Mae Cyngor Sir Ceredigion ar ddeall bod llawer o fusnesau bwyd yn ystyried sut y gallant gefnogi’r gymuned leol yn ystod argyfwng y Coronafeirws drwy ddarparu gwasanaeth cludfwyd neu wasanaeth dosbarthu bwyd, er nad oeddent yn cynnig y gwasanaethau hyn cyn yr argyfwng.

Bwriad y cyngor canlynol yw cynnig canllaw ychwanegol ar gyfer y busnesau hynny sy’n darparu cludfwyd ac yn dosbarthu prydau bwyd yn y gymuned. Dylid ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r polisi bwyd y mae’r busnes eisoes yn ei ddilyn, megis Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell neu ddogfen gyfatebol a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y Coronafeirws.

Yn ôl yr wybodaeth wyddonol gyfredol, mae’n dra annhebygol y gall COVID-19 ymledu drwy fwyd, fodd bynnag os ydych yn newid y ffordd yr ydych yn gweithredu fel rheol, yna dylech feddwl o ddifri am y peryglon a sicrhau bod gennych fesurau rheoli yn eu lle.

Os nad ydych eisoes wedi eich cofrestru fel busnes bwyd gyda’r Cyngor, yna dylech gofrestru gyda’r Awdurdod, gan ddefnyddio porth yr Asiantaeth Safonau Bwyd register.food.gov.uk/new/ceredigion (Saesneg yn unig)

Os ydych eisoes wedi eich cofrestru gyda Chyngor Sir Ceredigion ac wedi cael sgôr hylendid bwyd, anfonwch e-bost at envhealth@ceredigion.gov.uk, gan gadarnhau y byddwch yn cynnig gwasanaeth o’r fath. Yna caiff cofnod eich eiddo ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r ffaith eich bod bellach yn cynnig gwasanaeth cludfwyd neu wasanaeth dosbarthu i’r cartref.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi darparu cyngor i fusnesau sy’n ystyried cynnig opsiynau cludfwyd: www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/gwerthu-o-bell-archebu-drwyr-post-a-dosbarthu

Cynllunio eich Gwasanaethau Newydd:

  • Ymchwiliwch i’r posibilrwydd o ddefnyddio dulliau di-arian o dalu am nwyddau, er mwyn osgoi trin arian yn y man lle dosberthir y bwyd. Awgrymir defnyddio BACS, trafodion ar-lein a thaliadau dros y ffôn gyda cherdyn, er mwyn bod yn fwy effeithlon ac er mwyn amddiffyn y cwsmeriaid a staff dosbarthu rhag trosglwyddo’r haint.
  • Dylai unrhyw ddeunydd hysbysebu neu fwydlenni gynnwys nodyn yn cyfeirio at alergenau, er mwyn annog unigolion sydd ag alergedd neu anghenion deietegol i wneud ymholiadau yn eu cylch o flaen llaw. Dylid dilyn yr wybodaeth am alergenau yn y ddogfen ‘Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell’ a dylid penderfynu a ellir darparu ar gyfer unrhyw alergedd penodol ai peidio.
  • Dylid adolygu’r pecyn ‘Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell’ i adlewyrchu’r gwasanaeth dosbarthu a sut y’i cynigir mewn modd diogel. Cynghorir y dylid cynnig y bwyd wedi ei goginio ac yn barod i’w fwyta’n syth.
  • Penderfynwch a ydych hefyd yn mynd i goginio, oeri a dosbarthu bwyd yn oer i’w fwyta’n nes ymlaen. Os felly, rhaid dilyn eich dull diogel o oeri bwyd yn eich pecyn ‘Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell’ neu yn eich System Rheoli Diogelwch Bwyd gyfatebol a dylid cynghori’r cwsmer i aildwymo’r bwyd yn llawn i dymheredd o 75˚C , lle bo hynny’n briodol, neu nes y bo’r bwyd yn chwilboeth a dylid ei fwyta yr un diwrnod.
  • Cofiwch fod busnesau cludfwyd yng Nghymru yn gorfod cynnwys datganiad dwyieithog ar daflenni neu bapurau megis bwydlenni cludfwyd yn dweud wrth gwsmeriaid lle y gallant ddod o hyd i fanylion y sgôr hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Gweler y tudalen Sgoriau Hylendid Bwyd ar wefan Food Standards Agency.

Coginio a Phecynnu

  • Dylid monitro tymereddau coginio terfynol bwydydd risg uchel a dylid eu cofnodi yn unol â’ch System Rheoli Diogelwch Bwyd.
  • Ni ddylid coginio bwyd yn rhy hir cyn iddo gael ei gyflwyno i’r cwsmer a dylid gwneud darpariaeth i’w gadw’n dwym hyd nes iddo gael ei anfon allan i’w ddosbarthu ar dymheredd o 63˚C neu uwch.
  • Dylid pecynnu’r bwyd mewn llestr tafladwy â chaead. Ni ddylai’r llestr hwn gael ei ddychwelyd gan y cwsmer i chi ei ailddefnyddio.
  • Dylech ddarparu digon o flychau wedi’u hinsiwleiddio i ddosbarthu’r bwyd, er mwyn sicrhau bod y bwyd ar dymheredd o 63˚C neu’n uwch pan gyrhaedda at y cwsmer. Bydd yn rhaid ystyried pellter a nifer y prydau sydd i’w dosbarthu. Argymhellir cadw at bellteroedd gweddol fyr a dylid cyfyngu amserau i fod o fewn 30 munud.
  • Dylid gwirio unrhyw aelodau o staff sy’n trin bwyd, cyn iddynt ddechrau ar eu sifft, er mwyn sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â haint y Coronafeirws (peswch newydd parhaus a/neu dymheredd uchel). Os daw staff i’r gwaith a chanddynt y symptomau hyn, yna dylid dweud wrthynt am ddychwelyd adref a glynu wrth fesurau hunanynysu Llywodraeth Cymru: Hynanynysu mewn cartref a rennir yn ystod y pandemig coronafeirws

Defnyddio Staff Dosbarthu

  • Dylech wirio bod unrhyw yrwyr sy’n dosbarthu bwyd wedi eu hyswirio’n briodol gyda sicrwydd ar gyfer defnydd busnes ar bolisi yswiriant eu cerbyd.
  • Dylai’r cerbyd fod yn lân ac yn daclus, ac yn rhydd rhag unrhyw ffynhonnell halogi.
  • Dylai Gweithredwyr Busnes Bwyd fod yn gwbl sicr nad yw’r gyrwyr sy’n dosbarthu yn ysmygu yn eu cerbydau wrth iddynt ddosbarthu bwyd.
  • Dylid rhoi sesiwn gyflwyno sylfaenol i’r gyrrwr sy’n dosbarthu ynghylch sut i drin bwyd yn gywir a dylid monitro iechyd y gyrrwr.
  • Dylid gwirio staff dosbarthu cyn iddynt ddechrau ar eu sifft er mwyn sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â’r haint Coronafeirws (peswch newydd parhaus a/neu dymheredd uchel). Os daw staff i’r gwaith a chanddynt y symptomau hyn, dylid dweud wrthyt am ddychwelyd adref a glynu wrth fesurau hunanynysu Llywodraeth Cymru: Hynanynysu mewn cartref a rennir yn ystod y pandemig coronafeirws
  • Mae’r canllaw arferol mewn grym sy’n gwahardd unigolyn rhag gweithio am 48 awr os yw’r unigolyn yn chwydu ac â dolur rhydd (heb fod yn gysylltiedig â’r Coronafeirws).
  • Lle bo hynny’n bosibl, dylai’r gyrrwr osgoi dod i mewn i’r brif gegin a dylai osgoi gormod o gysylltiad gyda staff y gegin. Awgrymir bod un o staff y gegin yn rhoi’r bwyd yn y blychau a’u gosod mewn ardal risg isel o’r gegin yn barod i’r gyrrwr eu casglu a’u dosbarthu.
  • Dylai’r gyrrwr olchi ei ddwylo gyda dŵr a sebon wrth iddo gyrraedd y gegin ac wrth ddychwelyd iddi.

Dosbarthu Bwyd

  • Os yn bosibl, dylid darparu glanweithydd dwylo yn cynnwys 60% o alcohol i’r gyrrwr ei ddefnyddio’n gyson rhwng pob ymweliad dosbarthu unigol.
  • Dylai’r blwch neu’r bag dosbarthu fod wedi ei wneud o ddeunydd y gellir ei sychu e.e. plastig neu ddeunydd tebyg, yn hytrach na ffabrig gan na fydd yn hawdd diheinitio defnydd o’r fath. Dylai tu mewn y blwch sydd wedi ei insiwleiddio gael ei ddiheintio’n rheolaidd, o leiaf unwaith y dydd.
  • Dylid ystyried cael blwch arall wedi ei insiwleiddio ar gyfer dosbarthu bwyd oer h.y bwyd sydd i’w aildwymo yn hwyrach y dydd, pwdinau oer a bwyd oer a ddosberthir gan adwerthwyr. Dylid cyflenwi’r rhain â nifer digonol o becynnau iâ er mwyn sicrhau bod bwyd oer yn cyrraedd y cwsmer ar dymheredd o 8˚C neu’n is. Dylai’r pecynnau iâ gael eu glanweithio yn yr un modd â’r llestr dosbarthu.
  • Os yw busnes adwerthu yn cynnig gwasanaeth dosbarthu nwyddau groser, ni ddylid cludo bwydydd amrwd a pharod i’w bwyta gyda’i gilydd e.e yn yr un bag lle mae perygl o groeshalogi. Dylid darparu modd o gludo’r elfennau amrwd a pharod i’w bwyta ar wahân e.e. blwch ar gyfer cadw bwydydd amrwd yn oer a blwch ar wahân ar gyfer cadw bwydydd parod i’w bwyta’n oer.
  • Gorau oll os nad oes cysylltiad corfforol wrth i’r gyrrwr drosglwyddo’r bwyd i’r cwsmer. Dylid pennu o flaen llaw lle i ollwng y bwyd, er enghraifft wrth garreg y drws. Gellir canu cloch y drws neu gellir curo wrth y drws ac yna dylai’r gyrrwr ymbellhau 6 throedfedd (2 fetr) yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle bo’r cwsmer naill ai’n hunanynysu neu’n sâl.
  • Rhaid i chi sicrhau bod gennych system ar waith sy’n galluogi’r cwsmer i roi gwybod i chi am unrhyw hunanynysu / salwch cyn i chi ddosbarthu’r bwyd. Ni ddylai gyrwyr fynd i mewn i eiddo’r cwsmer dan unrhyw amgylchiadau.

Cludfwyd

  • Os ydych yn bwriadu darparu bwyd y gall cwsmeriaid ei gasglu o’ch eiddo, mae llawer o’r canllawiau uchod dal yn briodol.
  • Dylech annog talu drwy ddulliau di-arian, gyda thaliadau dros y ffôn, taliadau sydd wedi eu seilio ar y we, taliadau drwy BACS neu daliadau digyffwrdd yn cael eu ffafrio.
  • Dylech hefyd bennu ardal risg isel i drosglwyddo bwyd. Dylai’r ardal hon fod yn bell oddi wrth ardal y gegin a chyn belled â phosibl oddi wrth gymaint o staff â phosibl.
  • Dylai staff sy’n trosglwyddo’r bwyd osod y bwyd i lawr a chadw pellter synhwyrol oddi wrth y cwsmer. Dylid glanweithio’r ardal hon yn rheolaidd drwy gydol y dydd, gan gynnwys unrhyw arwyneb a ddaw i gysylltiad â dwylo ac y byddai cwsmeriaid yn eu defnyddio er enghraifft dolenni drysau, wyneb cownteri neu glychau gwasanaeth.

www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/ (Saesneg yn unig)

icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/