunan-ynysu o £500. Cliciwch yma i weld os ydych chi'n gymwys.
11:25
13/12/2020
Achosion COVID-19 positif mewn Cartref Gofal y Cyngor
Cadarnhawyd achosion positif o COVID-19 yng Nghartref Gofal Preswyl Min y Mor, Aberaeron. Mae sawl aelod o staff a phreswylwyr wedi profi'n bositif. Mae'r holl breswylwyr yn parhau i gael eu monitro'n ofalus.
12:00
11/12/2020
Cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i dafarn yng Ngheredigion
Mae tafarn yn Aberaeron wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1000 am fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
14:25
Hysbysiadau Cau Mangre wedi’u codi ar gyfer pedwar lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth.
Mae Hysbysiadau Gwella Mangre pedwar lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth wedi cael eu terfynu ar ôl iddynt gael eu monitro gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.
14:22
Disgyblion yn Ysgol Bro Teifi i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i Grŵp Gyswllt o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
13:00
10/12/2020
Ysgolion Ceredigion i symud i dysgu o bell o ddydd Llun, 14 Rhagfyr 2020
Bydd Ysgolion Uwchradd Ceredigion yn rhoi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun, 14 Rhagfyr 2020 a phob Ysgol Gynradd o ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2020.
19:19
Profion ar gyfer pobl â symptomau COVID-19 ar gael i'w harchebu yn Llanbedr Pont Steffan
Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd dros dro yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan, yn darparu profion rhwng 9.30am a 3.30pm o 10 Rhagfyr i bobl leol sydd â symptomau.
12:15
Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod
Mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau y cyfnod hunan-ynysu i ddeng niwrnod o ddydd Iau 10 Rhagfyr.
10:19
09/12/2020
Gwelliannau’n ofynnol mewn fusnes cludfwyd yn Llambed
Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i fusnes cludfwyd yn Llambed wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.
17:00
Hysbysiad Cau Mangre wedi'i derfynu
Mae’r hysbysiad ar G-One, Aberystwyth wedi cael ei derfynu wedi i swyddogion gael sicrwydd gan y busnes y bydd gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo gan aelodau o’r staff bob amser tra byddant yn gweithio yn yr ardal gyhoeddus.
16:34
Disgyblion yn Ysgol Bro Pedr i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i nifer fach o ddisgyblion yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
16:14
Disgyblion yn Ysgol Bro Teifi i hunan-ynysu yn dilyn achosion COVID-19
Gofynnwyd i Grŵp Gyswllt o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achosion COVID-19 yn yr ysgol.
09:17
Disgyblion Dosbarth Meithrin yn Ysgol Gynradd Aberaeron i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i'r Grŵp Cyswllt hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol.
08:56
08/12/2020
Disgyblion yn Ysgol Henry Richard i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i disgyblion dosbarth Meithrin a Derbyn yn Ysgol Henry Richard, Tregaron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:00
Disgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Ysgol Bro Pedr i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i ddisgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:00
05/12/2020
Cyfarwyddyd Mangre bellach wedi'u dirymu ar gyfer busnesau yn Aberteifi
Mae Cyfarwyddyd Mangre wedi'u dirymu ar gyfer y busnesau yn Aberteifi sy'n golygu y gallant ailagor.
17:35
Rhybudd i bobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau coronafeirws
Nid yw nifer yr achosion cadarnhaol ar draws y Sir bob dydd erioed wedi bod mor uchel ag ydyw ar hyn o bryd.
12:41
04/12/2020
Ysgolion a gwasanaethau i ailagor yn ardal Aberteifi
Mae cymorth, cydymffurfiaeth a chydweithrediad rhagorol trigolion Aberteifi dros y bythefnos ddiwethaf wedi lleihau lledaeniad y feirws yn y gymuned yn llwyddiannus, a hynny i lefel y gellir ei rheoli.
17:49
Disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Cei Newydd i hunan-ynysu
Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Cei Newydd hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
15:43
Ysgol Gynradd Dihewyd i gau tan 17 Rhagfyr 2020
Mae’r un Grŵp Cyswllt yn hunan-ynysu am gyfnod o 14 niwrnod oherwydd achos o COVID-19 ac oherwydd diffyg staffio, bydd yr ysgol gyfan yn cau.
09:01
03/12/2020
Ysgol Gynradd Ciliau Parc i gau dros dro yn dilyn achos pellach o COVID-19
Mae’r ddau Grŵp Cyswllt allan o dri nawr wedi eu haffeithio ac felly, oherwydd diffyg staffio, bydd yr ysgol gyfan yn cau am gyfnod o amser.
11:39
Disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Dihewyd i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Dihewyd hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
11:00
02/12/2020
Meysydd parcio talu ac arddangos Ceredigion
Ni fydd taliadau yn berthnasol ym meysydd parcio'r Cyngor yn Aberteifi am y tro o ganlyniad i’r gyfradd heintio leol o COVID-19 sydd yno ar hyn o bryd.
09:08
01/12/2020
Disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gymunedol Llangwyryfon i hunan-ynysu
Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gymunedol Llangwyryfon hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:05
30/11/2020
Gwnewch i'r wythnos hon gyfrif i leihau lledaeniad y feirws
Mae nifer achosion y coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu a gofynnwn i'r holl drigolion ddilyn y canllawiau i leihau lledaeniad y feirws. Bydd yr aberth a wnawn yn ystod yr wythnos i ddod yn helpu i leihau lledaeniad y feirws.
16:25
Disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Ciliau Parc i hunan-ynysu
Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ciliau Aeron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
08:32
27/11/2020
Annog myfyrwyr i archebu prawf coronafeirws cyn teithio adref ar gyfer y Nadolig
Anogir myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i Geredigion dros yr ŵyl i archebu prawf coronafeirws os oes ganddynt symptomau ai peidio.
16:18
Newidiadau i'r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
Rhaid i rieni, gwarcheidwaid a pherthnasau wisgo gorchuddion wyneb, wrth ymweld â'r ysgol, ac mewn mannau gollwng a chasglu.
Bydd cynnal pellter cymdeithasol clir wrth gatiau'r ysgol hefyd yn lleihau'r risg o ledaenu COVID-19 ac yn gosod esiampl dda i ddisgyblion.
11:56
Disgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:22
26/11/2020
Bwyd a diod i fynd – peidiwch â mynd â’r coronafeirws adref gyda chi hefyd
Atgoffir cwsmeriaid a gweithwyr sefydliadau bwyd a diod i wisgo masg.
11:00
Gwelliannau’n ofynnol mewn tafarn ym Mhontarfynach
Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i fusnes lletygarwch ym Mhontarfynach wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.
09:28
25/11/2020
Disgyblion mewn dau Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gyfun Penweddig i hunan-ynysu
O ganlyniad i ddau achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gyfun Penweddig mae disgyblion o fwy nag un grŵp cyswllt ynghyd a disgyblion sy’n teithio ar un bws angen hunan ynysu am 14 diwrnod.
19:35
Cydweithio i atal y feirws rhag lledaenu
Wrth i nifer achosion positif y coronafeirws yn ardal Aberteifi barhau i gynyddu, nawr yw'r amser i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i atal y feirws rhag lledaenu. Mae mesurau cymorth ychwanegol bellach wedi'u rhoi ar waith yn Aberteifi.
16:39
Cyflwyno talu am barcio heb arian parod
Mae talu am barcio heb arian parod yn cael ei gyflwyno yng Ngheredigion i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 sy'n gysylltiedig â thrin a thrafod arian parod.
15:31
Cau ffyrdd dros dro unwaith eto yn Aberteifi
Wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn Aberteifi a’r cyffiniau barhau i gynyddu, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd pob cam i helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach yn ein cymunedau.
10:57
Hysbysiad gwella wedi’i roi i ddau fangre yn Aberteifi
Ar 18 Tachwedd 2020, roedd yn ofynnol i ddau fusnes yn Aberteifi wella eu mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws ar eu safle.
09:00
24/11/2020
Cymorth i drigolion sydd angen hunan-ynysu
Os bod y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) wedi cysylltu â chi a wedi gofyn i chi hunanynysu, efallai fod gennych yr hawl i gael Cymorth Ariannol o dan y Cynllun Cymorth Taliad Hunan-ynysu.
09:19
Preswylwyr Aberteifi: Helpwch ni i ddiogelu ein staff casglu gwastraff
Dylai preswylwyr Aberteifi roi gwastraff personol, megis hancesi papur, clytiau glanhau tafladwy, masgiau wyneb a menig mewn bag du a chlymu’r bag. Yna, rhoi'r bag y tu mewn i fag arall (fel bod y gwastraff wedi'i fagio ddwywaith).
08:57
23/11/2020
Ysgol Gyfun Penglais: nifer bach o ddisgyblion i hunan-ynysu yn dilyn achos pellach o COVID-19
Gofynnwyd i nifer bach o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
11:34
Ysgol Bro Pedr: disgyblion Dosbarth Derbyn i hunan-ynysu
Gofynnwyd i ddisgyblion Nosbarth Derbyn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
11:32
Cysylltiadau tafarnau Aberteifi i fod yn wyliadwrus
Gofynnir i bobl yn ardal leol Aberteifi i gymryd camau rhagofalus ychwanegol wrth i dystiolaeth ddod i'r fei fod y coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned.
09:15
22/11/2020
Ysgolion ardal Aberteifi i gau am bythefnos
Yn dilyn cyfarfod o Dîm Rheoli Digwyddiadau Aberteifi a gynhaliwyd ddydd Sul, 22 Tachwedd 2020, penderfynwyd y bydd yr ysgolion hyn ar gau o ddydd Llun, 23 Tachwedd 2020 ac y byddant yn ailagor ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020 a bydd disgyblion yn cael eu haddysgu o bell.
11:36
18/11/2020
Gwelliannau’n ofynnol mewn tafarn yn Llanbedr Pont Steffan
Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i The Ivy Bush Inn, Llanbedr Pont Steffan gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
16:48
17/11/2020
Diwrnod ym mywyd Swyddog Olrhain Cysylltiadau
Darllenwch mwy am ddiwrnod Enfys fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau, sy'n rhan o Dîm Diogelu Iechyd y Cyhoedd i Gyngor Sir Ceredigion.
09:26
16/11/2020
Grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Penglais i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i Grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:26
Dewch i ni arafu symudiad y feirws
Gydag achosion yng Ngheredigion ar gynnydd, gadewch i ni feddwl am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau nad yw niferoedd y coronafirws yn codi ymhellach. Nid y firws sy'n symud, ond pobl sy'n symud y firws.
09:25
09/11/2020
Trefniadau Rheoli Achos yn cael eu rhoi mewn lle yng Nghartref Gofal yn Aberystwyth
Mae Tîm Rheoli Achos Lluosog aml-asiantaethol wedi'i sefydlu i ymateb i'r digwyddiad hwn. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda'r Cartref, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal lledaeniad y feirws.
10:56
Disgyblion Grŵp Dosbarth ym Mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Penglais i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i ddisgyblion un Grŵp Dosbarth Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
10:55
Diweddariad i Gyfleusterau Cymunedol Ceredigion ar reoliadau’r coronafeirws
O 9 Tachwedd 2020 ymlaen, caniateir i hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do cyn belled â'i fod wedi'i drefnu gan glwb neu gorff cydnabyddedig.
00:00
06/11/2020
Addasiadau i’r Parthau Diogel yn dilyn y cyfnod atal byr
O 09 Tachwedd ymlaen, bydd y gorchmynion yn parhau gydag addasiadau.
16:21
Cefnogaeth ychwanegol ar gael os ydych chi’n gyflogedig ac yn hunan-ynysu.
13:39
Dewch i ni ddilyn y Cynllun Ffordd Ymlaen i Geredigion
Mae rheoliadau’r cyfnod atal byr yn parhau mewn grym yng Nghymru tan ddydd Llun, 09 Tachwedd 2020, ac anogir pobl i ddilyn yr holl reolau’n llym y penwythnos hwn, a hynny’n rhan o’n hymgais i adennill rheolaeth o’r coronafeirws.
10:50
05/11/2020
Cyhoeddi gwybodaeth am beth fydd yn digwydd pan ddaw'r cyfnod atal byr i ben
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa fesurau fydd yn dod i rym pan fydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn dod i ben ar 09 Tachwedd 2020.
15:05
03/11/2020
Torrwch y rheolau a thalwch y ddirwy – rhybudd i drigolion Ceredigion
Mae trigolion Ceredigion yn cael eu rhybuddio y gallant wynebu dirwyon o hyd at £10,000 a chollfarn droseddol os ydynt yn torri rheolau COVID.
15:00
30/10/2020
Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud wedi agor
Cliciwch yma am wybodaeth a ffurflen gais
15:57
27/10/2020
Disgyblion yn Ysgol Henry Richard i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19.
Gofynnwyd i nifer fach o ddisgyblion yn Ysgol Henry Richard, Tregaron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
14:06
23/10/2020
Safleoedd Gwastraff Cartref
Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ledled Ceredigion yn cau am 17:00 ddydd Gwener, 23 Hydref.
12:26
Tafarn yn ailagor ar ôl gwella gweithdrefnau a chyfleusterau
Mae Tafarn y Ffostrasol Arms, Llandysul wedi cael caniatâd i ailagor ar ôl gwella ei weithdrefnau a'i gyfleusterau mewn ymateb i hysbysiad cau a gyhoeddwyd ar 15 Hydref 2020.
11:28
Holi barn ar barthau diogel Ceredigion
Mae barn trigolion ac ymwelwyr Ceredigion yn cael eu gofyn ar y parthau diogel.
09:33
Cyfnod atal byr y Coronafeirws: lleoliadau cymunedol i gau
Bydd lleoliadau cymunedol ledled Ceredigion yn cau yn unol â chyfnod atal byr y coronafeirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
09:25
22/10/2020
Cyfnod atal byr y coronafeirws: atgoffa myfyrwyr i beidio â theithio
Gofynnir i fyfyrwyr barhau i fyw yn eu llety prifysgol yn ystod cyfnod atal byr y coronaferiws, a pheidio â theithio i ffwrdd i gyfeiriadau cartref neu i aros gydag eraill.
16:03
Cyflwyno hysbysiad gwella i ddwy dafarn yn Aberystwyth
Mae angen Yr Hen Lew Du ar Heol y Bont, Aberystwyth, a thafarn The Western ar Stryd Thespis, Aberystwyth wella eu mesurau er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn eu mangreoedd.
15:24
21/10/2020
Trefniadau’r Parthau Diogel yn ystod y cyfnod atal byr
Ni fydd y Cyngor yn cau’r ffyrdd yn ddyddiol o fewn y parthau diogel rhwng 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref ac 11am ar 09 Tachwedd.
09:21
20/10/2020
Cyhoeddi cyfnod atal byr o bythefnos i Gymru
Bydd cyfnod atal byr am bythefnos yn dod i rym yng Nghymru, er mwyn lleihau lledaeniad y coronafirws.
11:57
19/10/2020
Cyfnod atal byr cenedlaethol y coronafeirws i gael ei gyhoeddi yng Nghymru ddydd Gwener
Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.
13:00
16/10/2020
Cyfyngiadau teithio yn dod i rym yng Nghymru
Bydd cyfyngiadau teithio yn dod i rym yng Nghymru o 6pm ymlaen ddydd Gwener 16 Hydref 2020.
12:13
Cau busnes yng Ngheredigion am dorri rheoliadau’r Coronafeirws - Ffostrasol
Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheoliadau’r Coronafeirws.
11:38
Effaith y Coronafeirws ar Economi Ceredigion
Mae adroddiad wedi cael ei lunio yn dangos effaith y Coronafeirws ar economi Ceredigion.
08:59
15/10/2020
Cyhoeddwyd dau hysbysiad gwella pellach yng Ngheredigion
Bu'n ofynnol i ddau dafarn gwledig yng Ngheredigion wella'r mesurau a gymerant i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn eu hadeiladau.
16:00
14/10/2020
Cadwch hyd braich i leddfu’r baich y gaeaf hwn
Annog pobl i beidio â rhoi eu hunain na phobl eraill mewn perygl o ddal neu ledaenu'r coronafeirws trwy fynd i ddigwyddiadau Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt
16:28
07/10/2020
Mesurau gwella i dafarn yn Aberystwyth
Mae tafarn yn Aberystwyth wedi cael gofyniad i wella'r mesurau y mae’n eich chymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â choronafeirws ar ei safle.
11:43
06/10/2020
Masgiau ar gyfer disgyblion Ceredigion
Bydd pob disgybl ysgol uwchradd Ceredigion yn derbyn dau orchudd wyneb ailddefnyddiadwy.
10:57
05/10/2020
Caniatáu i dafarn ailagor ar ôl gwneud gwelliannau
Caniatawyd i The Mill Inn yn Aberystwyth ailagor ar ôl gwella eu gweithdrefnau a'u cyfleusterau mewn ymateb i hysbysiad cau a gyflwynwyd fis diwethaf.
11:09
02/10/2020
Gofyn i ganolfannau cymunedol amlbwrpas barhau i fod yn wyliadwrus
Dyma bartneriaid Ceredigion yn darparu datganiad ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf yng Ngheredigion er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein cymunedau ymhellach.
13:03
01/10/2020
Annog trigolion Ceredigion i gadw at reoliadau COVID-19
Yn dilyn cadarnhad bod clwstwr o achosion COVID-19 ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sefydlwyd Tîm Rheoli Achos Lluosog amlasiantaeth.
17:02
30/09/2020
Gofyn i’r rhai sy’n gyfrifol am feysydd chwarae plant i fod yn wyliadwrus
Yn dilyn y cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19 yng Ngheredigion, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ysgrifennu at aelodau o'r Rhwydwaith Ardal Chwarae i'w hannog i ystyried eu cyfleuster eu hunain, p'un a ydynt eisoes ar agor i'r cyhoedd neu maent yn bwriadu ailagor yn fuan.
13:56
29/09/2020
Addasu'r Parthau Diogel
Yn unol â’r dystiolaeth a gasglwyd ynghylch y defnydd a wneir o’r trefi, mae Cyngor Sir Ceredigion yn teimlo bod angen cadw’r parthau diogel am y tro gyda mân addasiadau.
10:25
28/09/2020
Gwasanaethau Hamdden i gau fel mesur rhagofalus
Gan fod nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn cynyddu’n sydyn yng Ngheredigion, penderfynwyd cau pob canolfan hamdden, pwll nofio a chyfleuster a redir gan y Cyngor fel mesur rhagofalus.
14:13
25/09/2020
Cyflwyno cyfarwyddyd i ddigwyddiad chwaraeon moduro
Mae digwyddiad chwaraeon moduro oedd â chyfleusterau gwersylla ar y safle ac a oedd i fod i gael ei gynnal yng Ngheredigion y penwythnos hwn bellach wedi cael cyfarwyddyd i beidio â mynd yn ei flaen.
15:54
24/09/2020
Ein cyfrifoldeb i ddilyn y mesurau newydd o ran y coronafeirws yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau newydd i leihau lledaeniad y Coronafeirws. Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i ddilyn y mesurau newydd o ran y coronafeirws yng Nghymru er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.
12:35
23/09/2020
Cau busnes yng Ngheredigion am dorri rheoliadau’r Coronafeirws
Mae hysbysiad cau wedi’i gyflwyno gan swyddogion trwyddedu i ‘The Mill Inn’, Dan Dre, Aberystwyth. Bydd ‘The Mill Inn’ yn aros ar gau hyd nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws.
11:38
21/09/2020
Cyngor a chanllawiau masgiau mewn Campfeydd a Chanolfannau Hamdden
Bydd angen i ddefnyddwyr canolfannau hamdden a champfeydd wisgo masg pan fyddant yn mynd i mewn i’r adeilad ac mewn mannau lle na wneir ymarfer corff fel mesur ychwanegol i amddiffyn eu hunain a'r staff.
15:22
17/09/2020
Pwysleisio neges cadw at reolau hunanynysu
Yn dilyn consyrn nad yw rhai aelodau o’r cyhoedd yn cadw at y rheolau hunanynysu yn llwyr, mae'r Cyngor yn awyddus i atgoffa trigolion Ceredigion o ganllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu ein cymunedau.
14:35
16/09/2020
Atgoffa busnesau i gadw at reolau’r coronafeirws
Atgoffir busnesau yng Ngheredigion i gadw at reolau’r coronafeirws er mwyn osgoi cynnydd yn nifer yr achosion gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, ciwio a systemau unffordd, darparu hylif diheintio dwylo a Chyfarpar Diogelu Personol i staff.
15:48
14/09/2020
Annog pobl i gymryd cyfrifoldeb i atal lledaenu’r coronafeirws
Mae rheolau newydd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dod i rym ar 14 Medi 2020, ac maent yn cynnwys: caniatáu i 6 person yn unig gwrdd y tu mewn; gwneud gwisgo gorchuddion wyneb yn hanfodol mewn mannau cyhoeddus dan do, e.e. siopau; atgoffa pobl i weithio gartref, lle bo’n bosibl; rhoi pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol.
15:42
11/09/2020
Atal ymweliadau dros dro â holl Gartrefi Gofal Ceredigion
Mae ymweliadau a phob Cartref Gofal yng Ngheredigion wedi cael eu hatal dros dro.
15:30
Annog Ceredigion i weithredu nawr i leihau risg y coronafeirws
O 14 Medi 2020, bydd terfyn newydd o chwech o bobl yn cael eu cyflwyno ar nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod dan do ar unrhyw un adeg. Rhaid i bob un o'r chwech berthyn i'r un grŵp cartref estynedig. Nid yw hyn yn cynnwys plant o dan 11 oed.
Mae gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yn dod yn orfodol yng Nghymru o 14 Medi hefyd.
13:28
Disgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Penllwyn i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19
Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Penllwyn, Capel Bangor hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
09:30
10/09/2020
Atgoffa rhieni i gefnogi mesurau diogelwch ysgolion
Mae rhieni a gofalwyr ledled Ceredigion yn cael eu hatgoffa i ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol wrth gasglu eu plant o ysgolion y sir.
16:42
09/09/2020
Rhybudd ynghylch Covid-19 gan arweinwyr y Cynghorau
OS nad ydym yn cadw pellter cymdeithasol, rydym mewn perygl o fod o dan gyfyngiadau symud lleol - dyna'r neges gan arweinwyr awdurdodau lleol de-orllewin Cymru, y bwrdd iechyd a Heddlu Dyfed-Powys.
17:13
Addunedau diogelwch cymunedol wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio pump ‘adduned gymunedol’ fel rhan o’i chynlluniau i sicrhau diogelwch myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach wrth iddi baratoi i groesawu myfyrwyr yn ôl yn ddiweddarach y mis hwn.
09:18
Cyngor i drigolion Caerffili sy’n ymweld â Cheredigion
Mae cyngor wedi cael ei ddarparu i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd ar wyliau yng Ngheredigion ac i ddarparwyr llety.
08:26
27/08/2020
Panel wedi'i sefydlu i gefnogi grwpiau ar ailagor lleoliadau cymunedol yng Ngheredigion yn ddiogel
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai canolfannau cymunedol amlbwrpas gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol eraill ailagor o 30 Gorffennaf.
14:22
Ceredigion yn barod i groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel
Bydd tymor yr hydref yn dechrau ar 3 Medi 2020, gyda’r disgyblion yn dychwelyd yn raddol nes bod pawb yn ôl ar drefniant llawn-amser erbyn 14 Medi 2020.
11:27
Ailagor canolfannau hamdden yn rhannol yng Ngheredigion
Mae paratoadau bellach yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd pan fydd Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio’r Awdurdod Lleol yn ailagor yn rhannol yng Ngheredigion.
09:13
17/08/2020
Panel wedi'i sefydlu i gefnogi grwpiau ar ailagor lleoliadau cymunedol yng Ngheredigion yn ddiogel
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai canolfannau cymunedol amlbwrpas gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol eraill ailagor o 30 Gorffennaf. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y rheoliadau ar 7 Awst ac mae'r canllawiau cenedlaethol yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori awdurdodau y bydd y rheoliadau ar ymgynnull cymdeithasol yn dal i atal rhai gweithgareddau rhag digwydd.
14:22
Canllawiau Llywodraeth Cymru i bobl eithriadol o agored i niwed yn sgil COVID-19 sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain
Gwybodaeth i’r bobl sydd mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronafeirws.
09:00
10/08/2020
Y cynllun cysgodi a bocsys bwyd i gael ei oedi
Bydd yr angen i gysgodi yn cael ei oedi yng Nghymru ar 16 Awst 2020 a'r cynllun bocsys bwyd yn dod i ben. Cliciwch yma am gyngor ar sut y mae cael bwyd a chyflenwadau hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws.
14:55
Canllawiau Llywodraeth Cymru i bobl eithriadol o agored i niwed yn sgil COVID-19 sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain
Gwybodaeth i’r bobl sydd mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronafeirws.
09:00
07/08/2020
Paratoi at ailagor canolfannau hamdden yn rhannol
Mae paratoadau ar waith i sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd pan fydd Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio’r Awdurdod Lleol yn cael ailagor o fis Medi ymlaen.
14:50
03/08/2020
Caffis, tafarndai a bwytai i ailagor y tu mewn
Gall busnesau lletygarwch agor i weini bwyd a diodydd y tu mewn. Bydd ymweld â lleoliadau o’r fath yn brofiad gwahanol, a bydd disgwyl i bawb gadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo yn rheolaidd.
10:28
30/07/2020
Cyfnod hunanynysu’r feirws i ymestyn o 7 i 10 diwrnod
Bydd pobl a fydd yn cael prawf positif o’r coronafeirws neu sy’n dangos symptomau yn y Deyrnas Unedig ’nawr yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod. Mae’r newid, a gyhoeddwyd gan bedwar brif swyddogion meddygol y DU, yn ymgais i geisio osgoi ton newydd o achosion.
09:03
22/07/2020
Croeso i ymwelwyr eto yng Nghartrefi Gofal Preswyl y Cyngor
Bydd teuluoedd a ffrindiau yn gallu ymweld â’u hanwyliaid unwaith eto drwy drefnu slot.
12:45
Bathu geirfa newydd yn y Gymraeg yn sgil y coronafeirws
Mae ‘Terminoleg COVID-19’ yn gasgliad o eirfa defnyddiol yn ymwneud â’r pandemic coronafeirws nawr ar gael ar flaen eich bysedd.
11:20
20/07/2020
Meysydd chwarae plant yn gallu ailagor
Mae meysydd chwarae plant yn gallu ailagor yn raddol o 20 Gorffennaf ymlaen, a thros yr wythnosau nesaf pan fydd mesurau diogelu a lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith.
14:17
Llwybr Arfordir Ceredigion yn ailagor
Gall aelodau’r cyhoedd bellach ddefnyddio’r llwybrau yn ofalus; gan gadw’r canllawiau cyfredol o ran y Coronafeirws mewn cof.
12:54
17/07/2020
Creu lle diogel i ymwelwyr fwynhau ein trefi
Mae Parthau Diogel wedi cael eu creu mewn pedwar canol tref yng Ngheredigion i greu ardal agored a diogel lle gall pobl gerdded o gwmpas a mwynhau'r hyn sydd gan ein trefi i'w cynnig.
16:30
16/07/2020
Ceredigion yn croesawu ymwelwyr yn ddiogel ac yn raddol
Gyda chyfyngiadau’r coronafeirws yn cael eu llacio, mae Ceredigion yn croesawu ymwelwyr yn ddiogel ac yn raddol.
14:39
11/07/2020
Cefnogi busnesau ym Mharthau Diogel Ceredigion
I gefnogi busnesau o fewn y Parthau Diogel, mae addasiadau wedi eu gwneud i’r cynlluniau yn dilyn pryderon a godwyd yn ymwneud yn benodol â derbyn nwyddau.
16:50
10/07/2020
Croeso cynnes yn ôl wrth i’r diwydiant twristiaeth ddechrau ailagor
Bydd llety hunangynhwysol i ymwelwyr yn dechrau ailagor yng Nghymru o 11 Gorffennaf ymlaen.
17:05
Y parthau diogel cyntaf ar waith yng Ngheredigion
Mae’r parthau diogel cyntaf i gerddwyr yn cael eu rhoi ar waith yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Chei Newydd.
15:46
Ysgolion Ceredigion i ailagor yn llawn ym mis Medi
Bydd ysgolion Ceredigion yn cau ar ddiwedd tymor yr haf eleni ar 17 Gorffennaf 2020, gan edrych ymlaen at groesawu’r holl ddisgyblion yn ôl ar drefniant llawn-amser ym mis Medi.
10:44
03/07/2020
Newidiadau pellach er mwyn llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru
Dim cyfyngiad i aros o fewn pum milltir i’w cartref a dau gartref yn medru ffurfio un 'cartref estynedig’.
18:48
Parthau diogel yng nghanol trefi Ceredigion
Mae cynlluniau ar waith i greu parthau diogel i gerddwyr yng nghanol trefi Ceredigion.
17:00
30/06/2020
Cynlluniau ar waith i ailagor Ceredigion yn ofalus, yn araf ac yn ddiogel
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu ei Gynllun Addasu a Chydnerthedd Hirdymor, ac mae asesiadau risg yn cael eu cynnal cyn i unrhyw wasanaeth ailddechrau, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
11:50
23/06/2020
Paratoi ar gyfer ailagor y diwydiant twristiaeth yn raddol
Manylion am y paratoadau i ddechrau ailagor siopau a'r diwydiant twristiaeth yn raddol.
13:46
22/06/2020
Gweithio gyda’n gilydd er budd trigolion Ceredigion
Wrth i ni symud i Gyfnod Addasu Pandemig y Coronafeirws COVID-19, rydym yn adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn i reoli’r feirws yng Ngheredigion.
16:10
Ysgolion yn ailagor am dair wythnos
Bydd ysgolion Ceredigion yn ailagor ar 29 Mehefin am gyfnod o dair wythnos, ac yn cau ar 17 Gorffennaf.
12:42
19/06/2020
Cyhoeddi camau pellach i ddod allan o’r cyfnod cloi yn ddiogel
Cyhoeddwyd camau pellach gan y Prif Weinidog Mark Drakeford i barhau i ddod allan o’r cyfnod cloi yn ddiogel
17:00
Masnachu’n ddiogel wrth ailagor y drysau
Gall siopau yng Ngheredigion ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin 2020 gyda chyngor ac arweiniad ar gael gan y Cyngor.
16:21
17/06/2020
Ailagor Safleoedd Gwastraff Cartrefi
Mae Safleoedd Gwastraff Cartrefi Ceredigion bellach wedi ailagor. Mae mynediad i'r holl safleoedd wedi’i gyfyngu i ddefnydd hanfodol yn unig i geir â phlatiau eilrif ar bob diwrnod eilrif y mis a cheir â phlatiau odrif ar bob diwrnod odrif y mis.
10:51
16/06/2020
Grantiau a chymorth i unigolion mewn angen
Rhestr cyflawn o grantiau a chymorth i unigolion sydd mewn angen yn ystod pandemig y coronafeirws.
16:30
Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael yn llyfrgelloedd Ceredigion
Bydd gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael yn llyfrgelloedd Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Llanbed.
14:14
05/06/2020
Cwestiynau Cyffredin ar fynd yn ôl i'r ysgol
Dyma rai cwestiynau cyffredin ac atebion i rieni/gofalwyr wrth iddynt benderfynu p’un ai i ddanfon eu plant nôl i’r ysgol o’r 29 Mehefin ymlaen.
16:16
Paratoadau ar waith i ailagor ysgolion yng Ngheredigion
Bydd ysgolion yng Ngheredigion yn dechrau gwneud trefniadau i ailagor cyn diwedd tymor yr haf i ‘Ddod i’r Ysgol a Dal ati i Ddysgu’.
14:27
04/06/2020
Dim newid i wasanaethau a chyfleusterau yng Ngheredigion
Ni fydd llacio na newid safiad mewn perthynas â gwasanaethau a chyfleusterau y mae’r Cyngor yn eu darparu ar hyn o bryd.
09:09
01/06/2020
Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion i ailagor at ddefnydd hanfodol
Bydd Safleoedd ar draws Ceredigion yn ail-agor ar wahanol ddyddiadau rhwng 04 a 17 Mehefin.
16:10
01/01/0001
Gosod Cynlluniau yn eu lle yng Nghartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gosod cynlluniau yn eu lle i ailgychwyn ymweliadau dan do ym mhob un o gartrefi gofal yr Awdurdod Lleol yng Ngheredigion yn unol â chyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ar 20fed Awst. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau y gallwn gynllunio ar gyfer yr ymweliadau hyn a threfnu bod y mesurau diogelwch priodol yn cael eu rhoi ar waith, ni fyddwn yn caniatáu rhain am y tro.
14:45