Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda’r sector twristiaeth i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb cymdeithasol, sef bod cymunedau lleol yn cael eu parchu a bod ymwelwyr yn dod yn rhan o’r gymuned wrth ymweld â Cheredigion.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ailagor y sector twristiaeth a lletygarwch ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dyma ddolenni i Reoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth a lletygarwch:
- https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
- https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance (Saesneg yn unig)
- https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth-a-lletygarwch-coronafeirws
- https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-o-4-rhagfyr-cwestiynau-cyffredin
Mae’r cwestiynau cyffredin yn cynnwys cyfeiriad at deithio, gwyliau, ymweliadau â thafarndai a bwytai, atyniadau ac ati.
Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Sadwrn ni ddylid teitho i Gymru ar gyfer gwyliau a dylai pob ymwelydd sydd eisoed yng Nghymru ddychwelyd adref yn syth.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol
Credwn yn gryf y bydd y diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion yn derbyn eu cyfrifoldeb cymdeithasol i ddiogelu ein cymunedau a’n hymwelwyr. Gofynnwn fod pob busnes sy’n rhan o’r diwydiant yn cymryd pob cam i sicrhau diogelwch staff, ymwelwyr a thrigolion lleol, gan ddefnyddio’r canllawiau a gyhoeddwyd gan grwpiau yn y diwydiant a Chroeso Cymru.
Rydym hefyd yn annog ymwelwyr i dreulio amser mewn un lleoliad ac i osgoi teithio o un lleoliad i’r llall. Os yn bosib, gofynnwn i ymwelwyr bwcio 48 awr ymlaen llaw ac i aros am o leiaf 3 noson. Bydd gwneud hyn yn lleihau teithio ac yn cynorthwyo gydag olrhain cysylltiadau. Mae hyn yn wirfoddol, heblaw bod gofynion Llywodraeth Cymru yn newid, felly byddem yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad er mwyn croesawu ymwelwyr yn ôl yn ddiogel.
Dyma daflen sy’n cynnwys cyngor i ymwelwyr.
Olrhain Cysylltiadau
Mae olrhain cysylltiadau yn ddull hirsefydlog o reoli ymlediad clefydau heintus. Y nod yw diogelu eich iechyd a chefnogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo i reoli lledaeniad coronafeirws. Nid mater o orfodaeth na gwyliadwriaeth yw hyn ac mae er budd diogelu iechyd pobl. Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a fydd yn ein helpu i fyw ac i weithio ochr yn ochr â'r feirws tra bod ymchwil yn parhau i ddod o hyd i driniaethau mwy effeithiol a brechlyn. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
Canllawiau gan Lywodraeth Cymru: Cadw cofnodion o staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu
Dyma boster gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau lletygarwch yn cynnwys cyngor ar y canlynol:
Sut i gadw cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.
Ap COVID-19 y GIG
Mae defnyddwyr ap Covid-19 y GIG yn gallu sganio (mewngofnodi) wrth iddynt fynd i leoliad. Os bydd pobl a ymwelodd â'r lleoliad yn profi'n bositif am coronafeirws, gellir anfon rhybudd at ddefnyddwyr eraill yr ap a oedd yno ar yr un pryd.
Ni fydd hysbysiad yr ap yn cyfeirio at enw eich lleoliad, dim ond rhoi gwybod i ddefnyddwyr yr ap y gallent fod wedi dod i gysylltiad â'r coronafeirws. Rhaid i safleoedd y mae'n ofynnol iddynt gadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu barhau i wneud hynny, gan gynnwys pobl sy'n mewngofnodi drwy'r ap.
Cliciwch yma i gael posteri a chodau QR i'w harddangos yn eich safleoedd.
Côd QR y GIG ar gyfer eich safle
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu côd QR i’w arddangos yn eich lleoliad.
Gofynnwch i ymwelwyr sganio’r cod QR pan fyddant yn cyrraedd, gan ddefnyddio ap Covid-19 y GIG.
Dylech greu ac arddangos côd QR os ydych yn:
- fusnes, addoldy neu sefydliad cymunedol gyda lleoliad corfforol sy’n agored i’r cyhoedd
- digwyddiad sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad corfforol
Os oes gennych fwy nag un lleoliad, mae angen i chi greu côd QR ar wahân ar gyfer pob lleoliad. Gallwch ychwanegu sawl lleoliad yn y gwasanaeth.
Barod Amdani
Mae Croeso Cymru wedi gweithio gyda sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill ar safon diwydiant i'r Deyrnas Unedig gyfan, a’r nod yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr wrth i'r sector weithio tuag at ailagor. Mae’r safon ‘Barod Amdani’ ar gyfer y diwydiant yn golygu y gall busnesau ddangos eu bod yn cadw at ganllawiau y Llywodraeth a iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi edrych a ydynt wedi sefydlu y prosesau gofynnol. Mae’r cynllun yn ddi-dâl ac mae ar agor i bob busnes ar draws y diwydiant.
Bydd yn rhaid i fusnes lenwi ffurflen hunan-asesiad drwy blatfform ar-lein gan gynnwys rhestr wirio yn cadarnhau ei fod wedi trefnu’r prosesau angenrheidiol er mwyn derbyn tystysgrif a’r nod ‘Barod Amdani’ i’w arddangos ar y safle ac ar-lein.
“Addo. Gwnewch addewid dros Gymru.”
Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ Dyma frawddeg syml y gellir ei haddasu ar gyfer eich busnes neu eich ardal leol, er mwyn annog pobl i fod yn gyfrifol tra yn ymweld â Chymru. Byddwn yn parhau i rannu’r neges hon trwy gydol y tymor.
Fel rhan o’r neges rydym yn gofyn i bawb sy’n teithio o amgylch Cymru i addo i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid ar Twitter.
Cymryd rhan
Rydym yn gweithio ar becyn cymorth defnyddiol i’w gwneud yn haws i chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, fydd yn cael ei rannu yn fuan. Yn y cyfamser gallwch lawrlwytho yr addewid a phoster, a phori trwy ein cynnwys ar-lein. Rhannwch eich addewid gyda ni ar ein sianelau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #DiogeluCymru. Diolch o galon am eich cefnogaeth gyson.
Ailagor busnesau lletygarwch
Mae cyngor ar ailagor busnesau lletygarwch, er enghraifft tafarndai, caffis a bwytai, ar gael yma mewn dogfen gan yr UKH.
Canllawiau ar ailagor busnesau lletygarwch. (Dogfen allanol, Saesneg yn unig).
Mae canllawiau i helpu busnesau priodas asesu'r risgiau o ran darparu brecwastau priodas a digwyddiadau eraill ar gael gan Lywodraeth Cymru:
Asesiadau risg ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau priodas.
Rheoliadau Coronafeirws: Cwestiynau Cyffredin
Mewn pembleth ynglŷn â’r rheoliadau, pryd dylid gwisgo masg, beth yw aelwyd estynedig ayyb?
Cymerwch olwg ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru.
Dolenni
- I gael syniadau am atyniadau a gweithgareddau awyr agored lleol o fewn cyrraedd hawdd i’ch llety, ewch i wefan Darganfod Ceredigion.
- Mae cyngor a chanllawiau i'r sector lletygarwch yng Nghymru ar gael ar wefan UKH. (Dolen Saesneg yn unig)
- I gael rhagor o wybodaeth a dilyn y datblygiadau yng Ngheredigion, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion.
- Gwybodaeth ar y Coronafeirws gan Croeso Cymru.
- Busnesau twristiaeth a lletygarwch: canllawiau i ailagor yn raddol gan Lywodraeth Cymru.
- Beth mae angen ichi ei wneud os ydych yn mynd yn sâl â COVID-19 pan fyddwch chi yma.
- Gofal iechyd tra ar wyliau.
Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn groesawu ymwelwyr yn ôl i Geredigion yn ddiogel ac yn hyderus.